Skip to main content

TfW announce Sunday Railway Revolution across Wales

20 Tach 2019

Bydd amserlenni rheilffyrdd ar dyddiau Sul yng Nghymru yn cael eu gweddnewid fis Rhagfyr eleni gyda chynnydd o 40% mewn gwasanaethau ar draws y rhwydwaith, cam sylweddol tuag at greu rheilffordd 7-diwrnod yr wythnos go iawn.

Bydd 186 o wasanaethau ychwanegol ar y Sul yn creu hwb economaidd ledled y wlad, gan ddarparu cysylltiadau hanfodol rhwng dinasoedd, trefi a phentrefi.   Bydd teithwyr ar y rheilffordd yn gweld cyflwyno gwasanaeth ar y Sul i Maesteg am y tro cyntaf erioed, bydd gwasanaethau’n dyblu rhwng Caerdydd Canolog ac Abertawe, bydd gwasanaethau tymhorol ychwanegol bellach yn rhedeg gydol y flwyddyn ar hyd Arfordir Gogledd Cymru a bydd trenau’n rhedeg yn amlach ar reilffyrdd y cymoedd.

Gan ddisgwyl y bydd hyn yn hybu’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, bydd TrC yn creu gwasanaethau newydd ar y Sul rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog gan greu gwasanaeth ar y Sul gydol y flwyddyn.  Bydd pedwar gwasanaeth i’r ddau gyfeiriad gan ddarparu cysylltiadau hanfodol at gyrchfannau twristiaeth yn yr ardal.  

Bydd lein Arfordir y Cambrian hefyd yn cael budd mawr, gan newid o un gwasanaeth y dydd ar y Sul i’r ddau gyfeiriad rhwng Machynlleth a Phwllheli i bum gwasanaeth i’r ddau gyfeiriad.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Mae Trafnidiaeth yn sylfaenol i lwyddiant ein heconomi yng Nghymru, a bydd y cynnydd dramatig hwn yn nifer y gwasanaethau ar y Sul yn cynyddu cysylltiadau rhwng ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi, gan ddarparu hwb i fusnesau lleol a helpu i wella bywydau pobl ar draws Cymru.

“Bydd y gwasanaethau hyn yn gwella mynediad ar gyfer cyfleoedd cymdeithasol, hamdden ac addysgol, yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth.  Bydd gwasanaethau hwyrach hefyd yn cynyddu opsiynau i bobl allu mynychu digwyddiadau’n hwyr y nos ledled y wlad.”

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i roi i gwsmeriaid y gwasanaeth y maen nhw’n ei haeddu ar ddydd Sul ac rydym yn falch iawn o allu gwneud y gwelliannau hyn. Bydd rhai llinellau, na fu ganddynt wasanaeth ar y Sul erioed o’r blaen, bellach yn cael eu cysylltu, gan roi mwy o fanteision hamdden ac economaidd i lawer iawn o ardaloedd.

“Mae llawer iawn o waith caled wedi mynd i mewn i ddatblygu’r amserlen hon ar gyfer ein cwsmeriaid ac rydym yn hynod falch ein bod wedi ei chwblhau. Rydyn ni wedi gweld cydweithio gwych gyda’n partneriaid yn Network Rail i sicrhau mynediad ar gyfer gwasanaethau cynharach yn y bore a hwyrach yn y nos, drwy symud amseroedd gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd, a hoffwn ddiolch i bawb cysylltiedig am eu gwaith caled.”

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:

“Mae’r cynnydd sylweddol hwn mewn gwasanaethau ar y Sul yn ymrwymiad pwysig a wnaed gennym wrth lansio ein gwasanaeth rheilffyrdd newydd dros flwyddyn yn ôl, ac mae’n dilyn lansiad llwyddiannus ein hamserlen ym Mai 2019, pryd y cyflwynwyd gwasanaethau uniongyrchol rhwng Lerpwl a Wrecsam am y tro cyntaf mewn degawdau. Rydym yn gobeithio y bydd ein cwsmeriaid a’n darpar-gwsmeriaid yn croesawu’r gwasanaethau hyn fel cam pwysig yn y gwaith o adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth y gall pobl Cymru fod yn wirioneddol falch ohono.”

Ychwanegodd Philip Evans, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy:

“Mae’n newyddion gwych bod Trafnidiaeth Cymru wedi dangos eu hymrwymiad i Ddyffryn Conwy drwy gyflwyno gwasanaethau trên ar ddydd Sul yn ystod y gaeaf, yn ogystal â chysylltiad rheolaidd o Landudno i'r rhwydwaith bob diwrnod.  Mae’r newid hwn yn ateb gofynion lleol ac yn cydnabod effaith yr hyn sy’n cael ei gynnig i dwristiaid yn yr ardal drwy gydol y flwyddyn.”

Mae cadarnhau y gwasanaethau ychwanegol ar ddydd Sul yn dilyn cyhoeddiad TrC am gynyddu capasiti ar gyfer gwasanaethau ar ddyddiau’r wythnos y mis Rhagfyr hwn, sy’n cynnwys:

  • Bydd rheilffyrdd y Cymoedd yn gweld mwy o drenau â phedwar cerbyd ar y gwasanaethau prysur, ynghyd â newidiadau eraill i'r cerbydau, gan greu lle i hyd at 6,500 yn fwy o gymudwyr bob wythnos.
  • Bydd teithwyr rhwng Cheltenham a Maesteg a rhwng Caerdydd a Glynebwy yn cael y fantais o ddefnyddio trenau modern Dosbarth 170 sydd â rhagor o le, systemau gwybodaeth i deithwyr, toiledau hygyrch, system awyru, Wi-Fi a socedi pŵer.
  • Bydd teithwyr sy’n teithio’n bell ar rai gwasanaethau rhwng Gogledd Cymru a Manceinion yn teithio ar gerbydau mwy modern ‘Mark 4 intercity’.

Nodiadau i olygyddion


Gwelliannau allweddol

Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau  

  • • Gwasanaeth newydd Maesteg ar y Sul am y tro cyntaf erioed
  • Gwasanaeth newydd o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog, sef y tro cyntaf erioed i’r rheilffordd hon weld gwasanaeth ar y Sul gydol y flwyddyn. Bydd pedwar gwasanaeth i’r ddau gyfeiriad gan ddarparu cysylltiad newydd hanfodol at gyrchfannau twristiaeth yn yr ardal.
  • Dyblu nifer y gwasanaethau ar y Sul rhwng Caerdydd Canolog ac Abertawe, gan gynyddu o 14 o wasanaethau rhwng y ddwy ddinas i 29.
  • Bydd gwasanaethau o Gaerdydd i Gaerloyw yn dechrau ddwy awr yn gynharach nac yn ystod amserlen Rhagfyr 18
  • Ar y rhan fwyaf o wasanaethau’r Gororau, rhoddir y gorau stopio mewn gorsafoedd rhwng yr Amwythig a Crewe (yn lle hynny darperir gwasanaeth gwennol lleol o’r Amwythig i Crewe). Mae hyn yn golygu teithiau uniongyrchol cyflymach
  • Yn ogystal, bydd gwasanaethau siopa ychwanegol rhwng Crewe a’r Amwythig yn rhoi nifer sylweddol o wasanaethau newydd i bobl yn Swydd Amwythig a Swydd Gaer wrth deithio ar ddydd Sul. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cynyddu o 9 gwasanaeth y dydd i 16.
  • Ar hyn o bryd, nid yw TrC yn rhedeg ond un gwasanaeth ar y Sul rhwng Pwllheli a Machynlleth. Mae TrC yn cynyddu hyn i bum gwasanaeth i’r ddau gyfeiriad, gan roi mwy o opsiynau i bobl nac erioed o’r blaen
  • Mae gwell gwasanaeth rhwng Aberystwyth a’r Amwythig yn golygu cynnydd o 16 gwasanaeth i 21
  • Mae’r gwasanaeth haf cyfredol rhwng Caer a Crewe yn troi’n wasanaeth gydol y flwyddyn
  • Gydol y flwyddyn o Landudno i Gyffordd Llandudno. Ni fu gwasanaeth ar y Sul yn ystod y gaeaf ar y llwybr hwn o’r blaen, gan olygu y bu’n rhaid i unrhyw un a oedd yn dymuno ymweld â’r dref rhwng Rhagfyr a Mai ddefnyddio Cyffordd Llandudno. Fis Rhagfyr eleni, bydd 32 gwasanaeth newydd sbon rhwng y ddau le yn cael eu cyflwyno

 

Rheilffyrdd y Cymoedd

  • Gwasanaeth llawer helaethach ar ddydd Sul ar reilffordd Rhymni, gyda 7 o wasanaethau ychwanegol rhwng Rhymni a Chaerdydd, yn ogystal â bron â threblu’r gwasanaethau i/o Gaerffili - 16 bob dydd Sul nawr, ac yna 45 o fis Rhagfyr ymlaen.
  • Gwasanaeth bob awr rhwng Treherbert a Chaerdydd, gan gynyddu cyfanswm y gwasanaethau dydd Sul o 15 nawr i 28.
  • Gwasanaeth gwell ar ddydd Sul i Ynys y Barri (tebyg i’r amserlen haf gyfredol, yn rhedeg gydol y flwyddyn)
  • Bydd y gwasanaeth gwennol o Gaerdydd Heol y Frenhines i Fae Caerdydd yn cynyddu o 100 o wasanaethau ar ddydd Sul i 130, a bydd yn rhedeg tan 22:00, i roi mwy fyth o ddewisiadau i bobl allu mwynhau ardal y Bae ar nos Sul cyn dod yn ôl ar gyfer cysylltiadau ymlaen. O'r blaen, roedd y gwasanaethau'n dod i ben am 19:00 ar nos Sul - sy’n golygu y bydd tair awr yn ychwanegol o wasanaeth i gwsmeriaid.
  • Gwasanaeth newydd o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog, sef y tro cyntaf erioed i’r rheilffordd hon weld gwasanaeth ar y Sul gydol y flwyddyn. Bydd pedwar gwasanaeth i’r ddau gyfeiriad gan ddarparu cysylltiad newydd hanfodol at gyrchfannau twristiaeth yn yr ardal.
  • Arfordir Gogledd Cymru – bydd trenau ychwanegol sy’n rhedeg dros yr haf bellach ar waith gydol y flwyddyn, gan roi mwy o gysondeb i gwsmeriaid o ran gwasanaeth

Llwytho i Lawr