Mid & W Wales Fire News

03 Mar 2023

Golchi Ceir yng Ngorsaf Llanandras i Godi Arian

Presteigne Station Fundraising Car Wash

Golchi Ceir yng Ngorsaf Llanandras i Godi Arian: Presteigne Car Wash 04-2

Ddydd Sadwrn 25 Chwefror, cynhaliodd y criw yn Llanandras ddiwrnod golchi ceir llwyddiannus i godi arian ar gyfer achosion da.

Yn ystod y dydd, golchodd y criw gyfanswm o 110 o geir, gan godi'r swm gwych o £1,340. Bydd y swm hwn yn cael ei rannu rhwng Elusen y Diffoddwyr Tân, Apêl Daeargryn Twrci-Syria, a Chronfa Draig Gwsg Llanandras.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn aml yn gweithio'n agos gydag Elusen y Diffoddwyr Tân, sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth hygyrch a grymusol i holl aelodau presennol ac ymddeoledig gwasanaethau tân y DU. Mae Apêl Daeargryn Twrci-Syria yn atseinio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am fod dau aelod o dîm gweithredol y Gwasanaeth, sef Pennaeth Ymateb Rhanbarth y De, Steve Davies, a'r Rheolwr Gwylfa, Phil Irving wedi dychwelyd yn ddiweddar ar ôl cael eu lleoli yn ardal yr argyfwng. Nod Cronfa Draig Gwsg Llanandras yw adfer ac ailosod tirnod lleol, sef cerflun o ddraig sy'n coffáu'r 35,000 o filwyr o Gymru a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'r criw yn ddiolchgar iawn i Radnor Hills am ei rodd ar ffurf nawdd, ac i bawb a gefnogodd y diwrnod golchi ceir.

Presteigne Car Wash 01-2

Presteigne Car Wash 02-2

Gwybodaeth Cyswllt

Steffan John
Communications Officer
Mid & West Wales Fire & Rescue Service - Carmarthen, Carmarthenshire
01267 226853
07805330632
steffan.john@mawwfire.gov.uk