English icon English
Jeremy Miles CG portrait

Adfocadau i Lywodraeth Cymru: Penodi Panel Cwnsleriaid

Advocates for the Welsh Government: Appointment of Panel of Counsel

Heddiw, mae Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, wedi cyhoeddi bod y Panel Cwnsleriaid a benodwyd i ddarparu adfocatiaeth gyfreithiol a gwaith cynghori arbenigol i Lywodraeth Cymru yn cael ei adnewyddu.

Penodwyd y Panel yn dilyn cystadleuaeth recriwtio gyhoeddedig, ac mae'n cynnwys cyfanswm o 36 o Gwnsleriaid.

Penodwyd tri phanel fel rhan o’r Panel Cwnsleriaid:

  • un panel sy’n cynnwys Cwnsleriaid y Frenhines
    • ail banel sy’n cynnwys Cwnsleriaid Iau sydd â mwy na 10 mlynedd o brofiad o ddarparu adfocatiaeth (Panel Cwnsleriaid Iau A)
    • trydydd panel sy’n cynnwys Cwnsleriaid Iau sydd â llai na 10 mlynedd o brofiad o ddarparu adfocatiaeth (Panel Cwnsleriaid Iau B)

Mae paneli'r Cwnsleriaid Iau wedi'u rhannu yn gategorïau pwnc eang, ac mae maint a chymeriad cyffredinol pob panel yn cael eu pennu yn ôl yr angen. 

Bydd penodiadau'r Panel am gyfnod o bum mlynedd, gan ddechrau ar 1 Mawrth 2021.   

Dywedodd Jeremey Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd:

"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r penodiadau hyn. Denodd y gystadleuaeth ddiddordeb gan fwy na 100 o ymarferwyr. Mae lefel y diddordeb a fynegwyd ac ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd wedi fy nghalonogi i’n fawr. 

"Rwy'n gwybod y bydd y Cwnsleriaid hynod brofiadol a dawnus sydd wedi cael eu penodi i'r Panel yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu elwa ar gronfa annibynnol o gryn arbenigedd cyfreithiol ar draws amrediad eang o weithgarwch y llywodraeth.

"Mae meddu ar y gallu hwn sydd eisoes wedi ei brofi i wneud gwaith adfocatiaeth a chynghori yn bwysig er mwyn sicrhau bod y cyngor cyfreithiol annibynnol gorau ar gael i Lywodraeth Cymru bob amser."