English icon English

Lansio cronfa newydd i gefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw

New fund launched to support unpaid carers in Wales during the cost of living crisis

Bydd gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn gallu cael cymorth gan gynllun i’w helpu i brynu eitemau hanfodol yn ystod yr argyfwng costau byw.

Bydd gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn gallu cael cymorth gan gynllun i’w helpu i brynu eitemau hanfodol yn ystod yr argyfwng costau byw.

Bydd gofalwyr sy’n gofalu am oedolyn neu blentyn anabl yn gallu gwneud cais am grant hyd at £300 i dalu am fwyd, eitemau i’r cartref, ac eitemau electronig.

Bydd gwasanaethau cymorth, megis cwnsela, cyngor ariannol, llesiant, a chymorth gan gyfeillion cefnogol hefyd ar gael.

Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad gwerth £4.5m yn y Gronfa Gymorth i Ofalwyr gan Lywodraeth Cymru yn ystod y tair blynedd ariannol nesaf, wedi ei rannu’n £1.5m bob blwyddyn.

Bydd yr arian yn helpu gofalwyr di-dâl sy’n dioddef caledi ariannol oherwydd yr argyfwng costau byw ac effeithiau parhaus y pandemig.

Gall fod yn hynod anodd i ofalwyr dalu costau gofal di-dâl oherwydd biliau ynni uchel i gadw eu cartrefi’n gynnes, costau teithio i apwyntiadau ysbyty, a chostau prynu offer arbenigol neu gadw at ofynion deietegol.

Cafodd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr ei sefydlu ym mis Hydref 2020 gyda £1m, fel ymateb i dystiolaeth gynyddol o ba mor anodd oedd hi i ofalwyr di-dâl ymdopi ag effeithiau ariannol y pandemig.

Cafodd £1.4m ychwanegol ei neilltuo'r flwyddyn ganlynol, gyda thros 10,000 o ofalwyr di-dâl sydd ar incwm isel yn manteisio ar y gronfa ers iddi gael ei lansio.

Cafodd 70% o grantiau eu darparu drwy gynllun talebau ar gyfer bwyd neu bethau eraill.

Dywedodd rhywun, a oedd wedi cael cymorth, fod y grant wedi lleihau’r pwysau arno i raddau helaeth y mis hwnnw o ran sut yr oedd yn mynd i gadw ei blant yn gynnes, a bod yr arian yr oedd wedi ei arbed wrth siopa wedi mynd yn syth i  mewn i’r meter nwy.

Am y ddwy flynedd dan sylw, mae’r gronfa wedi cael ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a’u partneriaid lleol.

Bydd y gronfa dair blynedd yn helpu i weithredu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol, drwy ddiogelu a datblygu gwasanaethau ar gyfer grŵp agored i niwed.  

Nid yw bod yn gymwys i gael y grant hwn yn gysylltiedig â’r Lwfans Gofalwr, pensiynau na budd-daliadau eraill. Bydd y manylion am sut i wneud cais am y grant ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Does dim ffordd o fesur y cyfraniad enfawr y mae gofalwyr di-dâl ledled Cymru yn ei wneud i wella iechyd, llesiant, diogelwch, ac ansawdd bywyd y rheini y maen nhw’n gofalu amdanynt. Ar yr un pryd maen nhw’n lleihau’n sylweddol y baich ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.  

“Dw i’n gobeithio y bydd y cyllid hwn yn helpu i gefnogi’r rheini yn eu plith sy’n dioddef caledi ariannol yn ystod yr argyfwng costau byw.

“Dw i wedi siarad â llawer o ofalwyr sydd wedi dweud sut mae’r gronfa wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau, fel y gallu i dalu am ginio Nadolig a chael nwyddau trydanol hanfodol. Dyna pam dwi mor falch ein bod yn gallu parhau â’r cyllid am y tair blynedd nesaf.”

Dywedodd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd y gronfa hanfodol hon a’i bod wedi ei hymestyn i weithredu am y tair blynedd nesaf.

“Mae’r Gronfa Gymorth i Ofalwyr eisoes wedi cyrraedd dros 10,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru drwy grantiau a gwasanaethau sy’n eu helpu i ymdopi bob dydd.

“Wrth i’r costau byw gynyddu gan roi ergyd difrifol i ofalwyr, bydd ymestyn y gronfa yn caniatáu inni gefnogi miloedd yn rhagor ohonynt drwy helpu i ddarparu’r cymorth ymarferol ac ariannol y mae ei angen.”  

 

Nodiadau i olygyddion

All adult carers (over 18) and young carers (under 18) caring for a parent or sibling are eligible for the grant scheme.

The Carers Support Fund is delivered consecutively over the next three years 2022-2025 at a cost of £4.5million. (£1.5million per financial year).

Items that can be purchased through grants include a food box, a laptop, a washing machine or internet connection to support access to online services and support groups.

Unpaid carers are defined by the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 as ‘a person who provides or intends to provide care for an adult or disabled child;’ Using this description the grants payable from this fund were eligible to all adult carers (over 18) and to young carers (under 18) caring for a parent or sibling. The grant is not intended to provide cash or any regular income to anyone’s account and therefore there are no implications for tax or benefit payments.

The estimated annual value to the Welsh economy from the care and support provided by unpaid carers, is £8.1 billion though recent estimates by Carers Wales suggests this may now be worth considerably more and around £33m per day due to the pandemic.