- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
27 Chw 2023
Mae pump ar hugain o gysgodfannau aros newydd sbon yn cael eu gosod ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau fel rhan o fuddsoddiad parhaus Trafnidiaeth Cymru i wella gorsafoedd.
Bydd y cysgodfannau cwbl hygyrch hyn yn cymryd lle nifer o hen rai metel a brics ar draws y rhwydwaith, a bydd adborth gan gwsmeriaid yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i arwain gwaith Trafnidiaeth Cymru yn y maes hwn.
Mae camau cyntaf y prosiect eisoes wedi eu cwblhau yn Neganwy, Llanfairpwll, Penrhyndeudraeth, Rhosneigr, Penmaenmawr, Clunderwen a Johnston.
Disgwylir i'r gwaith ddechrau'n fuan yn Aberdaugleddau, Tondu a Hendy-gwyn ar Daf, Rhiwabon, Frodsham, Nantwich, Tŷ Croes, Llanllieni, Llandrindod a Lydney i'w gwblhau erbyn y gwanwyn.
Methodd Matthew Marchant, 28, teithiwr o Sir Benfro, gael ei gadair olwyn i mewn i'r gysgodfan yng ngorsaf Johnston oherwydd gwefus goncrit ar y llawr.
Cododd y mater hwn gyda staff TrC ac mae’r gysgodfan bellach wedi’i disodli gan un cwbl hygyrch.
Dywedodd Matthew: “Rwyf wrth fy modd gyda'r gysgodfan aros newydd yn Johnston.
“Roedd yr hen un ar ddarn o goncrit wedi'i godi felly roedd bron yn amhosibl cael fy nghadair olwyn i mewn yno, ymhell o fod yn ddelfrydol yn y glaw!
“Fe wnes i awgrymu bod Trafnidiaeth Cymru yn gwneud rhywbeth yn ei gylch ac rwy’n ddiolchgar iawn eu bod wedi gwrando ar fy awgrym i helpu i wneud Johnston yn llawer mwy croesawgar a hygyrch i ddefnyddwyr y rheilffyrdd.
“Ac mae’n wych gweld cysgodfannau eraill yn yr ardal yn cael eu huwchraddio hefyd.”
Mae’r gwaith wedi’i wneud gyda chymorth Network Rail, sy’n berchen ar y mwyafrif o orsafoedd ar rwydwaith Cymru a’r Gororau.
Dywedodd uwch reolwr prosiect TrC, Catherine Sweeney: “Rydym wedi ymrwymo i wella profiad teithwyr ar draws y rhwydwaith a gwyddom, i lawer o bobl, bod hynny'n dechrau gyda'r cysgodfannau aros ar y platfform.
“Mae llawer o’n cysgodfannau yn rhai hŷn, sydd wedi cael eu difrodi dros amser a bellach ddim yn hygyrch i bobl â symudedd cyfyngedig. Roedd codi rhai newydd yn eu lle yn gyntaf yn flaenoriaeth i ni.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n mabwysiadwyr gorsafoedd, grwpiau rheilffyrdd cymunedol a rhanddeiliaid lleol eraill. Rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn am y ein cysgodfannau newydd – mae hwn yn newyddion gwych.”
I gael rhagor o wybodaeth am waith TrC mewn cymunedau ewch i trc.cymru