English icon English

Llywodraeth Cymru yn darparu £300,000 i gefnogi’r gwaith cymorth yn Nhwrci a Syria

Welsh Government provides £300,000 to support aid efforts in Turkey and Syria

Heddiw (dydd Iau, 9 Chwefror) mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi cyhoeddi £300,000 o gymorth ariannol i roi cymorth brys a chyflym i bobl yr effeithiwyd arnynt gan daeargrynfeydd dinistriol yn ne Twrci a gogledd-orllewin Syria.

Adroddwyd bod tua 16,000 o bobl wedi cael eu lladd a degau o filoedd wedi’u hanafu ers i'r daeargryn pwerus cyntaf,  a oedd yn mesur 7.8, daro yn oriau mân ddydd Llun.

Ers hynny mae’r rhai sydd wedi goroesi wedi’u gadael heb gysgod mewn tywydd gaeafol rhewllyd. Yn ôl llywodraeth Twrci, mae 380,000 o bobl wedi ceisio lloches mewn gwestai neu lochesi gan y llywodraeth.

Dywedodd y Gweinidog wrth ymuno â'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) a’r elusennau sy'n aelodau o’r pwyllgor hwnnw ar risiau'r Senedd i lansio Apêl Argyfwng Türkiye a Syria i godi arian brys i helpu’r bobl yr effeithiwyd arnynt.

"Mae hwn yn ddigwyddiad hynod drist a dinistriol, ac rwy'n cydymdeimlo gyda'r rhai sydd wedi colli anwyliaid.

"Mae fy meddyliau hefyd gyda'r rhai sydd wedi'u hanafu yn ogystal â phobl o Dwrci a Syria yng Nghymru sy’n aros yn bryderus am newyddion. Rwy'n ddiolchgar i bobl o bob cwr o Gymru sydd eisoes yn cynnig pob math o gefnogaeth.

"Mae graddfa'r dinistr yn enfawr, a hoffwn ddiolch i'r timau chwilio ac achub dewr sy'n parhau i chwilio drwy'r rwbel am oroeswyr, gan gynnwys diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru sy'n rhan o dîm o 77 o arbenigwyr Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU sy'n darparu sgiliau ac offer arbenigol i helpu i ddod o hyd i oroeswyr a’u hachub.

"Mae ein Strategaeth Ryngwladol yn nodi ein huchelgais i sefydlu Cymru fel cenedl gyfrifol ar lefel fyd-eang. Gyda disgwyl i’r angen dyngarol gynyddu yn Nhwrci a Syria, bydd y gefnogaeth ariannol hon yn help i sicrhau bod modd darparu’r cymorth brys sydd ei angen ar bobl i oroesi.”

Roedd elusennau’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau a'u partneriaid lleol ymhlith yr ymatebwyr cyntaf i ymuno â’r gwaith cymorth lleol. Mae’r blaenoriaethau cychwynnol yn cynnwys mynediad at fwyd a dŵr glân yn ogystal â thriniaeth feddygol a lloches. Bydd apêl y Pwyllgor hefyd yn codi arian ar gyfer gwaith adsefydlu ac ailadeiladu mwy hirdymor.

Ychwanegodd Rheolwr Cysylltiadau Allanol DEC Cymru, Siân Stephen:

"Yn Nhwrci yn unig mae 6,000 o adeiladau gan gynnwys ysgolion a chanolfannau iechyd wedi dymchwel, gyda seilwaith sy’n hanfodol i fywyd bob dydd fel glanweithdra a chyflenwadau dŵr wedi'u difrodi’n ddifrifol.

“Rydym yn gwybod bod arian yn brin i lawer o bobl yma yn y DU wrth i’r argyfwng costau byw barhau, ond os allwch chi, plis cyfrannwch at yr apêl i gefnogi’r bobl sydd wedi’u dal yn y drychineb ddychrynllyd hon.”