- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
03 Medi 2019
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn y trên Turbostar Dosbarth 170 cyntaf gan Greater Anglia.
Cyrhaeddodd Uned 170207 ddepo Treganna ddydd Sul 1 Medi. Mae gan y trên sydd â thri cherbyd 186 o seddi a bydd saith uned arall â thri cherbyd a phedair uned â dau gerbyd yn ymuno ag ef yn fuan, gyda phob un yn darparu seddi ar gyfer 110 o deithwyr.
Bydd yr hyfforddiant i yrwyr yn cychwyn ar 16 Medi a bydd disgwyl i’r unedau ddechrau cynnig gwasanaeth ar reilffordd Cheltenham i Faesteg ym mis Rhagfyr 2019. Ar yr amod bod llwybr yn cael ei glirio, mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn ystyried opsiynau i redeg trenau ar reilffordd Glynebwy a Rheilffordd Calon Cymru yn y dyfodol.
Gan siarad am gyrhaeddiad y fflyd newydd, dywedodd Sara Holland, Cyfarwyddwr Cerbydau, fod derbyn y trên Dosbarth 170 cyntaf yn garreg filltir bwysig i Trafnidiaeth Cymru: “Mae’r trenau Dosbarth 170 yn darparu gwasanaeth mwy modern a dibynadwy gyda system awyru a socedi trydan. Mae’r rhain yn drenau cyfforddus a fydd yn cynyddu capasiti yn sylweddol ac yn darparu profiad o safon i gwsmeriaid sy’n teithio ar y trên.
“Gyda chefnogaeth ein partneriaid yn y diwydiant, mae ein cydweithwyr fflyd yn gweithio’n hynod o galed i gyflwyno cerbydau newydd, adnewyddu trenau presennol a gwneud gwaith addasu sydd ei angen yn ddirfawr. Mae hon yn rhaglen £800 miliwn a fydd yn trawsnewid profiad ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr fel ei gilydd; bydd cyfartaledd oedran y fflyd yn gostwng o 25 mlwydd oed i saith mlwydd oed erbyn 2024 a bydd 95% o deithiau ar fflyd newydd o 148 o drenau erbyn 2023.”
Ychwanegodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Mae’n wych bod y trên Dosbarth 170 cyntaf wedi cyrraedd ein depo yn Nhreganna. Mae ein staff wedi bod yn gweithio’n galed i baratoi ar gyfer cyfnod yr hydref ac yn y dyfodol agos iawn, bydd y cerbydau ychwanegol hyn yn darparu mwy o gapasiti i’n cwsmeriaid ac yn helpu i wneud ein rhwydwaith yn fwy cadarn. Bydd socedi trydan a system awyru yn cael eu gosod ar y trenau Dosbarth 170 i gyd.
“Rydyn ni bob amser yn canolbwyntio ar wella profiad y cwsmer ac mae hon yn enghraifft arall o sut rydyn ni’n gwneud hyn.”