English icon English

Penodi Helen Mary Jones i Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru

Helen Mary Jones appointed to Social Care Wales Board

Heddiw (dydd Mawrth 31 Mai), mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi penodiad Helen Mary Jones i Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Dywedodd Julie Morgan: “Dw i wrth fy modd yn penodi Helen Mary Jones yn Aelod newydd o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd yn dod â phrofiad a gwybodaeth helaeth i'r Bwrdd.

Mae Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyfrifol ar y cyd am sicrhau bod cyfeiriad strategol Gofal Cymdeithasol Cymru yn canolbwyntio ar nodau llesiant Cymru, egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a gofynion Deddf Rheoleiddio ac Arolygu (Cymru) 2016.

Hoffwn ddiolch i'r holl ymgeiswyr a wnaeth gais i fod yn aelod o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru. Roedd y pwll o ymgeiswyr ar gyfer y ddwy swydd yn gryf iawn ac yn cynnwys amrywiaeth eang o ddiddordebau a sgiliau.”

Sefydlwyd Gofal Cymdeithasol Cymru o dan ddarpariaeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru'n gyfrifol am fod yn rheoleiddiwr proffesiynol y gweithlu gofal cymdeithasol ac am arwain gwelliant yn y sector.

Bydd penodiad Helen Mary Jones yn para o 1 Mai 1022 tan 30 Ebrill 2026 ac fe fydd yn cael tâl o £282 y diwrnod yn seiliedig ar ymrwymiad amser o 24 diwrnod y flwyddyn.

Gwnaed y penodiad hwn yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd ar Benodiadau gan Weinidogion.

Gwneir yr holl benodiadau ar sail teilyngdod ac nid oes gan weithgarwch gwleidyddol unrhyw ran yn y broses ddethol.  Er hynny, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae gofyn i'r sawl a gaiff ei benodi ddatgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn gyhoeddus (os yw'n datgan ei fod wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol).

Nid yw'r unigolyn yn dal unrhyw benodiad Gweinidogol arall.