English icon English
Hannah Blythyn (L)

Dull Tîm Cymru yn gwneud cynnydd wrth i Fil newydd gael ei gyflwyno i’r Senedd

Team Wales approach makes progress as new Bill is introduced to the Senedd

Mae Bil newydd i wella llesiant a gwasanaethau cymdeithasol, drwy bartneriaeth gymdeithasol a chaffael cymdeithasol gyfrifol, wedi cael ei gyflwyno heddiw gan y   Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn.

Bydd Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn rhoi dull llwyddiannus Cymru o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ar y llyfr statud.

Yn ôl y Prif Weinidog, Mark Drakeford, mae partneriaeth gymdeithasol yn “ffordd o weithio sy’n unigryw i Gymru” – ffordd o weithio sy’n dod â phobl, busnesau a gwasanaethau at ei gilydd i weithio tuag at nod cyffredin.

Bydd y Bil yn creu fframwaith statudol ar gyfer partneriaeth gymdeithasol ar lefel Cymru gyfan drwy sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol parhaol, gan ddod â Llywodraeth Cymru, cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr wedi’u henwebu gan TUC Cymru at ei gilydd.

Mae’r Bil yn rhoi dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus penodol ac ar Weinidogion Cymru, ac yn hyrwyddo gwaith teg wrth weithio tuag at nodau llesiant a chaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol.   

Mae hefyd yn ceisio gwneud Cymru yn gryfach ac yn lle tecach i fyw a gweithio ynddo, drwy helpu i uno llywodraeth, gweithwyr a gwasanaethau er mwyn gwireddu’r weledigaeth gyffredin ar gyfer Cymru ffyniannus, gydnerth, iachach a mwy cyfartal, ynghyd â diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg sy’n ffynnu.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn:

“Mae partneriaeth gymdeithasol yn ganolog i ddull Tîm Cymru o weithio, ac mae wedi bod yn hanfodol inni yn ystod pandemig COVID-19.

“Rhoi sylfaen statudol i bartneriaeth gymdeithasol yw’r cam nesaf amlwg ar gyfer y ffordd hon o weithio – ffordd sy’n unigryw i Gymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydweithio ers cryn amser, ac rydyn ni am ddiogelu partneriaeth gymdeithasol at y dyfodol i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn elwa nid yn unig ar lesiant gwell ond hefyd ar wasanaethau cyhoeddus cadarn a chynaliadwy.

“Bydd yr offerynnau yn y Bil hwn yn helpu partneriaid cymdeithasol i weithio gyda’i gilydd wrth iddyn nhw geisio’r nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)."

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Rwy’n falch iawn o’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus hwn, ac rwy’n enwedig o falch o’r ffordd mae’r partneriaid cymdeithasol rydyn ni’n ymddiried ynddyn nhw, ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r undebau llafur, wedi chwarae rhan annatod wrth sicrhau bod y darn uchelgeisiol hwn o ddeddfwriaeth yn cyrraedd y cam hwn.

“Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i gyflwyno’r Bil ynghynt na’r disgwyl yn ystod y tymor Senedd hwn. Hoffwn i ddiolch yn swyddogol i bawb sydd wedi gweithio mor galed gyda’i gilydd er mwyn gwneud hyn.”

Dywedodd Aelod Dynodedig Cefin Campell:

“Yn ein Cytundeb Cydweithredu, rydyn ni wedi ymrwymo i archwilio sut i bennu targedau ystyrlon fel rhan o uchelgais cyffredin i gynyddu’r lefel o gynhyrchion a gwasanaethau o Gymru sy’n cael eu caffael gan y sector cyhoeddus. Bydd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn chwarae rhan bwysig wrth wireddu’r uchelgais hwn. Rydyn ni hefyd yn gobeithio annog pobl i brynu a defnyddio nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu gwneud a’u darparu yng Nghymru.”