- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
01 Meh 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi treialu gwasanaeth digidol newydd ar y trên sy'n darparu cyhoeddiadau gwybodaeth personol am deithiau i deithwyr sydd wedi colli eu clyw.
Cafodd y cais Hearing Enhanced Audio Relay (HEAR) ei brofi'n llwyddiannus ar drenau Trafnidiaeth Cymru ar lwybr Rhymni – Penarth am ddau fis, gyda'r nod o wneud teithiau teithwyr sydd wedi colli eu clyw yn well.
Mae'r rhaglen yn galluogi teithwyr sydd wedi cysylltu â'r Wi-Fi ar fwrdd y trên i dderbyn cyhoeddiadau personol am deithiau i'w dyfeisiau clyfar mewn amser real. Gellir teilwra'r hysbysiadau hyn yn benodol i ddewisiadau teithwyr, er enghraifft, dim ond eu hysbysu am gyhoeddiadau sy'n ymwneud â'u cyrchfan, mewn fformatau clywadwy a darllenadwy. Ariannwyd HEAR gan yr Adran Drafnidiaeth drwy ei chystadleuaeth 'First of a Kind 2021' gwerth £9m, a gyflwynwyd gan Innovate UK (rhan o UKRI).
Dywedodd Michael Davies, Rheolwr Mewnwelediad ac Arloesi Trafnidiaeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i wneud ein rhwydwaith mor hygyrch â phosibl. Mae gweithio gyda GoMedia ar HEAR wedi rhoi cyfle i ni ddod o hyd i ateb a allai gynnig manteision enfawr i gwsmeriaid ac annog pobl i ddewis defnyddio'r trên."
Amcangyfrifir bod colli clyw yn effeithio ar un o bob chwech o bobl ym mhoblogaeth oedolion y DU[1] ac erbyn 2031, bydd 14.5 miliwn o bobl, tua 20% o boblogaeth y DU, yn dioddef o ryw fath o golled clyw[2]. Mae dros 60% o deithwyr sydd ag anghenion hygyrchedd yn cael anhawster i deithio'n annibynnol, gan ei gwneud yn bwysicach nag erioed i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn fwy hygyrch i bob teithiwr.
Ychwanegodd Roger Matthews, Rheolwr Gyfarwyddwr GoMedia: "Mae HEAR yn ateb mwy amlbwrpas a chost-effeithlon na dolenni clyw drud ar drenau. Mae manteision y dull hwn hefyd yn ymestyn y tu hwnt i wella hygyrchedd teithwyr sydd wedi colli eu clyw. Mae modd addasu'r ap ei hun, mae'n gweithio mewn sawl iaith a gall roi trosolwg i deithwyr o gyhoeddiadau a wnaed yn flaenorol a diweddariadau ynghylch oedi posib. Mae hyn yn ei wneud yn offeryn defnyddiol i bob teithiwr, os ydynt yn ymweld o dramor neu'n hoffi ymlacio ar eu taith heb orfod pryderu am wrando ar gyhoeddiadau."
Datblygodd GoMedia - is-gwmni Icomera ac EQUANS – y dechnoleg gyda chymorth elusennau Hearing Link a Hearing Dogs gyda'r nod o leddfu'r anawsterau y mae teithwyr ag anghenion hygyrchedd yn eu hwynebu, gan ddefnyddio technoleg bwrpasol sy'n cael ei phweru gan wybodaeth amser real.
Canfu arolwg o 58 o bobl â cholled clyw a gynhaliwyd gan elusennau Hearing Link a Hearing Dogs y byddai 96% wrth eu bodd pe byddai dyfais fel HEAR ar gael ar drafnidiaeth gyhoeddus fel ar hyn o bryd. Dim ond 7% oedd rhywfaint yn hyderus y byddent yn cael gwybod am newidiadau neu unrhyw newid neu amhariad i’w taith, a dim ond 16% oedd yn teimlo eu bod yn cael eu trin yr un mor gyfartal â phobl a cholled clyw.
Nodiadau i olygyddion
[1] Ystadegau drwy garedigrwydd Hearing Link
[2] Diolch i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU