- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
16 Meh 2023
Mae trenau tram newydd sbon a fydd yn chwyldroi trafnidiaeth gyhoeddus bellach yn cael eu profi ar reilffyrdd Metro De Cymru.
Wedi'i cyflenwi gan y gwneuthurwr blaenllaw Stadler, gall y cerbydau rheilffordd ysgafn wasanaethu ar linellau rheilffordd a thram a byddant yn gweithredu ar linellau sydd wedi’u tradaneiddio a thrwy pŵer batri. Yn 40 metr o hyd, gall trenau tram Citylink gludo dros 250 o deithwyr a rhedeg ar hyd rheilffordd ar gyflymder o 100km yr awr.
Mae gan y cerbydau llawr uchel ddigon o le i deithwyr, maent yn hynod gyfforddus ac mae ganddynt system aerdymheru gyda 6 ardal amlfodd ar gyfer beiciau, seddi i bobl â llai o symudedd a dau le i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Yn ddiweddar, llwyddodd Trafnidiaeth Cymru i drydaneiddio cam cyntaf Metro De Cymru ac mae'r trenau tram cyntaf bellach yn cael eu profi, yn barod i gludo teithwyr yn 2024.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sydd a chyfrifoldeb am Drafnidiaeth: “Mae hwn yn newyddion gwych. Wedi'i ariannu gan ein buddsoddiad o £800m mewn fflyd newydd o drenau, bydd y trenau tram rheilffyrdd ysgafn newydd hyn, sy'n cael eu pweru gan drydan, yn gyflymach a chyda mwy o le i deithwyr, yn chwarae rhan bwysig yn ein cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd Cymru."
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru: “Mae hon yn garreg filltir bwysig arall i ni yn TrC. Rydym eisoes eleni wedi cyflwyno tri math newydd o drên i'n rhwydwaith i deithwyr eu defnyddio. Pleser i'w gallu cyhoeddi ein bod nawr yn profi ein trenau tram rheilffordd ysgafn newydd a fydd yn gweithredu gwasanaeth troi i fyny ar Fetro De Cymru yn y dyfodol agos iawn.
“Nid yw Cymru wedi profi teithio ar reilffyrdd ysgafn eto a bydd y cerbydau hyn yn cludo teithwyr mewn dull cyflymach, glanach a mwy effeithlon. Rydym yn buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd sbon i Gymru a biliwn o bunnoedd ar Metro De Cymru a thrwy drawsnewid ein rhwydwaith, rydym am annog mwy o bobl i deithio'n gynaliadwy."