- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
10 Mai 2019
Bydd buddsoddiad gwerth £176 miliwn mewn gorsafoedd yn rhoi busnesau bach a chanolig wrth galon gwaith Trafnidiaeth Cymru.
Mae dau ddigwyddiad mawr wedi cael eu trefnu yn ne a gogledd Cymru, lle gall busnesau ddod draw a chwrdd â rheolwyr rheilffyrdd i weld sut gallant gymryd rhan.
Cynhelir y digwyddiadau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar 6 Mehefin ac yn Venue Cymru yn Llandudno ar 13 Mehefin. Maent yn cael eu rhedeg gyda chymorth Busnes Cymru, sy'n gallu cynnig cyngor a chymorth ymarferol ar gyflwyno cynnig am gontractau allweddol.
Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn rheoli 247 o orsafoedd ledled Cymru a Lloegr ac maent wedi ymrwymo i wella pob un ohonynt dros y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd Clare James, Pennaeth Caffael Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru: "Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â busnesau bach a chanolig yn y cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. Bydd eu gwybodaeth a'u sgiliau arbenigol yn werthfawr tu hwnt wrth i ni ddechrau ar ein rhaglen gwella gorsafoedd fawr. A drwy fuddsoddi gyda chwmnïau lleol, rydyn ni'n gwybod y byddwn yn rhoi rhywbeth yn ôl i'n cymunedau lleol – rydyn ni'n cydnabod bod hynny'n hynod o bwysig. Felly byddwn yn annog cynifer o fusnesau â phosib i ddod draw i gwrdd â ni."
Bydd y gwaith cychwynnol yn debygol o gynnwys cyflenwi, gosod ac adnewyddu:
- Teledu cylch cyfyng
- Ystafelloedd aros - ailwampio
- Cysgodfeydd
- Sgriniau Gwybodaeth i Gwsmeriaid
- Storfeydd beiciau - gan gynnwys integreiddio â theledu cylch cyfyng a gwasanaethau eraill
- Leinio meysydd parcio
- Seddi
- Ailfrandio
- Arwyddion
- Rheilenni canllaw
- Ymylon grisiau
- Dolen sain
- Paentio
- Goleuadau meysydd parcio
- Ffensio palid
Dywedodd Howard Jacobson, Cynghorydd Tendro, Busnes Cymru: “Mae Busnes Cymru wedi creu cynllun i gynghori a helpu busnesau ym mhob cwr o Gymru i fod yn barod i dendro a gallu manteisio ar y cyfleoedd cyffrous mae prosiect Trafnidiaeth Cymru yn eu cynnig.
"Rydyn ni'n falch iawn o gefnogi'r digwyddiadau 'Cwrdd â'r Prynwr' hyn oherwydd rydyn ni'n credu eu bod yn gyfle gwych i fusnesau bach a chanolig o Gymru glywed yn uniongyrchol am y llu o gyfleoedd tendro sydd ar gael, yn ogystal â'r cymorth a'r gweithdai wedi'u hariannu'n llawn y gallant fanteisio arnynt drwy Busnes Cymru."
Bydd sesiynau grŵp bach ar gael gyda Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Busnes Cymru, Hyrwyddwyr Cyflenwyr, Busnes Cymdeithasol Cymru a Gwerthwch i Gymru.
(Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar 6 Mehefin)
(Yn Venue Cymru yn Llandudno ar 13 Mehefin)