Skip to main content

Paralympic athlete Nathan Stephens joins forces with Transport for Wales to promote accessible travel

16 Gor 2019

Mae un o brif athletwyr Paralympaidd Cymru wedi ymuno â Trafnidiaeth Cymru i ddangos pa mor hygyrch yw'r rheilffyrdd heddiw

Mewn fideo newydd sbon sy’n cael ei lansio fel rhan o’r Diwrnod Ymwybyddiaeth o Anabledd, mae Nathan Stephens yn dangos sut i gynllunio'ch siwrnai, archebu cymorth, trefnu amgylchedd gorsaf a theithio’n ddiogel ar drenau.

Yn y fideo, mae Nathan yn mynd ar drên ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn teithio i lawr i Abertawe.

Mae’r fideo ar gyfer unrhyw un â phroblemau symud sy’n bryderus neu’n ansicr efallai am ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

"Roedd y broses yn dda iawn ac roeddwn i’n hapus iawn gyda’r profiad," dywedodd Nathan, 31 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr.

“Gyrru car fydda i'n ei wneud gan fwyaf oherwydd dydi fy mhrofiad i o drafnidiaeth gyhoeddus ddim wedi bod y gorau bob amser.

"Ond doedd dim unrhyw straen ar y siwrnai ac roedd y cymorth i deithwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dda iawn.

"Rydw i’n edrych ymlaen at weld y trenau newydd a’r gorsafoedd yn gwneud pethau’n llawer mwy hygyrch ac mae hwn yn rhywbeth rydw i’n mynd i wneud llawer mwy ohono yn y dyfodol." 

Ar ôl colli ei ddwy goes mewn damwain reilffordd yn ddim ond naw oed, dechreuodd Nathan gymryd rhan mewn llawer o chwaraeon anabledd, gan gynrychioli Prydain Fawr mewn gemau Paralympaidd dair gwaith.

Mae wedi cystadlu mewn llawer o chwaraeon, gan gynnwys Taflu Maen, Disgen a Gwaywffon. Ar un adeg roedd yn dal record byd y dynion yn y waywffon yn y dosbarth F57. Hefyd cystadlodd Nathan gyda thîm Hoci Sled Iâ Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn 2006.

Enillodd Nathan fedal aur ym Mhencampwriaethau Athletau Paralympaidd y Byd yn Seland Newydd.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi £15 miliwn mewn gwelliannau hygyrchedd ar draws ei rwydwaith a hefyd yn ymrwymo i wneud 99% o’r holl siwrneiau ar Rwydwaith Craidd y Cymoedd yn ddi-risiau fel rhan o brosiect gwerth £800 miliwn Metro De Cymru.

Rydyn ni hefyd yn buddsoddi £800 miliwn mewn fflyd newydd sbon o drenau a fydd yn gwbl hygyrch ac rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn Network Rail i sicrhau buddsoddiadau Mynediad i Bawb yn ein gorsafoedd.

Dywedodd Pennaeth Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru, Barry Lloyd, bod Nathan yn fodel rôl rhagorol.

"Roedd yn wych gweithio gyda Nathan ar y fideo yma a gobeithio y bydd yn codi ymwybyddiaeth o sut rydyn ni’n gwneud ein rheilffyrdd yn fwy hygyrch," dywedodd.

"Er bod gennym ni lawer o waith i’w wneud eto, rydyn ni’n frwd o blaid creu rheilffyrdd cwbl hygyrch a chynhwysol ar gyfer y cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol."