- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
31 Mai 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn atgoffa cwsmeriaid i wirio cyn teithio dros ŵyl banc y Jiwbilî Platinwm, a disgwylir i wasanaethau rheilffordd fod yn brysur iawn.
Mae nifer o ddigwyddiadau mawr yn cael eu cynnal ledled rhwydwaith rheilffyrdd TrC, gan gynnwys digwyddiadau sy’n dathlu saith degawd y Frenhines ar yr orsedd, gŵyl gerddoriaeth “In It Together” ym Mhort Talbot, cyngherddau cerdd yn Abertawe a Chaerdydd, brwydr teitl byd y bocsiwr Joe Cordina yn y Motorpoint Arena, a gêm ail gyfle hollbwysig tîm pêl-droed dynion Cymru yng Nghwpan y Byd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae tywydd cynnes a heulog hefyd yn cael ei ddarogan, sy’n golygu y bydd cyrchfannau twristiaid fel Ynys y Barri, Dinbych-y-pysgod ac arfordir Gogledd Cymru hefyd yn debygol o weld niferoedd sylweddol o ymwelwyr yn ystod y dydd.
Mae nifer y teithwyr ar benwythnosau wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf, felly bydd cynnydd pellach yn nifer y teithwyr yn golygu y bydd rhai trenau ar draws y rhwydwaith yn debygol o fod yn llawn a dim ond lle i sefyll yn unig.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud y mwyaf o'r capasiti sydd ar gael ac yn atgyfnerthu hyn lle bo angen gyda thrafnidiaeth ffordd atodol. Bydd mwy o staff yn bresennol ar draws y rhwydwaith hefyd i helpu cwsmeriaid dros y penwythnos.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru:
“Rydym yn parhau i weld galw uchel iawn am ein gwasanaethau, yn enwedig ar adegau prysur, y penwythnosau ac yn ystod cyfnodau o dywydd da. Mae'r holl gerbydau sydd ar gael mewn gwasanaeth a lle bo modd, rydym yn darparu trafnidiaeth ffordd atodol.
“Fodd bynnag, mae ein gwasanaethau yn parhau i gael eu heffeithio gan y gwrthdrawiad trên diweddar gyda chloddiwr bach ger Craven Arms, sy’n golygu bod nifer o gerbydau allan o wasanaeth. Fodd bynnag, bydd effaith y weithred droseddol ddifrifol hon yn parhau i gael effaith am gryn amser.
“Mae bellach yn bwysicach nag erioed i gynllunio ymlaen llaw gan ddefnyddio gwybodaeth ar ein gwefan newydd, ein ap a ddiweddarwyd yn ddiweddar neu ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Dylai teithwyr ystyried a ydynt am deithio ar drenau sy’n debygol o fod yn llawn ac a lle i sefyll yn unig, a defnyddio ein Gwiriwr Capasiti – offeryn ar-lein sy’n galluogi cwsmeriaid i weld pa drenau sy’n debygol o fod â’r mwyaf o le.”
Nodiadau i olygyddion
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi lansio ymchwiliad troseddol mawr ac apêl am wybodaeth am y gwrthdrawiad trên diweddar gyda chloddiwr bach ger Craven Arms. Dylai unrhyw un sydd efallai â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydain cyn gynted â phosibl drwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu cyfeirnod 665 o 22/05/22.