Skip to main content

Chester race goers reminded to check before they travel ahead of railway closure

23 Gor 2019

Mae teithwyr sy’n teithio ar y trên i Rasys Caer o Leeds a Manceinion dros y ddau benwythnos nesaf yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw, gan fod gwaith atgyweirio ar raddfa fawr yn mynd rhagddo ar gyffordd prif linell Arfordir y Gorllewin.

Rhwng 20 Gorffennaf a 4 Awst, bydd Network Rail yn uwchraddio cledrau, ceblau, llinellau uwchben a signalau ar gyffordd brysur Acton Grange, a ddefnyddir gan fwy na 260 o drenau bob dydd.

Tra bydd cynllun y Prosiect Great North Rail gwerth £27 miliwn yn mynd rhagddo, bydd llawer o wasanaethau trên yn cael eu dargyfeirio ar hyd llwybrau amgen.

Mae gweithredwyr trenau a Network Rail wedi cytuno ar gynllun i wneud yn siŵr bod teithwyr yn parhau i symud drwy gydol y gwaith.

Gallai’r cynllun olygu bod yn rhaid i deithwyr newid i drenau gwahanol neu fysiau am rannau o’u taith.

Caiff teithwyr eu hannog i wirio manylion eu taith yn www.nationalrail.co.uk cyn teithio fel eu bod yn gwybod yn union beth i’w ddisgwyl. Fe’u cynghorir hefyd i ganiatáu mwy o amser ar gyfer teithio gan fod gwasanaethau’n debygol o fod yn fwy prysur nag arfer.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid Gwasanaethau Trenau TrC; “Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl yn teithio i rasys Caer ar y trên felly mae’n bwysig iawn eu bod yn gwirio manylion eu taith cyn teithio.

“Bydd gwaith hanfodol Network Rail yn Acton Grange yn effeithio ar ein gwasanaethau rhwng Caer a Manceinion yn ystod y rasys ar 27 Gorffennaf a 4 Awst, felly mae angen i gwsmeriaid fod yn ymwybodol o sut gallai hyn effeithio ar eu teithiau. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Network Rail a gweithredwyr trenau eraill i darfu cyn lleied â phosib ar wasanaethau. Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein gwefan https://trc.cymru/ neu drwy National Rail Enquiries.”

Dywedodd Chris Jackson, Cyfarwyddwr Rhanbarthol y Gogledd: “Rydyn ni’n gweithio gyda chydweithwyr ar draws y diwydiant rheilffyrdd i darfu cyn lleied â phosib ar wasanaethau, ond dylai cwsmeriaid fod yn ymwybodol y bydd llai o drenau nag arfer yn rhedeg i Gaer. Bydd y trenau sy’n rhedeg - ar hyd Llinell Canol Swydd Gaer - yn fwy prysur nag arfer ac rydyn ni’n cynghori cwsmeriaid i ganiatáu mwy o amser ar gyfer teithio.”

Dywedodd David Golding, cyfarwyddwr rheoli llwybrau dros dro Network Rail: “Prif linell Arfordir y Gorllewin yw rheilffordd defnydd cymysg brysuraf Ewrop. Dyma asgwrn cefn economaidd Prydain.

“Gyda mwy na 260 o drenau’n defnyddio’r gyffordd hon bob dydd, mae’n hollbwysig ein bod yn ei chadw mewn cyflwr da. Mae angen i ni osod cyffordd newydd yn ei lle a’i huwchraddio i sicrhau rheilffordd ddibynadwy i deithwyr am sawl blwyddyn i ddod.

“Er mwyn cyflawni gwaith ar y raddfa hon, mae’n rhaid i ni gau’r gyffordd am 16 diwrnod dros yr haf. Y dewis amgen fyddai sawl penwythnos o darfu ar deithwyr a chost uwch o lawer.

“Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr sy’n gweithredu trenau a nwyddau er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar wasanaethau a chadw cynifer o drenau’n symud â phosib.  Byddwn yn annog teithwyr i gynllunio ymlaen llaw a gwirio manylion eu taith cyn teithio yn www.nationalrail.co.uk.”

Mae Acton Grange yn rhan bwysig o brif linell Arfordir y Gorllewin rhwng Crewe a Preston.

Bydd y gwaith uwchraddio hanfodol dros yr haf yn codi safonau’r hen gledrau ac offer hyn ac yn gwneud prif linell Arfordir y Gorllewin, sy’n bwysig yn economaidd, yn fwy dibynadwy byth.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith a’i effaith ewch i www.networkrail.co.uk/WCMLActonGrange