- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
20 Chw 2023
Cynhelir dau ddigwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd yr hanner tymor hwn i dynnu sylw at bwysigrwydd diffibrilwyr ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi gosod mwy na 200 o ddiffibrilwyr mewn gorsafoedd dros y 12 mis diwethaf, gan ddarparu offer achub bywyd hanfodol mewn cymunedau lleol.
Y mis hwn yw ymgyrch ‘Defibruary’ flynyddol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac mae TrC yn gweithio ar y cyd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Achub Bywyd Cymru ar ddigwyddiadau dros dro yng Nghaerdydd a Wrecsam i ddarparu hyfforddiant dadebru diffibriliwr a cardio-pwlmonaidd (CPR) am ddim.
Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Achub Bywyd Cymru i ddarparu hyfforddiant deffib a CPR am ddim ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan bobl am ddiffibrilwyr. Byddwn hefyd yno i gefnogi'r rhai sydd wedi profi neu weld ataliad ar y galon.
“Dim ond yn ddiweddar defnyddiodd y criw trên ar un o’n gwasanaethau diffibriliwr yn yr orsaf i roi cymorth i deithiwr a oedd wedi dioddef ataliad ar y galon, felly rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig ydyn nhw o ran helpu i achub bywydau pobl.
“Yn anffodus, gan y cawsom achos lle nad oedd modd i ddioddefwr gael at ddiffibrilwr yn ein gorsaf oherwydd ei fod wedi cael ei fandaleiddio, byddwn hefyd yn defnyddio’r digwyddiadau hyn i annog pobl i drin diffibrilwyr â pharch ac os ydyn nhw’n gweld diffibrilwr wedi’i ddifrodi ar ein rhwydwaith, i roi gwybod i ni."
Dywedodd yr Athro Len Nokes, Cadeirydd Achub Bywyd Cymru: “Mae’n bleser gan Achub Bywyd Cymru gefnogi Trafnidiaeth Cymru yn y digwyddiad Diffibriliwr hwn a chynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth CPR a diffibriliwr i deithwyr yng Ngorsafoedd Rheilffordd Caerdydd a Wrecsam.
“Mae siawns person o oroesi ataliad ar y galon yn dibynnu ar bobl wrth law yn perfformio CPR ar unwaith ac yn defnyddio diffibriliwr. Gall ataliad ar y galon ddigwydd i unrhyw un o unrhyw oedran ac ar unrhyw adeg ac felly gall cael yr hyder i weithredu'n gyflym os ydych chi'n wynebu argyfwng meddygol o'r fath yn y pen draw helpu i achub bywyd.
“Os na allwch ymuno â ni yn y digwyddiadau Defibuary hyn, chwiliwch ar wefan Achub Bywyd Cymru am gyngor ac anogaeth ar sut y gallech chi helpu i achub bywyd gyda CPR a diffibriliwr.”
Cynhelir y digwyddiadau yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd ddydd Mercher 22 Chwefror rhwng 10am a 2pm ac yng Ngorsaf Gyffredinol Wrecsam ddydd Iau 24 Chwefror rhwng 10am a 2pm.
Yn Wrecsam bydd staff Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cyfarfod â’r grŵp sgowtiaid lleol i ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth CPR a defnyddio diffibriliwr yn neuadd y sgowtiaid gyferbyn â’r orsaf.