- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
11 Ebr 2019
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig cyfleoedd gwych i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru i dendro am fusnes yn y sector trafnidiaeth yng Nghymru.
Rydym yn datblygu fframwaith o gyflenwyr i weithio gyda ni nid yn unig i wella cysylltedd trafnidiaeth, ond hefyd i ddarparu manteision ehangach i gymunedau Cymru.
Mae ein hymagwedd gynaliadwy a moesegol yn rhoi pobl yn gyntaf ac yn cyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor. Yn unol ac amcanion Llywodraeth Cymru a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), mae gan TrC amrywiaeth o ofynion yn y gadwyn gyflenwi.
Yn 2019, bydd busnes Cymru yn darparu gweithdai yn rhad ac am ddim fydd yn canolbwyntio ar adnoddau dynol a Chynaliadwyedd, gan edrych ar y gofynion hyn yn fanylach er mwyn helpu busnesau bach a chanolig Cymru i wella eu siawns o ennill y tendrau hyn.
Bydd y gweithdai hyn yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled Cymru.
- Prifysgol De Cymru-Cyfnewid (adeilad Aberhonddu), Pontypridd, CF37 1DL –Ebrill 17 2019, 09:15-16:00
- Busnes mewn ffocws (Bae Caerdydd), Caerdydd, CF10 5LE –Ebrill 30 2019, 09:15-16:00
- Busnes mewn ffocws (Parc Bocam), Pencoed, CF35 5LJ –Mai 14 2019, 09:15-16:00
- Busnes mewn ffocws (Casnewydd), Casnewydd, NP20 2AH –Mai 21 2019, 09:15-16:00