English icon English
Down to Earth-2

Hwb o £2.9m i Y Pethau Pwysig Cymru - y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad gwyliau

£2.9m boost for Wales’ Brilliant Basics - the little things which make a big difference to a holiday experience

Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd £2.9m o gronfa gyfalaf Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru yn cael ei rhannu ymhlith 18 o brosiectau a fydd yn helpu i sicrhau gwelliannau seilwaith ar raddfa fach mewn lleoliadau twristiaeth strategol bwysig ledled Cymru. 

Bydd y gronfa, sy'n helpu awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol i gyflawni'r gwelliannau a fydd o fudd i gymunedau ac ymwelwyr, yn cefnogi prosiectau i helpu i leddfu'r pwysau mewn ardaloedd sy'n gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr. 

Bydd y gronfa hefyd yn helpu prosiectau i wella hygyrchedd i safleoedd a phrosiectau sy'n gwneud eu cyrchfannau'n fwy amgylcheddol gynaliadwy. 

Bydd cyllid yn galluogi cwblhau Cynllun Beicio Porthcawl, a fydd yn cysylltu'r llwybr beicio o Rest Bay, â Glan yr Harbwr, a Chanol y Dref i Fae Trecco.   

Gwelir gwella mynediad ar draethau dethol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a fydd yn darparu llwybr cerdded ar draws y tywod, strwythur newid cludadwy gydag offer codi a chadeiriau olwyn ar gyfer  traethau.  Bydd y prosiect hefyd yn gweld mynediad i'r llwybr pren yn Poppit Sands a chreu llwyfan gwylio newydd, gyda chynllun peilot llogi e-feiciau yn cael ei gynnal yn Nhyddewi. 

Bydd amwynderau'n cael eu huwchraddio ar gyfer ymwelwyr a'r cymunedau lleol ym Mharc Gwledig Gwepra a Chwm Maes Glas, dau o fannau gwyrdd treftadaeth mwyaf poblogaidd Sir y Fflint. Bydd y cyfleusterau'n cynnwys gwell toiledau, gan gynnwys toiledau Changing Places ac offer chwarae hygyrch.  

Yn ystod yr ymweliad ag Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr ar gyfer Wythnos Twristiaeth Cymru, bu Gweinidog yr Economi yn ymweld â Down to Earth a lwyddodd i gael cyllid Y Pethau Pwysig y llynedd.  Aeth y Gweinidog ar ymweliad â safle Murton y Fenter Gymdeithasol arobryn – sydd â 100% o drydan adnewyddadwy, gwres a dŵr poeth a chyda'r Pethau Pwysig dyma bwynt gwefru Cerbydau Trydan 50KW cyntaf Gŵyr erbyn hyn. 

Meddai Mark McKenna, cyd-sylfaenydd/cyfarwyddwr Down to Earth, "Mae'n hanfodol gwella'r seilwaith cerbydau trydan ar Benrhyn Gŵyr ac Abertawe er mwyn annog twristiaeth werdd a gwella ansawdd aer.  Gyda'r holl drydan ar gyfer y pwyntiau gwefru cyflym a chyflym yn dod o ynni adnewyddadwy Gŵyr, sy'n eiddo i'r gymuned, mae hefyd yn dangos sut y gallwn wella gwydnwch ynni yn lleol drwy ynni adnewyddadwy 100%!"

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: 

"Rydym yn ymwybodol iawn o gyfraniad pwysig amwynderau twristiaeth lleol ar brofiad cyffredinol rhywun pan fyddant ar drip diwrnod neu ar wyliau. Yn aml, nid ydym yn sylwi ar y cyfleusterau hyn, ond maent yn rhan bwysig o brofiadau pobl pan fyddant yn ymweld â Chymru, tra hefyd o fudd i'r rhai sy'n byw yn yr ardal.  

"Bydd y £2.9m o gyllid newydd rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn mynd i brosiectau a fydd yn ein helpu i wneud ein cyrchfannau'n fwy hygyrch ac yn fwy cynaliadwy, ac i ddatblygu twristiaeth er lles Cymru." 

Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau cyllid i ddatblygu eu prosiect Aros-fan a fydd yn uwchraddio asedau megis meysydd parcio cyhoeddus mewn 6 cyrchfan ar draws Gwynedd i ddatblygu rhwydwaith o leoliadau a fydd yn creu darpariaeth gyfreithlon ar gyfer parcio ‘dros nos’ a chysgu drwy gydol y flwyddyn pwrpasol ar gyfer cartrefi modur yn y sir.

 Croesawodd Dafydd Williams, Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd y cyllid a dywedodd:

“Mae Cyngor Gwynedd wedi gwneud ymchwil sylweddol i gartrefi modur y sir ac wedi gwrando ar farn cymunedau, perchnogion cartrefi modur a gweithredwyr meysydd gwersylla er mwyn deall arosiadau dros nos anghyfreithlon neu amhriodol o fewn y sir.

 “Trwy’r prosiect a ariannwyd gan Pethau Pwysig byddwn yn treialu rhwydwaith o hyd at 6 safle ‘Aros-fan’ ar draws Gwynedd a fydd yn darparu darpariaeth briodol dros nos ar gyfer cartrefi modur a faniau gwersylla sydd gyda’u cyfleusterau eu hunain ar y cerbyd.”

Dywedodd Sioned Williams, Pennaeth Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Er mwyn cefnogi’r economi leol, bydd pob un o’r 6 safle wedi’u lleoli o fewn pellter cerdded i drefi a chyrchfannau allweddol, bydd ganddynt wasanaethau sylfaenol a byddant yn gweithredu uchafswm arhosiad llym o 48 awr.

 “Er na fydd y cyfleusterau hyn yn weithredol yr haf hwn, rydym yn gobeithio y bydd yr holl seilwaith perthnasol yn ei le erbyn Gwanwyn 2023. Os bydd y peilot yn llwyddiannus - efallai y bydd y Cyngor yn ystyried datblygu cyfleusterau Aros-fan pellach yn y sir yn y dyfodol” .

 

Nodiadau i olygyddion

Mae'r Rhestr o brosiectau fel a ganlyn;  

  

Enw’r Sefydliad  

Enw a disgrifiad o’r Prosiect 

Grant

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 

Mynediad i bawb yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol.  

Bydd y cyfleusterau'n cynnwys Lleoedd Newid a Thoiledau i'r anabl, mannau parcio a sgwter symudedd pob tirwedd i'w logi 

117,565.00

Cyngor Sir Powys 

Prosiect Gwella Profiad Ymwelwyr Powys. 

  

Mae'r Prosiect yn canolbwyntio ar dri lleoliad ymwelwyr allweddol ym Mhowys; Aberhonddu, Llandrindod a Llyn Efyrnwy.  Bydd pob lleoliad yn gwneud gwelliannau sy'n galluogi ymwelwyr i gyfeirio eu hunain yn fwy effeithiol wrth gyrraedd yr ardaloedd, ac yn haws dod o hyd i asedau ymwelwyr allweddol a chael mynediad atynt.  

210,400.00

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy  

Meinciau Pier Bae Colwyn. 

Darperir seddi ar y pier a adnewyddwyd yn ddiweddar i wella'r profiad i ymwelwyr a darparu seddau y mae mawr eu hangen ar gyfer y rhai sydd â phroblemau hygyrchedd  

32,000.00

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 

Gwella mapiau, arwyddion a gwybodaeth i ymwelwyr yng Nghonwy a Llandudno 

21,200.00

Cyngor Gwynedd  

Aros-fan 

Bydd y prosiect 'Aros-fan' yn uwchraddio asedau fel meysydd parcio cyhoeddus mewn 6 chyrchfan ar draws Gwynedd i ddatblygu rhwydwaith o leoliadau a fydd yn creu darpariaeth ddilys ar gyfer parcio 'dros nos' a chysgu drwy gydol y flwyddyn at ddibenion cartrefi modur yng Ngwynedd. 

240,000.00

Cyngor Gwynedd  

Parc Gwledig Padarn, Llanberis. 

Bydd y prosiect yn gwneud gwelliannau i'r maes parcio yn ardal Glyn ac yn cynnwys mannau gwefru cerbydau trydan, llochesi beicio, man golchi offer awyr agored a gwaith tir.     

250,000.00

Cyngor Sir Ddinbych 

Gwella Parc Glan yr Afon (Llangollen) 

Gwneir gwelliannau i'r gyrchfan boblogaidd hon ac maent yn cynnwys golff mini, offer chwarae, Seilwaith gwyrdd gan gynnwys pwyntiau gwefru E-feiciau, seilwaith chwarae dŵr, seddi bandstand, byrddau dehongli a mynediad ramp rhwng lefelau'r parc.  

200,000.00

Cyngor Sir y Fflint 

Parciau i Bawb. 

Bydd y prosiect Parciau i Bawb yn uwchraddio ac yn gwella amwynderau i ymwelwyr a'r cymunedau lleol ym Mharc Gwledig Gwepra a Chwm Maes Glas, dau o fannau gwyrdd treftadaeth mwyaf poblogaidd Sir y Fflint.  Bydd y cyfleusterau'n cynnwys gwell darpariaeth toiledau, gan gynnwys toiledau Changing Places ac offer chwarae hygyrch.  

196,000.00

Cyngor Sir Ynys Môn 

Pyrth Arfordirol Môn 

Bydd y prosiect yn cefnogi'r gwaith o gyflawni prosiect Pyrth Arfordirol Môn sy'n cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan, gwefrwyr beiciau trydan, storio beiciau a gwelliannau i waith seilwaith gan gynnwys cyfleusterau Dehongli ac ailgylchu digidol. 

248,000.00

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri  

Gwelliant i Morfa Mawddach, Gwynedd 

Bydd y prosiect yn gweld gwelliannau y mae mawr eu hangen i'r safle poblogaidd hwn ac mae'n cynnwys gwelliannau i'r maes parcio, adnewyddu'r toiledau cyhoeddus, mannau gwefru cerbydau trydan a beiciau. 

72,000.00

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 

Llwybr Arfordir Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr  

Bydd cyllid yn galluogi cwblhau Cynllun Beicio Porthcawl a fydd yn cysylltu'r llwybr beicio o Rest Bay, i Harbourside, a Chanol y Dref i Fae Trecco.  Bydd biniau ailgylchu clyfar hefyd wedi'u lleoli ar hyd y llwybr.  

52,000.00

Cyngor Sir Fynwy 

Croeso Tyndyrn 

Bydd Croeso Tyndyrn yn gwella profiad ymwelwyr mewn mannau cyrraedd allweddol yn Nhyndyrn gan gynnwys yr Abaty, meysydd parcio, arosfannau bysiau canol y pentref ac wrth y man cyrraedd newydd lle mae Ffordd Werdd Dyffryn Gwy (llwybr cerdded a beicio) yn dod i mewn i'r pentref. 

250,000.00

Cyngor Sir Gaerfyrddin 

Datblygiad maes parcio dwyrain Porth Tywyn. 

Bydd gwelliannau'n cynnwys parth parcio hygyrch gyda mannau parcio i'r anabl, pwyntiau cerbydau trydan ychwanegol, cyfleusterau gwefru e-feiciau, 6 pharth parcio cartrefi modur yn ystod y dydd, biniau clyfar, arwyddion newydd a system ddraenio gynaliadwy. 

248,000.00

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 

Gwefru Cerbydau Trydan a Chyfleusterau Cyhoeddus 

Parc Gwledig Margam  

Mae'r prosiect yn cynnwys seilwaith gwefru cerbydau trydan ac adnewyddu cyfleusterau cyhoeddus ar iard y Castell. 

250,000.00

Cyngor Sir Penfro  

Gwella Cyfleusterau Cyhoeddus i wella cynwysoldeb ar Draeth Whitesands. 

Ailgynllunio cyfleusterau cyhoeddus presennol ar Draeth Whitesands i gynnwys Toiled Lleoedd Newid ac Ystafell Deulu. Bydd gorsaf ail-lenwi dŵr hefyd yn cael ei gosod ynghyd â gwelliannau i ymddangosiad mewnol ac allanol y cyfleuster i wella profiad ymwelwyr. 

  

158,900.00

Cyngor Sir Penfro  

Gwella Mynediad i Draeth Dinbych-y-pysgod  

Gwelliannau mynediad i risiau, canllawiau a llwybrau cerdded mynediad ar draethau'r Gogledd, y Castell a'r De yn Ninbych-y-pysgod. 

42,000.00

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro  

Gwnewch y pethau bychain. 

Bydd gwell mynediad i'w weld ar draethau dethol yn Sir Benfro ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a fydd yn darparu llwybr cerdded ar draws y tywod, strwythur newid cludadwy gydag offer codi a chadeiriau olwyn ar gyfer traethau. Bydd y prosiect hefyd yn gweld mynediad i'r llwybr pren yn Poppit Sands a chreu platfform gwylio newydd. Yn ogystal, bydd cynllun peilot llogi e-feiciau yn cael ei gynnal yn Nhyddewi.. 

160,688.00

Cyngor Abertawe 

Lleoedd Newid yn Rhosili a’r Mwmbwls. 

Gosod cyfleusterau toiledau Lleoedd Newid wedi'u creu ymlaen llaw yn Rhosili a'r Mwmbwls. 

148,576.00

   

2,897,329.00