English icon English
Minister for Health and Social Services, Eluned Morgan speaking at the WHO conference.

Llwyfan Ewropeaidd i iechyd a llesiant yng Nghymru

Health and wellbeing in Wales promoted across Europe.

Mae ymrwymiad Cymru i iechyd a llesiant, a’r lle blaenllaw a roddir i iechyd mewn polisïau, wedi cael sylw mewn digwyddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd yn Copenhagen.

Nod y digwyddiad, a fynychwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan, oedd trafod sut i ymdrin â’r heriau sy'n wynebu pobl yng Nghymru ac ar draws Ewrop – a hynny drwy sicrhau bod gwella iechyd a llesiant yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau. Ymhlith yr heriau dan sylw mae’r argyfwng costau byw, y newid yn yr hinsawdd, ac anghydraddoldebau iechyd.

Fe wnaeth dadansoddiad manwl gan Sefydliad Iechyd y Byd ddangos i wledydd eraill ledled Ewrop fod gan Gymru ddulliau unigryw o weithio yn y maes hwn – i ysbrydoli eraill i wneud yn siŵr bod pobl yn ganolog i benderfyniadau, ac i greu cymdeithas lewyrchus, cynaliadwy a theg ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Dyma enghreifftiau o rai o’r ffyrdd y mae Cymru ar flaen y gad yn y maes:

  • Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn disgrifio ein saith nod llesiant ac yn ei gwneud yn ddyletswydd i bob datblygiad polisi cyhoeddus yng Nghymru fod yn gynaliadwy a chyfartal. Mae'r dangosyddion a’r cerrig milltir cenedlaethol ategol yn mesur ein cynnydd wrth inni weithio tuag at ein nodau llesiant, gan roi targedau i anelu atynt yn y dyfodol
  • Creu Canolfan Gydweithredol gyntaf Sefydliad Iechyd y Byd ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant' yn Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymrwymiad i wneud rheoliadau a fydd golygu mai Cymru fydd y wlad gyntaf i wneud Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yn orfodol i ystod eang o gyrff cyhoeddus mewn amgylchiadau penodol erbyn diwedd tymor y Senedd hon.  
  • Ymgynghori diweddar ynglŷn â chyfyngu ar werthu bwyd tecawê ger ysgolion, i wella iechyd a llesiant plant.
  • Gweithio gyda phobl hŷn i ddatblygu gwasanaethau ac amgylcheddau lleol sy'n helpu pobl i fyw a heneiddio’n dda – mae'r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio yn nodi ein gweledigaeth i greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

"Mae gan Gymru gyfle i ddylanwadu er mwyn creu newid, ac mae hi ar flaen y gad o ran hyrwyddo polisïau ac atebion arloesol i sicrhau gwelliannau parhaus yn iechyd a llesiant pobl, ac i roi llesiant, cydraddoldeb a ffyniant wrth wraidd popeth ry’n ni’n ei wneud fel llywodraeth.

"Trwy greu polisïau sy'n rhoi blaenoriaeth i iechyd a llesiant, gallwn greu cymunedau, cartrefi, systemau trafnidiaeth a mannau awyr agored sy'n galluogi pobl i heneiddio a byw'n dda. Ein nod yw helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach a bodlon cyhyd â phosib.

"Mae digwyddiadau blaenllaw fel hyn yn gyfle gwych i godi proffil Cymru a thynnu sylw gwledydd eraill at y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud yng Nghymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a helpu pawb i fyw bywydau hirach ac iachach. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i mi ddysgu o brofiadau gwledydd eraill ac i feddwl sut y gallwn ni gymhwyso’r dysgu hwnnw yma yng Nghymru."  

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Notes

Through the Well-being of Future Generations Act and its seven well-being goals, we have a framework for Wales's future: a Wales that is economically, socially, and environmentally just, and a Wales we would want our children and grandchildren to inherit from us. The Act places a duty on listed public bodies to work in a more sustainable way.

Wales’ 50 national indicators measure our progress in working towards our well-being goals and our 17 national milestones provide targets for us to aim for in the future and give us a sense of the scale and pace of change needed. Together, they help us lay the foundations now for the better Wales we want in the future.