English icon English
Urdd - Theatr Ieuenctid - Cast cyfan

Theatr Ieuenctid yr Urdd yn dychwelyd i'r llwyfan

Urdd Youth Theatre to return to the limelight

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi cyllid newydd i ail-lansio theatr ieuenctid yr Urdd, sef Cwmni Theatr Ieuenctid Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd i gefnogi ail-lansiad y theatr.

Sefydlwyd Cwmni Theatr Ieuenctid Cymru yn yr 1970au, gyda’r nod o ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed i fwynhau ac ehangu eu profiadau celfyddydol trwy gyfrwng y Gymraeg, ond daeth i ben yn 2019.

Mae’r Urdd yn dathlu ei ganmlwyddiant eleni, gydag Eisteddfod yr Urdd, sy’n dychwelyd am y tro cyntaf ers 2019, yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid fel bod mynediad am ddim i’r Eisteddfod eleni.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Rwy’n falch ein bod ni’n gallu cefnogi’r Urdd i ail-sefydlu’r Theatr Ieuenctid, a fu’n darparu cyfleoedd i gynifer o actorion ifanc dros genedlaethau, gyda rhai ohonynt wedi symud ymlaen i enwogrwydd byd-eang.

“Bydd y theatr yn parhau â’i thraddodiad o ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc o bob cefndir i weithio gyda goreuon y theatr, gan agor byd y ddrama Gymraeg i gynulleidfa newydd sbon drwy gysylltiadau cymunedol cryf yr Urdd.”

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd:

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Jeremy Miles am gadarnhau cefnogaeth parhaus Llywodraeth Cymru i’r Urdd fel Mudiad, drwy sicrhau dyfodol Theatr Ieuenctid yr Urdd am y bum mlynedd nesaf. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi strategaeth y Llywodraeth i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac yn benderfynol o gynnal a datblygu ar werth canrif o’n gwasanaeth a darpariaeth i blant a phobl ifanc Cymru ymhell i’r dyfodol.”

Ychwanega Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau:

“Dros y degawdau mae Theatr Ieuenctid yr Urdd wedi cynnig cyfleoedd unigryw a bythgofiadwy i rai miloedd o ieuenctid Cymru oedd â diddordeb ym myd y theatr. Gwelwn yr angen heddiw - yn fwy nac erioed yn sgil effaith Covid - i ddarparu cyfleoedd cyfartal a hyfforddiant amhrisiadwy i’n hoedolion ifanc sydd eisiau dilyn gyrfa yn y celfyddydau, ac mi fydd ail-sefydlu’r Theatr Ieuenctid yn cynnig hynny ar lefel cenedlaethol.”

Meddai’r actor Richard Lynch:

“Rwy’n hynod falch o glywed am y gefnogaeth hon i sicrhau dyfodol Theatr Ieuenctid yr Urdd, ac yn edrych ymlaen at weld ffrwyth y fenter. Cefais y fraint o gael teithio gyda’r Cwmni ddwywaith yn yr 80au, a galla i ddim tanlinellu ddigon pa mor bwysig oedd y profiadau hynny i mi, drwy sbarduno’r camau cyntaf i fyd y theatr. Roedd cael y cyfle i ymarfer ac yna perfformio ar brif lwyfannau Cymru yn ogystal â gwneud ffrindiau oes yn brofiad hollol ysgubol, ac rwy’n diolch o galon am bob cyfle.”

Nodiadau i olygyddion

Anfonwch unrhyw geisiau am gyfweliadau gyda'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg i Matthew Morris.