English icon English

Ni fydd hediadau wedi'u hatal rhwng Ynys Môn a Chaerdydd yn ailddechrau

Suspended flights between Ynys Mon and Cardiff will not resume

Ni fydd y gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus yn ailddechrau ar ôl ei atal am ddwy flynedd.

Ni fydd y gwasanaeth awyr Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus (PSO), sydd wedi'i atal ers mis Mawrth 2020 oherwydd effeithiau pandemig COVID, yn ailddechrau, yn dilyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru. Yn hytrach na gwario hyd at £2.9m bob blwyddyn i ariannu'r gwasanaeth awyr, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ffyrdd o fuddsoddi’r arbediad hwn i helpu i gyflwyno pecyn o fesurau i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y Gogledd.

Roedd 77% o'r bobl a oedd yn teithio ar y gwasanaeth awyr yn ei ddefnyddio at ddibenion gwaith. Ond mae newidiadau o ran gweithio gartref bellach wedi newid trefniadau gweithio pobl. Gyda'r symudiad ar-lein, mae Gweinidogion hefyd yn cyhoeddi heddiw cyllid gwerth £4 miliwn i Brifysgol Bangor arloesi ym maes technoleg sydd ar flaen y gad i ddatblygu gwell darpariaeth band eang mewn ardaloedd gwledig.

Mae Canolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol (DSP) y Brifysgol yn cael ei hariannu i ddod â chysylltiadau band eang 5G drwy geblau ffeibr optig i ardaloedd sy’n anos eu cyrraedd. Mae'r brifysgol yn gweithio gyda chonsortiwm o gwmnïau i gynyddu'r capasiti a gwella gallu synhwyro ceblau ffeibr optig a ddefnyddir i ddarparu band eang symudol cyflymach a mwy dibynadwy. Bydd hyn yn cael ei dreialu gyda mwy na 400 o adeiladau ar Ynys Môn nad oes ganddynt fynediad at fand eang cyflym iawn.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am drafnidiaeth: 

“Mae'r pandemig wedi sbarduno newid enfawr i'r ffordd y mae pobl yn gweithio, gyda llai o deithio ar gyfer busnes dros y blynyddoedd diwethaf.

“Nid ydym yn credu y bydd lefelau teithwyr yn dychwelyd i lefel sy'n gwneud y gwasanaeth hwn yn hyfyw yn economaidd nac yn amgylcheddol. Yn hytrach, byddwn yn buddsoddi'r arian sy’n cael ei arbed o redeg y gwasanaeth i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y Gogledd. Bydd hyn o fudd i fwy o bobl ac yn ein helpu i gyrraedd ein targed Sero Net erbyn 2050.” 

Mae'r penderfyniad yn dilyn canlyniad astudiaeth annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i effaith carbon y gwasanaeth ar yr amgylchedd. Dangosodd yr astudiaeth fod y gwasanaeth wedi cael effaith fwy negyddol ar yr amgylchedd nag unrhyw fath arall o deithio rhwng Ynys Môn a Chaerdydd, oni bai ei fod yn hedfan yn agos at gapasiti llawn bob dydd, a fyddai, o ystyried y gostyngiad sylweddol mewn teithio ar gyfer busnes ers y pandemig, yn annhebygol iawn.

Dangosodd y dadansoddiad hefyd, er gwaethaf canfyddiadau cyffredin, nad y gwasanaeth awyr oedd y cyswllt cyflymaf bob amser â Chaerdydd o'r Gogledd, yn enwedig i'r dwyrain o Fangor, lle mae teithio ar y rheilffyrdd mewn gwirionedd yn gyflymach, o ddrws i ddrws. Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cerbydau rheilffordd newydd, gyda Wi-Fi, mannau gwaith cyfforddus ac arlwyo ar y trên, yn golygu bod gwasanaeth rheilffordd Caergybi-Caerdydd bellach yn cynnig arlwy llawer mwy deniadol i'r rheini y mae dal angen iddynt deithio ar gyfer busnes rhwng y Gogledd a'r De.

Mae'r penderfyniad hwn yn dilyn y newyddion ddoe, er bod Cymru ar y trywydd iawn o ran ein targedau hinsawdd, fod llawer mwy y mae angen ei wneud o hyd.

“Mae angen inni sicrhau mwy o ostyngiadau yn ein hallyriadau yn y degawd nesaf nag a gyflawnwyd gennym yn ystod y tri degawd diwethaf os ydym am osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd. Mae'n mynd i fod yn her aruthrol a bydd angen wynebu dewisiadau anodd,” ychwanegodd Lee Waters.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru sydd eisoes wedi dechrau edrych ar yr opsiynau i adeiladu cysylltiadau mwy effeithlon o ansawdd uchel ar draws y Gogledd ac i mewn i’r Gogledd. Yn ogystal â hynny, mae'r rhaglen Metro gwerth miliynau o bunnoedd yn mynd rhagddi.  

Mae Gweinidogion wedi penderfynu defnyddio'r £2.9m o gyllid a glustnodwyd ar gyfer y cyswllt awyr i gyflymu'r gwaith ar gysylltedd rhwng y Gogledd a'r De o fewn rhaglen Metro Gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys cynnydd cyflymach ar Uwchgynllun Caergybi, Porth Bangor a Phorth Wrecsam, ochr yn ochr â gwaith tuag at ddatblygu gorsafoedd newydd ym Mrychdyn a Maes-glas.

Mae'r cynlluniau hefyd yn datblygu gwaith i wella amseroedd teithio a gwasanaeth ar y rheilffordd rhwng Caergybi a Chaerdydd a gwella integreiddio â dulliau teithio cynaliadwy eraill ar hyd y llwybr, er mwyn cyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer pedwar trên yr awr ar Brif Linell Reilffordd Gogledd Cymru, a mynediad rheilffordd haws a chyflymach i dde Cymru. Bydd y gwaith hefyd yn edrych ar opsiynau ar gyfer dyblu amlder y gwasanaeth bysiau rhwng Caernarfon a Phorthmadog, er mwyn gwella cysylltiadau â’r rheilffordd i’r De a’r Canolbarth.

Mae'r prosiectau hyn yn gamau hanfodol ar y llwybr i sicrhau bod pobl yn gallu teithio'n haws ac yn gyflymach rhwng y Gogledd a'r De, gan helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.