Skip to main content

Transport for Wales gets on board for Brighter Journeys

13 Mai 2022

Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ynghyd â Network Rail a’r diwydiant ehangach, mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymuno â Chasing the Stigma i gefnogi lles teithwyr gyda Brighter Journeys.

Rhwng 17-19 mis Mai, bydd blodau yn cael eu gosod yng ngorsaf Caerdydd Canolog i gefnogi’r ymgyrch gan wneud i’r orsaf deimlo’n fwy lliwgar ac yn hapusach i deithwyr sy’n dod yn ôl i deithio ar drenau ers codi cyfyngiadau Covid.

Bydd yr ymgyrch Brighter Journeys yn dod â’r awyr agored dan do, gyda blodau hyfryd yn croesawu’r teithwyr wrth iddynt gychwyn ar eu taith. Y nod yw bod yr arddangosfeydd synhwyraidd hyn yn sioc bleserus sy’n codi calon pobl ac yn rhoi gwên ar eu hwynebau wrth iddynt fynd i’r gwaith neu am ddiwrnod allan gyda’r teulu. Mae ymchwil yn dangos bod rhyngweithio â natur yn gwneud i bobl deimlo’n fwy cadarnhaol ac yn fwy cadarn a digynnwrf*. Mae’r ymgyrch hon yn defnyddio pŵer natur i wneud i bobl deimlo’n hapusach ac yn fwy cysylltiedig â’u gorsaf drenau leol, gan godi ymwybyddiaeth o’r ap Hub of Hope sy’n cyfeirio pobl at wasanaethau cymorth os ydynt yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.

Daw’r ymgyrch yn sgil data newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n dweud bod dros draean o oedolion (35%) yn dweud eu bod yn poeni ‘llawer’ neu ‘rywfaint’ am effaith y pandemig ar eu bywydau ‘ar hyn o bryd’*.

Mae Bethan Jelfs, Cyfarwyddwr Pobl a Newid Trafnidiaeth Cymru, yn sôn am bwysigrwydd gofalu am ein gilydd a’r dewisiadau cymorth sydd ar gael. Dywedodd: “Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ein hatgoffa’n amserol o’r angen i ofalu amdanom ni ein hunain a’n gilydd. Dyna pam rydyn ni’n cefnogi Brighter Journeys ac yn annog cwsmeriaid a allai fod yn ei chael hi’n anodd i rannu a lawrlwytho’r ap Hub of Hope.”

Ychwanegodd Jake Mills, sylfaenydd Chasing the Stigma a’r ap Hub of Hope: “Mae’n wych gweithio gyda Network Rail ar yr ymgyrch Brighter Journeys. Mae natur yn bwysig iawn i iechyd meddwl, felly rydyn ni’n gobeithio y bydd teithwyr yn mwynhau gweld y blodau ac y byddan nhw’n rhoi gwên ar wynebau pobl. Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn eich atgoffa nad oes neb ar ei ben ei hun, ac mae cymorth iechyd meddwl ar gael unrhyw bryd, does dim rhaid i chi fod mewn argyfwng i gael help. Os oes unrhyw un yn ei chael hi’n anodd neu’n adnabod rhywun sydd angen help, lawrlwythwch ap Hub of Hope.”

Bydd Brighter Journeys yn annog pobl i rannu a lawrlwytho’r ap Hub of Hope os ydyn nhw neu rywun maen nhw’n ei adnabod yn cael anawsterau gyda’u hiechyd meddwl. Mae Hub of Hope yn ap sydd ar gael am ddim ac mae’n cysylltu pobl â dros  4,000 o wasanaethau cymorth iechyd meddwl ar draws y Deyrnas Unedig. Mae ar gael ar iPhone, Android a bwrdd gwaith (www.hubofhope.co.uk) ac mae’n cyfeirio pobl at y gefnogaeth leol berthnasol agosaf naill ai drwy ddefnyddio’r cod post sy’n cael ei deipio gan y defnyddiwr neu leoliad y porwr gwe neu’r ddyfais symudol. Mae modd hidlo’r chwilio yn ôl pryder penodol/math o gymorth sydd ei angen, er enghraifft grwpiau cymar-i-gymar, grwpiau GIG neu wirfoddol. I’r rheini sydd angen help ar unwaith, mae gan yr ap fotrwm ‘Need Help Now?’ sy’n cysylltu defnyddwyr yn uniongyrchol â’r Samariaid neu wasanaeth negeseuon Llinell Testun Crisis.

Llwytho i Lawr