Skip to main content

TfW makes pledge to better support people with disfigurements

19 Mai 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi ymrwymo i fod yn sefydliad ‘Pledge To Be Seen’ i gynyddu cynrychiolaeth gadarnhaol o bobl sydd â gwahaniaethau ac anffurfiadau amlwg ar draws y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru.

Gan weithio gyda’r elusen Changing Faces, mae TrC wedi ymuno â nifer cynyddol o fusnesau a sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, sydd wedi gwneud addewid i wella eu dealltwriaeth o sut mae bywyd pan fo gennych chi wahaniaeth amlwg, fel rhan o’u rôl fel cyflogwr cynhwysol.

Wrth lofnodi’r addewid, mae’r sefydliadau hefyd yn ymrwymo i gynnwys cynrychiolaeth fwy cadarnhaol o bobl sydd â gwahaniaethau amlwg mewn deunyddiau cyfathrebu allanol, fel ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd a hysbysebion swyddi.

Dywedodd Rachael Holbrook, Partner Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru: “Ein huchelgais yw bod yn un o’r cyflogwyr gora yng Nghymru gyda chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud.

“Yn ddiweddar rydyn ni wedi cynnwys unigolyn sydd â gwahaniaeth amlwg mewn ymgyrch farchnata a bydd hyn bellach yn cael ei ystyried ar gyfer pob ymgyrch.

“Mae bod yn sefydliad Pledge To Be Seen yn gam pwysig arall tuag at wreiddio ein gwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ein diwylliant yn TrC ac fe hoffem ni ddiolch i Changing Faces am yr wybodaeth, yr amser a’r gefnogaeth maen nhw wedi’i rhoi i’n staff.”

Mae TrC wedi gwneud yr ymrwymiad yn ystod Wythnos Cydraddoldeb Wynebau (16 – 20 Mai), wrth i Changing Faces ryddhau ymchwil newydd, a wnaed gan Savanta ComRes, a wnaeth ganfod fod pobl â gwahaniaethau amlwg wedi gweld cynnydd mewn ymddygiad gelyniaethus wrth iddyn nhw fynd allan yn gyhoeddus, gyda chynnydd o draean (34%) yn 2019 i dros ddau o bob pump (43%) yn 2021.

Fe wnaeth yr ymchwil hefyd yn dangos bod hyn yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl a lles pobl sydd â gwahaniaeth amlwg, gyda hanner yr ymatebwyr (51%) yn dweud eu bod wedi teimlo’n hunanymwybodol neu’n annifyr o ganlyniad i’w gwahaniaeth amlwg. Roedd chwarter (25%) yn dweud eu bod yn teimlo’n ynysig ac yn unig oherwydd eu gwahaniaeth amlwg. A phan fydd pobl sydd â gwahaniaeth amlwg yn mynd allan, mae tri o bob deg (28%) yn dweud eu bod pobl yn syllu arnyn nhw.

Dywedodd Phil Gorf, llysgennad Changing Faces: “Rydw i’n falch iawn bod Trafnidiaeth Cymru bellach yn gyflogwr Pledge To Be Seen. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae llawer o’r tîm staff eisoes wedi cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth gyda Changing Faces, gan glywed gennyf fi ac eraill am ein profiadau o fyw bywyd gyda gwahaniaeth amlwg.

“Pan mae gennych chi wahaniaeth amlwg, mae gweithgareddau bob dydd fel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn gallu bod yn frawychus, heb wybod a fydd pobl yn syllu arnoch chi, yn gwneud sylwadau, neu’n waeth. Mae’n wych gweld sefydliad fel Trafnidiaeth Cymru yn arwain y ffordd. Rydw i’n gobeithio y bydd busnesau a grwpiau trafnidiaeth eraill yn dilyn eu hesiampl oherwydd mae cynrychiolaeth gadarnhaol yn bwysig, gallwn ni herio rhagfarn pan fyddwn ni’n siarad am wahaniaeth ac yn ei ddathlu.”

Yn ystod Wythnos Cydraddoldeb Wynebau eleni, mae Changing Faces wedi bod yn rhoi cyngor i’r cyhoedd ynglŷn â sut i roi’r gorau i syllu cyn iddo ddigwydd, ac awgrymiadau ynglŷn â beth i’w wneud os byddwch chi’n dal eich hun yn syllu ar rywun sydd â gwahaniaeth neu anffurfiad amlwg.

Yn ogystal ag awgrymiadau i’r cyhoedd, mae Changing Faces hefyd yn cynnig cyngor i gyflogwyr. Fe wnaeth yr ymchwil ganfod bod ychydig dros chwarter (27%) y bobl sydd â gwahaniaeth amlwg wedi cael pobl yn syllu arnyn nhw yn y gwaith, a bod bron i un o bob pump (17%) o’r ymatebwyr wedi cael eu diystyru ar gyfer cyfleoedd datblygu, dyrchafiad, cynnydd mewn cyflog neu gyswllt â chleientiaid/cwsmeriaid yn y gweithle oherwydd eu gwahaniaeth amlwg.

Dywedodd Heather Blake, prif weithredwr Changing Faces: “Rydyn ni’n falch iawn bod Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad Pledge To Be Seen, gan ddysgu mwy am y profiad o fyw bywyd gyda gwahaniaeth neu anffurfiad amlwg.

“Rydyn ni’n gwybod bod gweld eich hun yn cael ei gynrychioli yn gallu cael effaith gadarnhaol. Dyna pam mai rhan o’r ymrwymiad Pledge To Be Seen yw cytuno i gynnwys mwy o bobl sydd â gwahaniaethau amlwg mewn ymgyrchoedd a hysbysebion. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Trafnidiaeth Cymru, er mwyn i bawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u parchu wrth deithio yng Nghymru.”