- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
10 Chw 2023
Dyma Keiran, ein prentis Dadansoddi Risg, yn adrodd sut beth yw bod yn rhan o raglen brentisiaeth TrC.
Dechreuais fy mhrentisiaeth gyda Trafnidiaeth Cymru ar ddechrau mis Ionawr 2023. Yn y cyfnod byr hwnnw, rwy’n falch o ddweud fy mod i’n aelod o dîm anhygoel Dadansoddi Risg. Mae wedi bod yn chwa o awyr iach i weithio gyda’r tîm, sydd wedi gwneud yn siŵr fy mod i’n gyfforddus ac maen nhw yno i fy nghefnogi unrhyw dro.
Mae’r croeso wedi bod mor gadarnhaol, ac rwyf eisoes yn teimlo’n rhan o deulu ac o dîm TrC yn ehangach. Roedd yr holl brofiad yn y cyfnod cyn cael fy newis fel prentis yn rhywbeth nad wyf erioed wedi’i gael yn bersonol, ond roedd y broses yn hwylus iawn. Roedd hyn yn cynnwys cwrdd â’r bobl y byddwn efallai yn cydweithio â nhw, yn ogystal â chael y cyfle i ddangos fy sgiliau mewn ffyrdd unigryw a llawn hwyl. Cefais hefyd ymweld â swyddfeydd newydd TrC ym Mhontypridd a chael gweld y cyfleusterau anhygoel sydd ganddyn nhw.
Rwy’n gweld hwn yn gyfle gwych i ehangu a datblygu fy sgiliau mewn nifer o ffyrdd, yn ogystal â chael gyrfa a datblygu yn fy rôl. Byddwn i’n wir yn argymell i unrhyw un ystyried gwneud prentisiaeth, boed hynny ar ôl gadael yr Ysgol/Coleg neu’r Brifysgol, i newid gyrfa, neu os nad ydych chi’n siŵr o beth i’w wneud nesaf.
A allai prentisiaeth TrC fod y llwybr iawn i chi? Gallai prentisiaeth gyda ni fod yn berffaith i’ch helpu i gyflawni eich dyheadau o ran gyrfa. Cadwch lygaid ar: https://trc.cymru/gwybodaeth/ceiswyr-swyddi/prentisiaethau