- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
08 Meh 2022
Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd streic yn digwydd ddydd Mawrth 21 Mehefin, dydd Iau 23 Mehefin a dydd Sadwrn 25 Mehefin, a fydd yn amharu’n sylweddol ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled y DU gyfan.
Nid oes anghydfod rhwng Trafnidiaeth Cymru a’r RMT. Fodd bynnag, mae’r gweithredu diwydiannol sy’n deillio o’r anghydfod rhwng RMT a Network Rail yn golygu na fyddwn yn gallu gweithredu ein gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.
Ein gwasanaethau
Bydd mwyafrif y gwasanaethau rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal, ac eithrio gwasanaethau ar Linellau Craidd y Cymoedd (CVL) i’r gogledd o Radur yn Ne Cymru.
Bydd gwasanaethau i/o:
- Radur i Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful (wedi'i leihau i wasanaeth bob awr i bob cyfeiriad), gyda chysylltiad gwasanaeth bws i Orsaf Ganolog Caerdydd. Disgwyliwn i'r gwasanaethau hyn fod yn brysur iawn.
Ni fydd unrhyw wasanaethau ar y llwybrau CVL i Rymni, Coryton, Bae Caerdydd a Llinell y Ddinas gan mai Network Rail sy'n gweithredu'r signalau hynny.
Mae disgwyl hefyd y bydd tarfu ar y dyddiau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol. Byddwn yn rhyddhau rhagor o wybodaeth cyn gynted â phosibl.
Tocynnau cyfredol
Gall cwsmeriaid sydd â thocynnau presennol nad ydynt yn rhai tymor sy’n ddilys ar gyfer teithio o ddydd Mawrth 21 Mehefin i ddydd Sadwrn 25 Mehefin ddefnyddio’r tocynnau hyn unrhyw bryd rhwng dydd Llun 20 Mehefin a dydd Llun 27 Mehefin. Fel arall, gall cwsmeriaid hawlio ad-daliad llawn, heb unrhyw ffi weinyddol. Gall deiliaid tocyn tymor wneud cais am iawndal drwy Ad-daliad am Oedi (Delay Repay).
Yn y cyfamser, ni fyddwn yn gwerthu tocynnau Ymlaen Llaw (Advance) ar gyfer y tri dyddiad streic cyntaf er mwyn lleihau nifer y bobl yr amharir arnynt. Rydym yn cynghori cwsmeriaid i barhau i wirio gwefannau TrC neu Traveline, a gwefannau gweithredwyr eraill, am ddiweddariadau.