English icon English

Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru am coronafeirws

Welsh Government coronavirus update

Disgwylir y bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau yfory y bydd y rheoliadau coronafeirws olaf yn cael eu dileu o ddydd Llun 30 Mai.

Bydd yn cyhoeddi canlyniad yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o’r rheoliadau mewn cynhadledd i’r wasg am hanner dydd yfory (dydd Gwener).

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i argymell bod pobl yn cymryd camau syml i ddiogelu eu hiechyd - gan gynnwys sicrhau eu bod yn manteisio ar y brechlynnau Covid sy’n cael eu cynnig iddynt a hunanynysu os oes ganddynt symptomau Covid-19.

Dros y tair wythnos ddiwethaf, mae’r sefyllfa iechyd y cyhoedd wedi parhau i wella ac mae nifer y cleifion Covid-19 yn yr ysbyty yn lleihau’n raddol, er bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn parhau i wynebu pwysau o ganlyniad i gyfuniad o bwysau argyfwng a phandemig.