Skip to main content

Transport for Wales Invite to Valley Communities

04 Medi 2019

Mae Trafnidiaeth Cymru a Thasglu’r Cymoedd yn cynnal cyfres o sioeau teithiol mewn lleoliadau allweddol yn ne Cymru fel y gall cymunedau lleol gael gwybod am welliannau sy’n cael eu gwneud i’w rhwydwaith trafnidiaeth a'r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.

Caiff y digwyddiadau eu cynnal ym Merthyr, Castell-nedd, Bargoed, Tondu, Glynebwy, Aberdâr a Phontypridd a byddant yn gyfle i bobl leol gwrdd â chynrychiolwyr o Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol ac Aelodau Cynulliad lleol i drafod gwelliannau trafnidiaeth i’r dyfodol.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi Tasglu'r Cymoedd a’i gynlluniau uchelgeisiol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl sy’n byw yn y Cymoedd. Maen nhw am ddefnyddio’r cyfle hwn i gysylltu â chymunedau, gan ddatgelu’u cynlluniau o ran Metro De Cymru a sut y bydd hynny’n gwella’r cysylltiadau trafnidiaeth ynghlwm wrth swyddi, addysg, hamdden ac adloniant.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AC, Cadeirydd Tasglu’r Cymoedd:

”Rydym yn gwybod mai trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy a dibynadwy yw’r mater pwysicaf i gymunedau’r Cymoedd a bydd gwella’r opsiynau trafnidiaeth yn darparu gwell mynediad at swyddi, addysg a gwasanaethau hanfodol.

“Mae gan y gymuned leol ran bwysig i’w chwarae yn llywio dyfodol trafnidiaeth yn y Cymoedd ac mae’r sioeau teithiol yn gyfle gwych i bobl gael mwy o wybodaeth a rhannu eu barn am y ffordd ymlaen.”

Mae gan Trafnidiaeth Cymru ffocws clir ar ddatblygu perthynas â’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, ac mae’i gynlluniau’n cynnwys adfywio mannau segur ar orsafoedd fel canolfannau Wi-Fi a dysgu cymunedol. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer prosiectau rheilffyrdd cymunedol a mabwysiadu gorsafoedd, ac mae’r sioeau teithiol yn gyfle i gymunedau egluro beth maen nhw’n dymuno ei weld yn eu gorsafoedd lleol.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru;

“Mae'n hanfodol ein bod ni’n gwerthfawrogi'r cyfraniad y gall cymunedau ei wneud i'n rhwydwaith, ac yn gwneud y gorau o'r cyfraniad y gall ein gwasanaethau ei gynnig i gymunedau.”

I gael mwy o wybodaeth am reilffyrdd cymunedol a sut mae cymryd rhan, ewch i:
https://trc.cymru/amdanom-ni/ein-gwerthoedd/partneriaethau-cymunedol/rheilffordd

Nodiadau i olygyddion


Dyddiadau, amseroedd a lleoliadau’r digwyddiadau:
12.09.19
16.00 – 19.00
Redhouse, Merthyr.

19.09.19
16.00 - 19.00
The Castle Hotel, Castell-nedd.

26.09.19
16.00 – 19.00
Llyfrgell Bargoed

30.09.19
16.00 – 19.00
Coleg Cymunedol y Dderwen, Tondu

10.10.19
16.00 – 19.00
Ebbw Vale Institute, Glynebwy

17.10.19
16.00 – 19.00
Coleg y Cymoedd, Aberdâr

24.10.19
16.00 – 19.00
Clwb Rygbi Pontypridd

Ar hyn o bryd, mae yna 5 partneriaeth rheilffordd gymunedol, bydd TfW yn cynyddu hyn i 12 erbyn 2023 ac yn cynyddu nifer y gorsafoedd a gaiff eu mabwysiadu i 90%, gan gynnwys buddsoddi £9m mewn gorsafoedd