Skip to main content

New Rail Services launched between North Wales and Liverpool

20 Mai 2019

Gan ddechrau heddiw, bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaethau rheilffyrdd bob awr rhwng Gogledd Cymru a Sir Caer i Lerpwl.

Drwy ailagor trac Tro Halton, bydd Trafnidiaeth Cymru yn lansio 215 o wasanaethau newydd bob wythnos a bydd gwell cysylltiad yn hwb economaidd mawr i’r rhanbarth.

Hefyd mae’r gwasanaethau ychwanegol wedi arwain at greu 30 o swyddi newydd.

Bydd gwasanaethau’n rhedeg bob awr o Gaer, gan alw yn Helsby, Frodsham, Runcorn, Parcffordd De Lerpwl (ar gyfer Maes Awyr John Lennon) a Lerpwl Lime Street.

Hefyd, bydd dau wasanaeth uniongyrchol y dydd o Wrecsam Cyffredinol ac un yn uniongyrchol o Lerpwl i Wrecsam.

Gadawodd y trên cyntaf Wrecsam Cyffredinol am 6.35am fore heddiw, lle’r oedd digwyddiad dathlu’n cael ei gynnal gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates. Wedyn aeth y Gweinidog ar y gwasanaeth cyntaf i Lerpwl.

Dywedodd Ken Skates: “Rwy’n hynod falch o fod yn lansio gwasanaethau rheilffyrdd newydd Trafnidiaeth Cymru rhwng Gogledd Cymru a Sir Caer i Lerpwl.

“Bob dydd mae miloedd o gymudwyr yn teithio rhwng Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, sy’n golygu bod cysylltiad rheilffyrdd rhagorol yn hanfodol i'r economi ar ddwy ochr y ffin. Drwy ddarparu 215 o wasanaethau newydd yr wythnos, byddwn yn cryfhau'r cysylltiadau gyda’n cymdogion dros y ffin, gan greu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol pwysig. Hefyd bydd gwella mynediad yn hwb i’n cymunedau lleol ni ac i'r sector twristiaeth rhanbarthol, gan ddenu mwy o ymwelwyr i Gymru.

“Fe hoffwn i ddiolch i bob partner sy’n rhan o’r prosiect yma ac rwy’n edrych ymlaen at barhau â’n perthynas waith agos er budd defnyddwyr y rheilffyrdd.”

Ychwanegodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

"Mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi £5 biliwn i drawsnewid y sector trafnidiaeth ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau ac rydyn ni’n eithriadol gyffrous am gyflwyno'r gwasanaethau newydd sy’n cysylltu Gogledd Cymru a Sir Caer gyda Lerpwl.

“Bydd yn hwb economaidd sylweddol ar gyfer yr ardal ac mae’r ffaith bod Trafnidiaeth Cymru yn darparu 215 o wasanaethau newydd sbon yr wythnos yn tanlinellu ein hymrwymiad i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gwell i bawb.

“Mae’r prosiect hwn wedi gweld gwaith caled, ymroddiad a buddsoddiad aruthrol gan gynifer o unigolion ac asiantaethau ac mae’n dangos beth yn union y gellir ei gyflawni drwy weithio’n gydweithredol.

“Rydyn ni’n dynesu at ein chwe mis cyntaf yn Trafnidiaeth Cymru a dyma garreg filltir bwysig arall wrth i ni barhau i gyflawni ein gweledigaeth.”

Nodiadau i olygyddion


- Gwasanaethau uniongyrchol o Wrecsam i Lerpwl Lime Street - Llun-Sad
- Gwasanaethau Sul Caer i Lerpwl Lime Street
- Prynu a gwirio tocynnau drwy ddilyn y ddolen yma https://trc.cymru/