- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
02 Ebr 2019
Tref SBA yng nghalon Cymru
GYDA’i hysblander Fictoraidd cain, ei llu o siopau annibynnol a’i golygfeydd godidog, mae Sba Llandrindod yn un o berlau rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru.
Mewn byd o drefi diddychymyg lle mae bob stryd fawr yr un fath, mae un gair yn disgrifio Llandrindod i'r dim - hudolus.
A hithau’n swatio yng nghanol bryniau tonnog Sir Faesyfed, mae'r dref wedi ennill bri fel lleoliad i gynnal digwyddiadau gyrru ceir rali mawr a bowlio rhyngwladol, tra bo ei hamryfal westai a’i chyfoeth o leoedd i fynd am dro yn ei gwneud yn gyrchfan ddelfrydol ar gyfer seibiant bach yn y wlad am benwythnos.
Cyrraedd yno
Mae Llandrindod rhyw 1 awr 30 munud o daith o'r Amwythig a 2 awr 15 munud o Abertawe ar hyd Lein Calon Cymru. Mae'r orsaf wedi'i lleoli yng nghanol y dref.
(Gorsaf Llandrindod)
Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o hyrwyddo llwybr cerdded Calon Cymru drwy annog ymwelwyr i adael eu car gartref a defnyddio’r trên a cherdded er mwyn cael blas gwirioneddol o gefn gwlad Cymru a Swydd Amwythig ar ei orau.
Mae'r llwybr, sy’n 141 milltir o hyd, yn cysylltu gorsafoedd ar hyd y lein, gyda Llandrindod yn y canol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: www.heart-of-wales.co.uk/cy/home
Mae teithwyr sy'n defnyddio'r lein yn rheolaidd yn gallu cael Cerdyn Rheilffordd lein Calon Cymru am £10 er mwyn arbed 34% ar bob siwrnai yma.
Gallwch hefyd brynu tocyn cylch Day Ranger ar gyfer y lein sy’n caniatáu ichi deithio o Gaerdydd i'r Amwythig neu Abertawe, cyn teithio ar y lein a dod yn ôl ar hyd y brif lein. Rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Atyniadau ac ychydig o wybodaeth am y dref
Er bod Llandrindod yn adnabyddus ers tro byd am ei dyfrodd sba, dim ond yn ystod blynyddoedd olaf oes Fictoria a blynyddoedd cynnar y cyfnod Edwardaidd ar ôl dyfodiad y rheilffordd ym 1865 y dechreuodd y dref dyfu.
Parodd y twf economaidd hwnnw tan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf wrth i wasanaethau i deithwyr arwain at fwy o alw am y dyfroedd mwynol.
Er nad oes modd mynd at nifer fawr o'r ffynhonnau erbyn hyn, mae’n bosibl o hyd i chi flasu dyfroedd y ffynnon Haearnol yng nghanol Rock Park am ddim. Tafliad carreg o'r parc mae llyn Llandrindod lle gallwch logi cwch, mwynhau hufen ia neu fynd am dro bach hamddenol o amgylch y llyn.
(Cip ar un o ffynhonnau enwog Llandrindod yn Rock Park)
(Y Ffynnon Haearnol)
Mae'r dref yn arbennig oherwydd y nifer fawr o westai mawreddog ac adeiladau urddasol wedi'u gwneud o frics melyn o chwareli sir Faesyfed sydd ynddi. Mae’r rhain yn deillio’n ôl i oes Fictoria. Felly mae’n briodol fod y dref yn adnabyddus am ei Gŵyl Fictoraidd, pan mae pobl o bob man yn tyrru yno i ddathlu pob math o bethau sy'n gysylltiedig â'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yma hefyd ceir un o lawntiau bowlio gorau Prydain, lle y cynhelir digwyddiadau rhyngwladol yn rheolaidd, ac mae nifer o chwaraewyr rhyngwladol o Gymru yn dal i fyw yn yr ardal.
Mae rhai o brif atyniadau Llandrindod yn cynnwys y canlynol:
- Dyfroedd sba a chanolfan dreftadaeth Rock Park
- Cychod olwyn a llyn Llandrindod
- Yr Amgueddfa Seiclo Genedlaethol
- Amgueddfa Sir Faesyfed
- Llwybrau cerdded Llwybr Treftadaeth y Dref a lein Canol Cymru
- Lawntiau bowlio rhyngwladol
- Gŵyl Fictoraidd, 19 i 25 Awst 2019
- Yr Amgueddfa Cabanau Signalau