Skip to main content

Tackling Mental Health at Transport for Wales

12 Ebr 2019

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dangos ei ymrwymiad i fynd i’r afael â’r stigma yn ymwneud â materion iechyd meddwl yn y gweithle trwy lofnodi’r Addewid Cyflogwyr Amser i Newid.

Mae dros 900 o gyflogwyr yng Nghymru a Lloegr ar draws pob sector wedi llofnodi’r addewid, sy’n arwydd o addewid sefydliad i newid sut rydym yn meddwl a gweithredu ynghylch iechyd meddwl yn y gweithle ac i sicrhau bod gweithwyr cyflogedig sy’n wynebu’r problemau hyn yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Fel rhan o’i ymrwymiad, mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi cefnogi hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl saith aelod o staff, gydag wyth arall i gael eu hyfforddi fel hyrwyddwyr iechyd meddwl dros yr wythnosau nesaf. Yn ogystal, bydd yn mynd ati cyn hir i lansio rhaglen cynorthwyo gweithwyr cyflogedig i ddarparu cymorth pellach i staff, ac mae wedi penodi Rheolwr Diogelwch, Cynaliadwyedd a Llesiant llawn amser.

Meddai James Price, prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru a lofnododd yr addewid ar ran y sefydliad:

“Mae llofnodi’r addewid Amser i Newid heddiw yn garreg filltir bwysig yn ein hymrwymiad sefydliadol i fynd i’r afael ag iechyd meddwl. Mae gennym ni raglen hyfforddi uchelgeisiol i sicrhau ein bod ni i gyd yn cefnogi ein gilydd.

“Rydyn ni eisiau bod ar flaen y gad o ran mynd i’r afael ag achosion iechyd meddwl yn y gweithle, ond rydyn ni hefyd eisiau mynd gam ymhellach a chefnogi’r rhai sy’n dioddef am resymau eraill. Mae fy ymrwymiad i wneud i hyn ddigwydd yn flaenoriaeth uchel.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydyn ni wedi ymrwymo i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, ac mae gwella llesiant pob aelod o staff yn rhan annatod o hyn.”

Meddai Karen Roberts, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru: "Rydyn ni wrth ein boddau bod Trafnidiaeth Cymru wedi llofnodi ein haddewid i sefydliadau ac yn cymryd camau cadarnhaol i helpu i fynd i’r afael a stigma a gwahaniaethu mewn perthynas ag iechyd meddwl. Mae neges ein hymgyrch yn syml; rydyn ni eisiau cael pobl i siarad am iechyd meddwl er mwyn normaleiddio sgyrsiau gyda ffrindiau a theulu ac yn y gweithle.

Rydyn ni wedi gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr a fydd, gobeithio, yn rhoi’r hyder i bawb yn y sefydliad siarad am iechyd meddwl yn y gweithle, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ymgysylltu â’u Hyrwyddwyr dros y misoedd nesaf.”