English icon English

Croes y Brenin Siôr y GIG yn serennu yn Sain Ffagan

NHS Wales’ George Cross takes centre stage at St Fagans

Mae Croes y Brenin Siôr, a gyflwynwyd i’r GIG yng Nghymru, yn cael ei harddangos i’r genedl yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Mae’r Groes, sef y fedal uchaf am ddewrder sy’n cael ei rhoi i sifiliaid yn y Deyrnas Unedig, wrth galon yr arddangosfa “Cymru…diolch am y GIG” yn Sain Ffagan, i nodi pen-blwydd y GIG yn 75 oed.

Ymunodd Prif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, a Dr Ami Jones, Meddyg Ymgynghorol Gofal Dwys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, â Sioned Hughes, Pennaeth Hanes ac Archaeoleg, Amgueddfa Cymru, i weld yr arddangosfa.

Bydd yr amgueddfa yn gartref parhaol i’r fedal, a gyflwynwyd i Mrs Paget a Dr Jones gan Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth mewn seremoni yng Nghastell Windsor fis Gorffennaf y llynedd.

Dywedodd Judith Paget:

“Rwy’n falch iawn bod gan y fedal gartref parhaol fel rhan o’r casgliad cenedlaethol yn yr Amgueddfa, lle mae’n atgof balch o ymroddiad gwych gweithlu’r GIG yng Nghymru.

“Mae’r fedal yn cydnabod gwasanaeth pawb sydd wedi gweithio i’r GIG ers ei sefydlu ym 1948, ymroddiad i ddyletswydd a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig.”

Dywedodd Dr Ami Jones:

“Braint oedd derbyn y fedal ar ran y GIG yng Nghymru y llynedd ac rwy’n falch y gellir rhannu’r anrhydedd gyda fy nghydweithwyr ym mhob rhan o’r GIG yng Nghymru erbyn hyn.

“Rwy’n ymwybodol iawn o arwyddocâd y fedal hon i bawb ohonom yn y GIG a ddaeth o hyd i ddewrder eithriadol o’r newydd yn ystod y pandemig i ddarparu gofal rhagorol a chreu datrysiadau ar gyfer y sefyllfa ddigynsail.”

Dywedodd Sioned Hughes, Pennaeth Hanes ac Archaeoleg, Amgueddfa Cymru:

“Rydym yn falch o arddangos Croes y Brenin Siôr ochr yn ochr â gwrthrychau eraill sy’n adrodd hanes y GIG yng Nghymru.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn perthyn i bobl Cymru ac mae lle arbennig iddo wrth galon ein bywyd cenedlaethol. Mae’r arddangosfa hon yn sicrhau bod stori’r GIG yn cael ei chynrychioli yn yr amgueddfa yn ystod blwyddyn arwyddocaol. Mae’r GIG ac Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, yn dathlu eu pen-blwyddi yn 75 oed eleni ac felly mae’n addas fod y fedal yn cael ei harddangos yn y galeri “Cymru…’ i bawb gael ei gweld.”

Bydd yr arddangosfa yn parhau tan 5 Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae gwaith cynllunio ar y gweill i arddangos y fedal ledled Cymru o’r flwyddyn nesaf ymlaen.