English icon English

Rhoi'r brêcs ar allyriadau carbon, llywio tuag at atebion amgen a gyrru ymlaen tuag at sero net erbyn 2050

Putting the brakes on carbon emissions, steering towards alternative solutions and driving towards net zero by 2050

Heddiw, mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters wedi pennu’r cyfeiriad ar gyfer dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru mewn datganiad sy'n rhoi newid hinsawdd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog wrth y Senedd 'fyddwn ni ddim yn cyrraedd Sero Net os na fyddwn ni’n stopio gwneud yr un peth drosodd a throsodd', a rhoddodd wybod am ganfyddiadau rhai dogfennau allweddol sy'n llywio dyfodol adeiladu ffyrdd yng Nghymru.

Mae'r dogfennau newydd yn cynnwys canfyddiadau Panel yr Adolygiad Ffyrdd – grŵp o arbenigwyr annibynnol sydd â'r dasg o asesu dros 50 o brosiectau adeiladu ffyrdd – a Chynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

Gyda'i gilydd, mae'r dogfennau hyn yn dangos statws 59 o brosiectau i gyd – sy’n cynnwys rhai sy'n cael eu gyrru yn eu blaen, rhai nad ydynt yn cael eu symud ymlaen ar hyn o bryd, a rhai sy'n cael eu disodli gan waith newydd.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Lee Waters: “Pan wnaethon ni gyhoeddi Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ddwy flynedd yn ôl, roedden ni’n ymrwymo i ddechrau ar lwybr newydd.

“Mae cyhoeddi'r Adolygiad Ffyrdd hwn, ynghyd â'r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth, a'n Datganiad Polisi newydd ar Ffyrdd, yn gam mawr ymlaen ar y llwybr hwnnw.

“Gadewch i mi fod yn hollol glir o’r cychwyn, byddwn ni’n dal i fuddsoddi mewn ffyrdd. Yn wir, rydyn ni wrthi’n adeiladu ffyrdd newydd ar hyn o bryd! Ond rydyn ni codi'r bar o ran penderfynu mai ffyrdd newydd yw’r ateb cywir i’r problemau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth. 

“Rydyn ni hefyd yn buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn, gan gynnwys buddsoddi mewn prosiectau rheilffyrdd, bysiau, cerdded a seiclo.

“Wrth gwrs, mae gwneud hynny mewn cyfnod o gyni yn heriol iawn. Dydyn ni ddim yn cael ein cyfran o fuddsoddiad HS2. Ac mae Llywodraeth y DU hefyd yn gwthio llawer o wasanaethau bysiau dros ymyl y dibyn, yn ogystal â thorri ein cyllidebau buddsoddi cyfalaf.

“Hyd yn oed pe bydden ni am fwrw ymlaen â'r holl gynlluniau ffyrdd sydd ar y gweill, dyw’r arian ddim gyda ni i wneud hynny. Bydd ein cyllideb gyfalaf 8% yn is y flwyddyn nesaf o ganlyniad i gyllideb ddiwethaf Llywodraeth y DU.”

“Gyda llai o adnoddau daw yn bwysicach fyth blaenoriaethu, ac mae'r Adolygiad Ffyrdd yn ein helpu ni i wneud hynny.”

Cafodd yr adolygiad ffyrdd ei gyhoeddi gan y Dirprwy Weinidog ym mis Mehefin 2021 gan rewi pob prosiect adeiladu ffyrdd.

Yna cafodd panel annibynnol ei greu â'r dasg o adolygu'r prosiectau a ystyriwyd yn rhan o'r adolygiad.

O dan arweiniad yr ymgynghorydd trafnidiaeth, y Dr Lynn Sloman MBE, cyflwynodd y panel ei ganfyddiadau i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2022 a chawsant eu cyhoeddi heddiw.

Ochr yn ochr â’r canfyddiadau, cyflwynwyd rhai argymhellion allweddol gan y panel, gan gynnwys pedwar prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd newydd.

O hyn ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru ond yn ystyried buddsoddiad ffyrdd yn y dyfodol ar gyfer prosiectau sy'n:

  • lleihau allyriadau carbon a chefnogi newid o ran trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio
  • gwella diogelwch drwy newid ar raddfa fach
  • helpu Llywodraeth Cymru i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd
  • darparu cysylltiadau â swyddi ac ardaloedd o weithgarwch economaidd mewn ffordd sy'n gwneud y defnydd mwyaf o drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio

Wrth ddatblygu cynlluniau, dylid canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, peidio â chynyddu capasiti ffyrdd, peidio â chynyddu allyriadau drwy atal cerbydau rhag teithio ar gyflymder uwch, a pheidio â chael effaith andwyol ar safleoedd ecolegol werthfawr.

Aeth y Dirprwy Weinidog yn ei flaen: “Dyw ein dull gweithredu dros y 70 mlynedd diwethaf ddim yn gweithio.

“Fel y mae’r adolygiad yn ei nodi, mae’r ffordd osgoi a fynnwyd i leddfu tagfeydd yn aml yn creu traffig ychwanegol, sydd yn ei dro yn dod â galwadau pellach am lonydd ychwanegol, cyffyrdd ehangach a mwy o ffyrdd. 

“Rownd a rownd â ni, yn allyrru mwy a mwy o garbon yn y broses, a wnawn ni ddim cyrraedd Sero Net nes inni stopio gwneud yr un peth drosodd a throsodd. 

“Pan wnaeth Julie James a fi ddechrau ar ein swyddi newydd, fe wnaethon ni ei gwneud yn glir bod yn rhaid i Gymru wneud mwy o doriadau yn ei hallyriadau y degawd hwn nag yr ydyn ni wedi’u gwneud yn y tri degawd diwethaf gyda'i gilydd.

“Mwy o doriadau yn y deg mlynedd nesaf na'r 30 diwethaf i gyd - dyna mae'r wyddoniaeth yn dweud y mae angen inni ei wneud os ydyn ni am ddiogelu Cymru i’r dyfodol.

“Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio, oni bai ein bod ni’n gweithredu mewn ffordd bendant nawr, ein bod ni’n wynebu trychineb hinsawdd.

“Os mai ein bwriad yw datgan Argyfwng Hinsawdd a Natur, deddfu i ddiogelu Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a'i gwneud yn ofyniad cyfreithiol cyrraedd Sero Net erbyn 2050, mae’n rhaid inni fod yn barod i fynd â'r maen i'r wal.”

Mae nifer fach o'r 59 prosiect wedi'u nodi’n gynlluniau awdurdodau lleol neu’n gynlluniau datblygu economaidd.

Bydd y 15 cynllun awdurdod lleol yn cael eu hystyried mewn cylchoedd grant trafnidiaeth yn y dyfodol, cyn belled â’u bod yn bodloni profion adeiladu ffyrdd ac ymrwymiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Bydd y Cynghorydd Anthony Hunt a'r Cynghorydd Llinos Medi yn arwain grŵp i ddatblygu canllawiau ar sut rydym yn cysylltu safleoedd datblygu economaidd â'r rhwydwaith trafnidiaeth, sy'n gyson â'r profion yn y dyfodol ar gyfer adeiladu ffyrdd a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.

Mae adroddiad y Panel hefyd yn sôn am gynnal a chadw'r ffyrdd presennol a chefnogi cludo nwyddau.

Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Ddatganiad Ysgrifenedig heddiw ar sut mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â chynnal a chadw ffyrdd, ac mae wedi ymrwymo i gyhoeddi cynllun cludo nwyddau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Nodiadau i olygyddion

https://www.dropbox.com/scl/fo/6487nex8yjsf0rg1v0ebt/h?dl=0&rlkey=56wev5ttve61gf2z7whwmso0l