- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
01 Tach 2019
Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Vernon Everitt, Rheolwr Gyfarwyddwr Transport for London (TfL), yn ymuno â thîm Trafnidiaeth Cymru fel Cyfarwyddwyr Anweithredol.
Mae Vernon wedi bod yn gweithio gyda TfL ers dros 12 mlynedd, lle mae’n Reolwr Gyfarwyddwr ar gyfer Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Thechnoleg, ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro ar gyfer London Underground a TfL Engineering.
Yn TfL, mae’n gyfrifol am strategaethau technoleg/data a chwsmeriaid, a rhoi’r rheini ar waith. Gan ganolbwyntio ar roi'r cwsmer wrth wraidd gweithrediadau, mae’n gyfrifol am weithrediadau talu a phrisiau, canolfannau cyswllt, gwybodaeth i gwsmeriaid, dealltwriaeth o gwsmeriaid a marchnata, cysylltiadau cyfryngau, materion cyhoeddus, rheoli’r galw am deithio a chynllunio dinesig.
Fel sefydliad newydd sy’n esblygu, bydd Trafnidiaeth Cymru yn elwa o wybodaeth a phrofiad helaeth Vernon yn y diwydiant, ac mae’n amlwg bod tebygrwydd rhwng y ddau sefydliad.
Un o uchafbwyntiau Vernon yn ei yrfa oedd arwain strategaeth marchnata a chyfathrebu’r diwydiant trafnidiaeth a'r llywodraeth ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012, sef yr ymgyrch integredig fwyaf o’i math erioed.
Wrth siarad am ei rôl newydd gyda Trafnidiaeth Cymru, dywedodd Vernon Everitt:
"Mae’n fraint ymuno â thîm Trafnidiaeth Cymru fel Cyfarwyddwyr Anweithredol, yn enwedig mewn cyfnod mor gyffrous o drawsnewid. Rydw i wedi bod yn gweithio i Transport for London ers dros 12 mlynedd mewn amryw o rolau, a bydd hwn y gyfle gwych i mi rannu fy arbenigedd a fy ngwybodaeth am y diwydiant.
"Mae llawer o elfennau tebyg rhwng TfL a TrC. Yr hyn sy’n ganolog i’r ddau sefydliad yw eu bod yn meddwl am anghenion teithwyr a chwsmeriaid bob amser, ac yn gwella trafnidiaeth yn barhaus drwy greu gwasanaethau hygyrch ac integredig. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda TrC wrth iddynt fwrw ymlaen â’u cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid trafnidiaeth ar draws Cymru a’r Gororau."
Ychwanegodd Scott Waddington, Cadeirydd Bwrdd Trafnidiaeth Cymru:
"Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Vernon i dîm Trafnidiaeth Cymru fel Cyfarwyddwyr Anweithredol. Yn sgil ei swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr Transport for London, mae ganddo wybodaeth helaeth am y diwydiant, a fydd yn helpu i lywio ein cynlluniau strategol ac i gyflawni prosiectau allweddol wrth i ni symud ymlaen.
"Mae gan Vernon lawer o brofiad ym maes cwsmeriaid, o ran strategaeth, dealltwriaeth a gwybodaeth, ac mae cwsmeriaid yn ganolog i brosesau gwneud penderfyniadau Trafnidiaeth Cymru. Bydd ei ddealltwriaeth a’r brofiad helaeth yn hollbwysig wrth i ni weithio i drawsnewid profiadau teithio ein cwsmeriaid yn llwyr."