- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
14 Meh 2023
Mae’n bleser gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) i weithio mewn partneriaeth â Beicio Cymru yn ceisio cael Cymru i fwynhau'r awyr iach a defnyddio'r beic i deithio pob dydd yr haf hwn.
Prif ddiben y bartneriaeth yw lansio ‘Parth Cefnogwyr’ - her teithio llesol newydd– #AddewidTrC – sy'n golygu eich bod yn mynd ar eich beic ac yn rhannu'ch profiad ar gyfryngau cymdeithasol.
Nod yr her yw eich annog i adael y car gartref a defnyddio'ch beic ar gyfer teithiau pob dydd ar deithiau ‘â phwrpas‘. Does dim ots os ydych chi'n beicio i'r gwaith, i’r ysgol neu i fynd i siopa, neu i fwynhau taith haf i'r parc gyda'ch teulu – beth bynnag fo'r achlysur, mae Beicio Cymru a TrC eisiau gweld eich lluniau a'ch fideos er mwyn gallu ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Mae cymryd rhan yn syml, cliciwch ar y ddolen ac fe gewch yr holl wybodaeth. Cewch hefyd gyfle i ennill gwobrau gwych gan gynnwys set deuluol o helmedau Limar Beicio Cymru.
Mae TrC wedi ymrwymo i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru mai cerdded a beicio yw'r modd o deithio â ffafrir gan bobl Cymru wrth deithio pellteroedd byr. Ynghyd â mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae llai o bobl yn defnyddio ceir preifat ac mae'r ffaith fod mwy o bobl yn cerdded neu'n beicio yn newid ymddygiad wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Mae'r corff - a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i newid y ffordd y mae Cymru yn teithio - yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i helpu i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan gynnwys darparu cefnogaeth a chyngor i awdurdodau lleol wrth ddatblygu a chyflwyno eu cynlluniau teithio llesol.
Mae hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau beicio trwy gydol yr haf ledled Cymru a'r siroedd ar hyd y ffin. Bydd yn dechrau ar 15 Mehefin yng Ngorsaf Caerdydd Canolog â'i nod fydd dangos i bobl y cyfleoedd sydd ar gael i feicio fel rhan o deithiau pob dydd.
Dywedodd Matthew Gilbert, Arweinydd Teithio Llesol a Chreu Lleoedd TrC: “Mae'r bartneriaeth hon yn gyfle cyffrous i ddathlu beicio. Rydym am i'n rhwydwaith trafnidiaeth yn y dyfodol annog dewisiadau teithio mwy cynaliadwy a chyfrannu at ostyngiad mewn allyriadau cerbydau; mae beicio a cherdded wrth wraidd hyn.
Yn ogystal ag ymrwymo i #AddewidTrC, rydym yn gobeithio'n fawr hefyd y byddwch yn dod draw i’n digwyddiadau beicio dros yr haf a gynhelir ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau. Byddwn yn dangos i chi rhai o’r cyfleusterau beicio lleol, fel pario, ledled y rhwydwaith ac fe hoffem glywed gennych am sut y gallwn ni – ar y cyd â'n partneriaid – wneud teithio llesol hyd yn oed yn fwy posibl yn eich cymunedau a’i wneud y dewis gorau ar gyfer teithiau byr.”
Dywedodd Caroline Spanton, Prif Swyddog Gweithredol Beicio Cymru: “Pleser yw gallu gweithio mewn partneriaeth â TrC ar yr her syml hon. Mae hon yn bartneriaeth wych; rydym ill dau yn rhannu'r un weledigaeth sef helpu ac ysbrydoli pobl i fwynhau'r awyr agored a darganfod manteision ehangach defnyddio'r beic i deithio pob dydd. Mae'n hwyl, mae’n eich cadw'n ffit, yn lleihau tagfeydd ac yn well i'r amgylchedd; trwy wneud dewisiadau teithio doethach rydych chi'n helpu i wneud eich rhan.'
I gael gwybod mwy am ddigwyddiadau Beicio TrC 2023 ewch i: https://dweudeichdweud.trc.cymru/ddigwyddiadau-beicio-2023 ac i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gynllunio taith ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ar feic ewch i: Teithio ar feic a Teithio gyda beic ar y trên
Nodiadau i olygyddion
At ddibenion yr her hon, mae ‘teithio llesol’ yn cyfeirio at gerdded a beicio ar gyfer teithiau pob dydd - fel mynd i'r gwaith, i ddysgu neu er mwyn defnyddio gwasanaethau.
Yn ogystal â rhoi cyngor a chefnogaeth i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys helpu i adolygu canllawiau sy'n gysylltiedig â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ym mis Rhagfyr 2020, rhoddwyd y cyfrifoldeb o weinyddu rhaglen y Gronfa Teithio Llesol ar ran Llywodraeth Cymru i Trafnidiaeth Cymru, gan ei galluogi i chwarae rôl llawer mwy wrth gefnogi teithio iach a chynaliadwy ledled Cymru.
Gall awdurdodau lleol wneud cais am gyllid drwy'r Gronfa Teithio Llesol (ATF), drwy gyfuniad o gyllid craidd a phroses ymgeisio gystadleuol, i gefnogi'r gwaith o roi cynlluniau teithio llesol ar waith ledled Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen ATF ar gael yma.