- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
01 Meh 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ailagor Pont Adam Street i wasanaethau teithwyr yn dilyn cwblhau rhaglen waith gwerth £4.3m i adfer ac atgyweirio'r bont 130 oed.
Mae'r rhan o'r bont a oedd yn cludo'r llinell uniongyrchol o orsaf Heol y Frenhines i Fae Caerdydd wedi bod ar gau ers mis Mawrth 202. Roedd angen gwneud gwaith atgyweirio sylweddol iddo oherwydd difrod cyrydol. Arweiniodd y difrod at gyfyngiadau ar gapasiti’r bont i gludo llwythi a chyfyngu ar gyflymder gwasanaethau trên.
Dywedodd Phil Rawlings, Pennaeth Rheoli Asedau TrC: "Rydym yn falch o fod wedi cwblhau cam cyntaf o’r gwaith o atgyweirio Pont Adam Street yn llwyddiannus. Bydd hyn yn caniatáu i wasanaethau teithwyr hanfodol drwy'r ddinas redeg unwaith yn rhagor.
"Mae gwaith atgyweirio pellach i ganiatáu i draffig cludo nwyddau ddefnyddio'r bont hefyd yn mynd rhagddo'n dda a bydd wedi'i gwblhau dros yr wythnosau nesaf.
"Hoffwn ddiolch i'r holl dimau sy'n gysylltiedig â Seilwaith Amey Cymru (AIW) a Centregreat am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf i gyflawni'r prosiect mor llwyddiannus".
Roedd Pont hanesyddol Adam Street yn gyfuniad o waith adeiladu cymhleth oedd yn wreiddiol yn cael ei ddal at ei gilydd gyda rhybedion. Roedd hyn yn ychwanegu at gymhlethdod y gwaith atgyweirio angenrheidiol, gan fod gan bontydd modern adrannau penodol sydd wedi'u bolltio gyda'i gilydd.
Cyflwynwyd y rhaglen waith gwreiddiol ym mis Medi 2020 a pharhaodd y gwaith trwy gydol 2021, gan gynnwys gwaith cryfhau trawstiau yn ogystal ag adnewyddu trawstiau a gosod rhai newydd, disodli dec y bont yn llwyr gyda dur, gwneud gwaith dur newydd ategol, gwaith dal dŵr a gorffennu’r gwaith.
Gan fod sŵn yn sgil y gwaith yn her oherwydd natur y gwaith, rhoddodd Trafnidiaeth Cymru a'i bartneriaid fesurau lliniaru ar waith gan gynnwys gweithio yn ystod y nos er mwyn lleihau unrhyw anghyfleustra.
Cwblhawyd hyn i gyd gan ganiatáu i'r trac gael ei adfer yn barod ar gyfer gwasanaethau teithwyr ddechrau mis Mai.