English icon English

Cynllun newydd i ddiogelu gweithgynhyrchu yng Nghymru at y dyfodol

New plan to futureproof manufacturing in Wales

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun gweithredu newydd i helpu i ddiogelu dyfodol tymor hir y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Mae gan weithgynhyrchu hanes hir a balch yng Nghymru ac mae’n dal i fod yn un o’r sectorau sy’n cyfrannu fwyaf at Werth Gros Ychwanegol (GVA) economi Cymru.

Mae’r sector yn cynnal swyddi o ansawdd da i 145,000 o bobl ac mae’n sylfaenol i ranbarthau ym mhob rhan o’r wlad.

Mae Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru: Fframwaith Gweithredu yn nodi’r camau sydd angen eu cymryd i ddatblygu sector gweithgynhyrchu cryf ac uchel ei werth, gyda gweithlu crefftus a hyblyg sy’n gallu darparu’r cynnyrch, gwasanaethau a thechnolegau sydd eu hangen ar economi’r dyfodol yng Nghymru.

Mae’r cynllun yn ystyried y newid yn yr hinsawdd a’r angen i ddatgarboneiddio ac addasu i newidiadau technolegol, gan gynnwys awtomeiddio, digideiddio ac amgylchedd mwy cysylltiedig, oll yn bynciau pwysig.

Mae Gweinidog yr Economi Ken Skates yn dweud bod y ffactorau hyn yn hanfodol i helpu’r sector i ymateb i heriau mawr, gan gynnwys effeithiau difrifol coronafeirws, ac i fanteisio ar gyfleoedd y dyfodol.

Mae’r cynllun yn cyd-fynd â Chenhadaeth Ailadeiladu a Chadernid Economaidd Llywodraeth Cymru a gafodd ei lansio’n gynharach yr wythnos hon ac sy’n esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru am ailadeiladu economi Cymru er mwyn ei gwneud yn fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Mae’r sector gweithgynhyrchu yn profi un o’r cyfnodau mwyaf cyfnewidiol yn ei hanes, gyda’r pandemig, gadael yr UE, y newid yn yr hinsawdd a thechnolegau newydd i gyd yn cael effaith sylweddol.

“Mae’r cynllun gweithredu rwy’n ei lansio heddiw yn hanfodol i’n helpu i adeiladu cymunedau sydd â sectorau gweithgynhyrchu ffyniannus all cyfrannu at economi lewyrchus a chryf.”

Mae’r cynllun yn pwysleisio hefyd bwysigrwydd meithrin cadwyni cyflenwi lleol a denu gweithgareddau yn ôl i Gymru er mwyn creu cyfleoedd i’r economi ffynnu.

Mae’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru eisoes wedi dangos yr hyn sy’n bosibl mewn ychydig iawn o amser trwy ei lwyddiant i gynhyrchu PPE yng Nghymru pan oedd cadwyni cyflenwi rhyngwladol o dan bwysau mawr.

Bydd llwyddiant y sector yn y dyfodol yn dibynnu hefyd ar ddefnyddio deunydd amgen carbon isel, a mwy o awtomeiddio a digideiddio.

Mae deg thema yn Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru: Fframwaith Gweithredu, sef:

  • Y newid yn yr hinsawdd a’r angen i ddatgarboneiddio;
  • Newid technolegol;
  • Sgiliau at y dyfodol;
  • Seilwaith modern ar gyfer gweithio a mynd i’r gwaith;
  • Gwaith teg;
  • Cydweithio gwell i arloesi mwy;
  • Datblygu cymunedau a chlystyrau o is-sectorau;
  • Cryfhau sgiliau arwain a rheoli;
  • Cryfhau cadwyni cyflenwi trwy ddenu gweithgareddau yn ôl i Gymru a chreu cyfleoedd lleol; ac
  • Angori busnesau’n well yng Nghymru trwy gynyddu ymchwil a datblygu.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws y llywodraeth i roi pob un o’r themâu hyn ar waith, gan wneud hynny mewn partneriaeth â diwydiant, y byd academaidd a’r undebau llafur.

Caiff corff ei sefydlu mewn cydweithrediad â Diwydiant Cymru i oruchwylio’r gwaith hwn ac i fesur cynnydd.

Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Rydym wedi ymrwymo i gryfhau’n diwydiant gweithgynhyrchu a sicrhau ei fod yn parhau i chwarae rhan allweddol ym mhob rhan o Gymru.  Y cam cyntaf yw lansio’r cynllun hwn heddiw, ac mae’n amlwg bod llawer eto i’w wneud gyda’n partneriaid i’w roi ar waith.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio gyda ni hyd yma i lunio’r weledigaeth.  Trwy barhau i weithio gyda’n gilydd, rwy’n hyderus y gallwn sicrhau dyfodol byrlymus a chynaliadwy ar gyfer ein sector gweithgynhyrchu.  Bydd hynny yn ei dro yn ein helpu i greu economi mwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd.”