English icon English
Julie Morgan (1)

Ymgynghori ar broses adolygu newydd yn dilyn marwolaeth neu niwed

Views sought on a new review process following a person’s harm or death

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi agor ynglŷn â chynlluniau i sicrhau bod y broses adolygu ar ôl marwolaeth unigolyn yn haws ac yn gyflymach i’r teuluoedd.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi agor ynglŷn â chynlluniau i sicrhau bod y broses adolygu ar ôl marwolaeth unigolyn yn haws ac yn gyflymach i’r teuluoedd.

Gofynnir am farn ar gyflwyno Adolygiad Diogelu Unedig Sengl a fyddai'n uno Adolygiadau Lladdiad Domestig, Adolygiadau Ymarfer Plant, Adolygiadau Ymarfer Oedolion, Adolygiadau Lladdiad Iechyd Meddwl ac Adolygiadau Lladdiad ag Arf Ymosodol. Byddai'n creu un broses adolygu, gan ddileu'r angen i gynnal adolygiadau gan sawl asiantaeth pan fydd rhywun wedi colli ei fywyd mewn modd trasig neu wedi cael niwed sylweddol.

Bydd cyflwyno proses newydd yn atal teuluoedd rhag gorfod cymryd rhan mewn cylch trawmatig o roi gwybodaeth ac o aros. Bydd hefyd yn caniatáu i wersi gael eu nodi, eu rhannu a'u rhoi ar waith yn gyflym ar lefel Cymru er mwyn atal niwed yn y dyfodol. 

Pan fydd un neu ragor o feini prawf adolygu yn cael eu bodloni, bydd y broses Adolygu Diogelu Unedig Sengl yn osgoi'r angen i gynnal cyfres o adolygiadau lluosog ynglŷn â'r un digwyddiad.

Byddai'r broses adolygu newydd yn cael ei goruchwylio gan gorff cenedlaethol ac yn cael ei chadw mewn system ganolog er mwyn sicrhau bod dysgu cenedlaethol yn cael ei roi ar waith yn sgil y canlyniadau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

"Pryd bynnag y bydd unrhyw fywyd yn cael ei golli neu'n cael ei effeithio'n sylweddol gan gamdriniaeth, mae angen inni sicrhau na chollwyd unrhyw gyfle i amddiffyn yr unigolyn hwnnw rhag niwed, er mwyn inni allu amddiffyn eraill yn well yn y dyfodol.

"Dyma pam rwy'n falch o gyhoeddi'r ymgynghoriad cyhoeddus ar ganllawiau statudol yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl. Nod y cynlluniau yw datblygu un dull cymesur o gynnal adolygiad yn dilyn y digwyddiadau mwyaf difrifol yng Nghymru.

"Mae adolygiadau lluosog wedi achosi llawer o ddyblygu ymdrech ac adnoddau, gan olygu bod teuluoedd a phobl eraill sy’n rhan o’r digwyddiad yn mynd drwy sawl adolygiad, ac maent wedi achosi oedi yn y broses o ddysgu gwersi a’u rhoi ar waith.  Bydd cael un broses adolygu yn osgoi dyblygu ac yn sicrhau bod gwersi’n cael ei nodi a’u rhannu’n gyflym er mwyn atal niwed yn y dyfodol a lleihau trawma pellach i ddioddefwyr a theuluoedd.  Rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus."

Dywedodd Julian Hendy, Cyfarwyddwr yr elusen Hundred Families:

"Ers llawer yn rhy hir, mae digwyddiadau difrifol wedi bod yn cael eu hadolygu ar wahân, a’r teuluoedd dan sylw yn methu cael yr wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw. Yn hanesyddol mae'r gallu i ddysgu a gwella o'r trasiedïau hyn wedi cael ei lesteirio. Mae'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn fenter i'w chroesawu ac mae bellach yn cynnig y posibilrwydd o newid hyn i gyd a gwneud gwelliannau amlwg i wasanaethau, fel y gellir osgoir trasiedïau pellach hyd y bo modd.

Dywedodd Amanda L Robinson, Athro Troseddeg a Chyd-Gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth ym Mhrifysgol Caerdydd:

"Yn sgil cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a'r Sefydliad Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, crëwyd Cronfa Gwybodaeth Ddiogelu Cymru. Mae'r Gronfa’n ddatblygiad unigryw yn fyd-eang o ran ei chwmpas, ei diogelwch a’i hymarferoldeb, a’r ffaith ei bod mewn lle canolog o ran y Llywodraeth. Bydd yn galluogi ymchwilwyr ac ymarferwyr i gael gafael ar ddysgu newydd o ran cam-drin, pobl agored i niwed a diogelu, gyda'r bwriad o wella ymarfer ar lefel Cymru, a fydd yn y pen draw yn achub bywydau drwy leihau’r risg fod yr un math o beth yn digwydd eto. Mae’r Gronfa’n enghraifft wych o gydweithio effeithiol ar draws sawl disgyblaeth yn y tymor hir, ac yn rhywbeth y gall Cymru fod yn falch iawn o fod ar flaen y gad gydag ef.”

Dywedodd Sara Kirkpatrick, Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru:

“Mae Cymorth i Ferched Cymru yn cefnogi’r uchelgais hon gan Lywodraeth Cymru. Byddai cael mecanwaith sy'n sicrhau bod adolygiadau o ddigwyddiadau trallodus, gan gynnwys lladdiadau domestig, yn rhoi lle i leisiau pawb sy'n cael eu heffeithio gan drasiedi o'r fath ac yn cynnwys dysgu a gwersi ar draws gwasanaethau, yn rhywbeth i’w groesawu.

Bydd yr ymgynghoriad yn agored tan ddydd Gwener 9 Mehefin 2023.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Notes

  • The consultation can be found here:
  • The Single Unified Safeguarding Review involves practitioners, managers, and senior officers exploring the detail and context of agencies’ work both individually and collectively, with a child and/or adult at risk or who has been a victim of homicide, and their family, where every effort will be made to ensure that their voices are at the heart of the Review.
  • The output of a Review is to generate professional and organisational learning and promote improvement in future inter-agency practice to keep people safe. It is not about apportioning blame but ensuring that lessons are identified and implemented through a clear Action Plan.
  • A Single Unified Safeguarding Review is not an inquiry into how the victim died or sustained injuries or into who is culpable.