Skip to main content

A New Vision for Community Rail, by Transport for Wales

15 Mai 2019

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio gweledigaeth newydd sbon ar gyfer rheilffyrdd cymunedol, gan roi lle blaenllaw i anghenion ardaloedd lleol yn ei gynlluniau.

Bydd y weledigaeth, a lansiwyd yng Ngorsaf Llandudno ar 16 Mai gan y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates AC, yn arwain at sefydlu Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol newydd ar draws rhwydwaith cyfan Cymru a'r Gororau i hyrwyddo ac annog defnyddio rheilffyrdd mewn cymunedau.

Bydd dros £600,000 yn cael ei fuddsoddi bob blwyddyn, gyda 22 o rolau llysgenhadon cymunedol newydd yn cael eu creu ochr yn ochr â rolau marchnata a fydd yn canolbwyntio ar hyrwyddo twristiaeth ranbarthol a thwf economaidd lleol.

Bydd strategaeth Trafnidiaeth Cymru hefyd yn targedu mabwysiadu gorsafoedd, gyda chynlluniau i sicrhau bod 90 y cant o'n gorsafoedd yn cael eu mabwysiadu o fewn pedair blynedd, gan greu cysylltiadau gwell â'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn gwybod am y rôl amhrisiadwy mae ein partneriaethau rheilffyrdd cymunedol yn ei chwarae yn y dinasoedd, y trefi a’r pentrefi rydym yn eu gwasanaethu. Bydd ein strategaeth newydd yn mynd â rheilffyrdd cymunedol i'r lefel nesaf ac yn gosod Trafnidiaeth Cymru fel prif eiriolwr rheilffyrdd cymunedol Prydain.

Mae'r rheilffordd yn bodoli i weithio i'r cymunedau hynny, felly drwy greu rhagor o bartneriaethau, datblygu’r arfer o fabwysiadu gorsafoedd, gweithio'n agos gyda grwpiau defnyddwyr rheilffyrdd a chyflogi llysgenhadon cymunedol, gallwn adeiladu perthynas well ac agosach gyda'r cymunedau hynny.”

Mae'r strategaeth yn mynd law yn llaw â Chynllun Gwella Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru, sy’n werh £200 miliwn. Bydd y cynllun, a ddechreuodd yn gynharach eleni drwy lanhau gorsafoedd yn drylwyr, yn buddsoddi ym mhob un o’r 247 o orsafoedd a reolir gan Trafnidiaeth Cymru, waeth pa mor fawr neu fach ydynt.

Bydd y buddsoddiad hwnnw hefyd yn targedu cyfleusterau unrhyw orsaf wag o gwmpas y rhwydwaith a fydd yn cael eu hadnewyddu'n benodol at ddefnydd cymunedol.

Bydd ein cynllun Mabwysiadu Gorsaf, sydd wedi denu unigolion a grwpiau o bob oed a chefndir ledled Cymru a Lloegr, yn cael ei ddatblygu fel rhan o'r strategaeth. Bydd rhagor o gefnogaeth gan randdeiliaid lleol a rheolwyr cymunedol yn galluogi mabwysiadwyr i wneud mwy ac yn eu helpu i roi gorsafoedd yn eu priod le wrth galon cymunedau.

Fel rhan o brosiect Metro De Cymru, bydd gorsafoedd a seilwaith ar hyd Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd yn trosglwyddo o Network Rail i Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddarach eleni. Bydd hyn yn caniatáu perthynas waith agosach fyth rhwng mabwysiadwyr gorsafoedd a Trafnidiaeth Cymru.

ChirkRailStation2019.04.18-7

Dywedodd Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn trawsnewid y sector trafnidiaeth ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau, ac mae'r gwaith glanhau trylwyr sy'n digwydd yng ngorsaf Llandudno yn enghraifft wych o'r camau cadarnhaol sy'n cael eu cymryd yn barod.

“Rydym wedi canolbwyntio'n glir ar weithio gyda chymunedau i adeiladu rheilffordd sy'n addas ar gyfer y dyfodol, ac mae'r Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol yn rhan cwbl allweddol o hynny.

“Mae cael system drafnidiaeth fodern yn sylfaenol i les cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, ac mae gan gymunedau rôl bwysig i'w chwarae i sicrhau bod ein buddsoddiad yn sicrhau buddion lleol.

 “Rwy'n falch y bydd dros £600,000 yn cael ei fuddsoddi bob blwyddyn, ac y bydd rolau llysgennad a marchnata cymunedol yn cael eu creu diolch i'r strategaeth. Bydd ffocws ar ddatblygu partneriaethau allweddol gyda chymunedau lleol, a thrwy hyrwyddo twristiaeth ranbarthol gallwn ddarparu hwb gwirioneddol i'n twf economaidd.

“Bydd y Cynllun Gwella Gorsafoedd hefyd yn golygu y bydd Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi £200 miliwn ar draws ei holl orsafoedd.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i drafnidiaeth yng Nghymru ac rwy’n edrych ymlaen at weld y Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol yn mynd o nerth i nerth ac yn darparu ar gyfer pobl ledled y wlad.”   

 Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Mae'n hanfodol ein bod ni’n gwerthfawrogi'r cyfraniad y gall cymunedau ei wneud i'n rhwydwaith, ac yn gwneud y gorau o'r cyfraniad y gall ein gwasanaethau ei gynnig i gymunedau.”

Dywedodd Melanie Lawton, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol Partneriaeth Dyffryn Conwy:

Mae'n gyfnod cyffrous i Bartneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol yng Nghymru a'r Gororau. 

Rwyf wedi cael profiad uniongyrchol o'r buddsoddiad sylweddol mewn Rheilffyrdd Cymunedol, mewn cynlluniau mabwysiadu gorsafoedd, ac mae mwy i ddod gyda gwelliannau i orsafoedd a buddsoddi mewn cerbydau.  Bydd 230 o unedau wedi eu hadnewyddu ar lein Rheilffordd Dyffryn Conwy, a rhagor o waith hyrwyddo i helpu pobl i gael y gorau o'u rheilffordd drwy ddiwrnodau allan gyda golygfeydd hyfryd, gan hefyd ategu cynhwysiant cymdeithasol a theithio cynaliadwy i bobl yn y gymuned leol.

Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr rheoli llwybrau Network Rail Cymru a’r Gororau: “Rydym yn falch o gefnogi lansiad Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol newydd Trafnidiaeth Cymru, a fydd yn cysylltu cymunedau â'r rheilffordd ymhellach.

“Mae'n hanfodol creu cysylltiadau cryf gyda'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu er mwyn rhoi llais i'r gymuned, annog defnydd o’r rheilffyrdd, hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, a chefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd.

“Rydym yn gobeithio y bydd y strategaeth yn adeiladu ar y cynnydd mawr sydd wedi ei wneud i annog rhagor o bobl leol i gymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith o wella'r amgylchedd rheilffyrdd, sy'n hanfodol i helpu i gefnogi cymunedau ffyniannus ledled Cymru a'r Gororau.”

LlandudnoRailStation2018.10.29-12

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â james.nicholas@tfwrail.wales neu ffoniwch 03303211180.