- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
21 Meh 2019
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi penodi Alun Bowen fel ei Gyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd ei Bwyllgor Archwiliad a Risg
Mae Alun yn weithiwr ariannol proffesiynol profiadol gyda 37 mlynedd o brofiad o weithio i'r cwmni cyfrifo byd-eang, KPMG. Mae ei waith wedi mynd ag ef drwy'r byd, gyda rolau yng Nghaerdydd, Llundain, Sydney, Hong Kong a Kazakhstan.
Un o'i rolau yn y cwmni oedd Uwch Bartner yng Nghymru, lle gweithredodd fel cynghorydd cynllunio busnes arweiniol ar brosiectau fel Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Mae Alun, sy'n hanu o Landeilo ac sy'n siarad Cymraeg, wedi bod yn Gadeirydd y Business in the Community Cymru ac yn aelod o'r pwyllgor archwilio Business in the Community UK, yn Gadeirydd Cardiff Common Purpose, yn aelod o gyngor Prince’s Trust Cymru ac yn aelod o’r bwyllgor archwilio Prince’s Trust.
Bu hefyd yn aelod o bwyllgor archwilio Institute of Chartered Accountants Cymru a Lloegr.
Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Risg ac Ymddygiad Hodge, grwp gwasanaethau ariannol Caerdydd, un o ymddiriedolwyr sefydliad Hodge a Chyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd pwyllgor archwilio'r Severstal, sef cwmni dur mwyaf cwbl integredig yn Rwsia
Mae ganddo radd mewn Gwyddorau Naturiolo Trinity College, Caergrawnt.
Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Alun:
"Rwy'n falch iawn o fod yn ymgymryd â fy rôl newydd yn Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu ein cynlluniau cyffrous wrth i ni weithio tuag at ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth y gall pobl Cymru ymfalchïo ynddo. "
Dywedodd Scott Waddington, Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru:
"Ar ran y tîm Trafnidiaeth Cymru yn ei gyfanrwydd, hoffwn gynnig croeso cynnes i Alun i'r sefydliad. Yr wyf yn falch iawn bod Alun wedi ymuno â'r bwrdd yn ystod y cyfnod cyffrous hwn i ni, wrth inni ddechrau trawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru a'r Gororau gyda'n £5 biliwn o fuddsoddiad mewn gwasanaethau rheilffyrdd. Rwy'n hyderus y bydd Alun yn chwarae rôl allweddol wrth ein helpu i barhau i weithio tuag at rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig i Cadw Cymru i Symud."