- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
16 Meh 2023
Yr wythnos hon, ledled y DU, rydyn ni’n falch o gymryd rhan yn Wythnos Trafnidiaeth Well – dathliad wythnos o drafnidiaeth gynaliadwy sy’n canolbwyntio ar wahanol themâu bob dydd.
Rydyn ni i gyd yn ymwybodol iawn o’r heriau sy’n wynebu cymdeithas mewn perthynas â’r argyfwng hinsawdd a’r cyfrifoldeb sydd gennym i ddiogelu a chynnal ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae hefyd yn amlwg bod trafnidiaeth yn chwarae rhan bwysig iawn o ran helpu i ddarparu atebion, er mwyn i ni allu symud ymlaen i ddyfodol sy’n fwy gwyrdd a chynaliadwy o lawer.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydliad nid-er-elw sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru. Mae ein cylch gwaith yn parhau i ehangu a datblygu, ac er bod llawer o gymhlethdodau o ran yr hyn rydyn ni’n ei wneud a sut rydyn ni’n ei wneud, mae’r rheswm ‘pam’ yn dal yn eithaf syml.
Mae angen gwell opsiynau trafnidiaeth ar Gymru. Er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, mae angen lleihau nifer y bobl sy’n teithio mewn car. Er mwyn gwella ein heconomi, mae arnom angen trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy mewn cymunedau gwledig a threfol. Er mwyn newid ymddygiad teithio, mae angen mwy o opsiynau ar gyfer beicio, cerdded a theithio ar olwynion.
Er mwyn annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae angen i ni allu cystadlu â’r car preifat ac mae hyn yn golygu gwella ein darpariaeth. Rydyn ni eisoes wedi dechrau gwneud hyn drwy fuddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd sbon ac rydyn ni wedi cyflwyno tri math newydd o drenau i’n rhwydwaith eleni. Drwy wella capasiti a chadernid ar draws ein rhwydwaith a thrawsnewid profiad cwsmeriaid, rydyn ni’n gobeithio y bydd y trenau hyn yn dechrau darparu dewis amgen cystadleuol yn lle’r car preifat.
Fodd bynnag, rydyn ni’n gwbl ymwybodol mai dim ond dechrau’r daith yw hyn a bydd yn cymryd 18 mis arall i ni drawsnewid yr hyn rydyn ni’n ei gynnig ar ein rhwydwaith trenau’n llwyr ac, ar yr adeg honno, gallwn ddechrau gwneud addasiadau mawr i amserlenni trenau a darparu gwasanaeth lle nad oes angen trefnu ymlaen llaw, yn enwedig ar gyfer y Metro.
Metro De Cymru yw ein prif brosiect ac ers prynu’r rheilffordd gan Network Rail ym mis Mawrth 2020, rydym wedi bod yn trawsnewid seilwaith gwerth biliwn o bunnoedd sy’n cynnwys gosod llinellau trydaneiddio uwchben ac ailwampio rheilffordd o'r 18fed ganrif. Mae llawer o rwystrau heriol wedi codi, fel pandemig byd-eang a rhyfel Wcráin, sydd wedi effeithio ar ein cadwyn gyflenwi.
Fodd bynnag, rydyn ni wedi parhau i symud ymlaen, a’r mis hwn, rydyn ni wedi llwyddo i drydaneiddio rhan o reilffordd Metro De Cymru ac rydyn ni nawr yn profi ein trenau tram ysgafn ar y llwybr. Mae hon yn garreg filltir gyffrous ar ein taith i greu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy. Y cerbydau hyn fydd y cerbydau ysgafn cyntaf ar y rheilffordd yng Nghymru a byddant yn gallu rhedeg ar draciau rheilffordd a thramiau, gan weithredu ar linellau trydan a phŵer batri.
Mae’r diwydiant bysiau’n wynebu heriau parhaus ac rydyn ni’n cydnabod pa mor bwysig yw bysiau o ran creu rhwydwaith trafnidiaeth cwbl integredig. Rydyn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau ledled Cymru i wella gwasanaethau.
Drwy gymryd yr awenau a rheoli ein rhwydwaith TrawsCymru cenedlaethol, a gyda rhagor o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gallu cyflwyno 8 bws trydan newydd sbon ar ein llwybr T1 rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Rydyn ni hefyd wedi dechrau treialu tocynnau integredig sy’n cysylltu rheilffyrdd a bysiau. Ein gweledigaeth yn y tymor hwy fydd ymestyn ein cynnig ‘un tocyn’ y mae modd ei ddefnyddio ar draws ein rhwydwaith aml-ddull cyfan.
Mae Fflecsi, sef ein gwasanaeth bws sy’n ymateb i’r galw, wedi parhau i ehangu ac rydyn ni nawr yn rhedeg 11 o gynlluniau ledled Cymru. Mae gennym gynlluniau ym Mlaenau Gwent, Bwcle, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Dinbych, Treffynnon, Penrhyn Llŷn, Sir Benfro, Prestatyn, Rhondda Cynon Taf a Rhuthun. Mae Fflecsi Sir Benfro bellach yn gwasanaethu’r sir gyfan ac mae’r parthau yn Rhuthun, Dinbych a Bwcle wedi ehangu, sy’n dangos pa mor llwyddiannus ydyn nhw.
Ym mis Gorffennaf y llynedd, fe wnaethom hefyd lansio Sherpa’r Wyddfa, gwasanaeth bws wedi’i ailwampio ym Mharc Cenedlaethol Eryri sy’n fwy cysylltiedig ac yn rhedeg yn amlach. Drwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gwynedd, rydyn ni wedi gallu gwella’r gwasanaeth hwn a chreu dewis ymarferol yn lle’r car preifat ar gyfer twristiaid a phobl leol, gan helpu i leddfu tagfeydd ar y ffyrdd.
Teithio llesol yw rhan olaf y jig-so yn ein cynlluniau i greu rhwydwaith trafnidiaeth integredig, aml-ddull a chynaliadwy. Rydyn ni eisiau i deithio llesol (cerdded, beicio a theithio ar olwynion) fod yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio ar gyfer teithiau byr bob dydd yng Nghymru ac rydyn ni’n cydweithio â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Sustrans Cymru i gyflawni prosiectau teithio llesol.
Drwy reoli rhaglen y Gronfa Teithio Llesol ar ran Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni dros 250 o gynlluniau ac rydyn ni wedi dyfarnu £48.1 miliwn o gyllid.
Rydyn ni hefyd wedi arwain yr adolygiad o’r Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol sydd wedi cael eu datblygu gan awdurdodau lleol ac rydyn ni’n defnyddio ein gwybodaeth strategol am deithio aml-ddull i wella a chryfhau cynigion.
Rwy’n falch o’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud yn TrC, sydd ar adegau wedi bod dan amodau anodd a heriol. Rydyn ni wedi parhau i symud ymlaen, cyflawni ein cynlluniau a sefydlu ein hunain fel partner dibynadwy Llywodraeth Cymru o ran cyflawni prosiectau trafnidiaeth a’r ymrwymiadau perthnasol yn Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021.
Fodd bynnag, mae llawer iawn i’w wneud o hyd ac mae’n bwysig fy mod yn diolch i bobl Cymru a’r gororau am eu hamynedd wrth i ni barhau i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus. Yn y tymor byr, mae rhai o’n newidiadau seilwaith yn tarfu ar bethau. Yn y tymor hir, bydd mesurau fel trydaneiddio traciau, adeiladu pontydd troed ac ehangu gorsafoedd yn darparu opsiwn teithio cynaliadwy ac yn cysylltu cymunedau am genedlaethau i ddod.