Skip to main content

Cardiff City stars back TfW’s defibrillator campaign

23 Mai 2022

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi cefnogi galwadau Trafnidiaeth Cymru am fwy o barch at ddiffibrilwyr sy’n achub bywydau yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau o fandaliaeth.

Mae saith achos o ddifrodi neu ddwyn diffibrilwyr wedi cael eu cofnodi yn ystod y 12 mis diwethaf mewn lleoliadau ledled Cymru, gan gynnwys yng ngorsaf Parc Ninian gyferbyn â Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae’r chwaraewyr rhyngwladol o Gaerdydd a Chymru sef Rubin Colliwill, Mark Harris, Hollie Smith a Seren Watkins i gyd wedi cymryd rhan mewn fideo sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd cael diffibrilwyr mewn cymunedau.

Bydd y fideo nawr yn cael ei rannu ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol TrC a Dinas Caerdydd i dargedu cefnogwyr pêl-droed iau a phobl sy’n defnyddio trenau.

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Ddinas Caerdydd am y gefnogaeth wych maen nhw wedi’i rhoi i’n hymgyrch diffibriliwr.

“Mae’r diffibrilwyr yn adnodd hanfodol i’r gymuned gyfan ac mae’r fandaliaeth hon yn peryglu bywydau pobl.

“Gall ataliad y galon ddigwydd i bobl o bob oed a gall defnyddio diffibriliwr gynyddu siawns rhywun o oroesi yn sylweddol. Mae’n bwysig bod y diffibrilwyr ar gael mewn lleoliadau allweddol, fel gorsafoedd trenau a stadia chwaraeon, ac mewn cyflwr gweithio da.

“Rydym yn gofyn i unrhyw un sy’n gweld diffibriliwr yn cael ei ddifrodi ffonio’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar unwaith.”

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi bod yn ymwneud â nifer o ymgyrchoedd i wella mynediad at ddiffibrilwyr a hyfforddiant CPR, yn dilyn marwolaeth drist Claire, merch Len Nokes sef meddyg y clwb.

Cafodd Claire ataliad ar y galon yn nhŷ ffrind ym mis Rhagfyr 2016, a chadarnhawyd wedyn bod ganddi gyflwr o’r enw myocarditis. Bu hi farw wyth mis yn ddiweddarach.

Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, mae oddeutu 2,800 o ataliadau ar y galon y tu allan i’r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn, ond dim ond un o bob 20 o bobl sy’n goroesi.

Mae pob munud heb adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a diffibrilio yn lleihau’r siawns o oroesi hyd at 10 y cant, ond mae CPR a diffibrilio ar unwaith yn gallu dyblu’r siawns o oroesi.

Ychwanegodd Adam Fletcher, Pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru: “Mae pob eiliad yn cyfrif pan fydd rhywun yn cael ataliad ar y galon, ac, ochr yn ochr â CPR, mae defnyddio diffibriliwr yn brydlon yn hollbwysig er mwyn rhoi’r siawns orau iddynt oroesi. Yn syml, gallai mynediad at ddiffibriliwr fod yn wahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth, ac mae unrhyw un sy’n fandaleiddio diffibriliwr yn peryglu bywydau.”