English icon English

Cymru wedi ymrwymo i sero-net erbyn 2050, ond yr uchelgais yw taro’r nod yn gynt

Wales commits to net zero by 2050, but sets out ambitions to get there sooner

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw sut y bydd yn gwireddu ei hymrwymiad cyfreithiol i allyriadau sero-net erbyn 2050 gyda’r gobaith o ‘daro’r nod yn gynt’ wrth iddi baratoi ar gyfer COP26 [26ain Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd) ym mis Tachwedd.

Gwnaed y cyhoeddiad yn sgil adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) annibynnol a ddatgelodd fod allyriadau sero-net, er bod arbenigwyr wedi dweud na fyddent yn bosibl nac yn fforddiadwy, bellach yn bosibl o ddilyn polisi uchelgeisiol a thrwy ymdrech ar y cyd gan ‘Tîm Cymru’.

Dywed yr CCC fod tystiolaeth newydd yn dangos y gallai mwy o ostyngiadau yn y sector diwydiannol helpu i daro’r nod, gan fod cyfran fawr o allyriadau Cymru’n cael eu cynhyrchu gan nifer fach o lygrwyr mawr, fel gwaith dur Port Talbot.

Mae’r adroddiad yn dweud hefyd y bydd angen i bawb yng Nghymru wneud ei ran i leihau allyriadau, gyda rhagor na hanner yr argymhellion yn ymwneud yn rhannol os nad yn llwyr â newidiadau cymdeithasol neu ymddygiadol.  Mae hyn yn golygu bod angen i lywodraeth, cymunedau a busnesau weithio gyda’i gilydd i newid sut ydym yn teithio, yn siopa, yn gwresogi’n cartrefi, ac yn newid i ddiet carbon isel.  Ym mhob maes, mae angen gostyngiad mawr o ran faint o ynni ac adnoddau naturiol rydym yn eu defnyddio, i daro’r targedau.

Mae’r adroddiad yn nodi hefyd y rhyngddibyniaeth rhwng gweithrediadau a thargedau Cymru a rhai’r DU.  Ni all y DU fynd yn sero-net heb i Gymru weithredu, ond yn yr un modd, mae Cymru’n dibynnu ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael ag wynebu’r her a newid yn gyflym ac yn deg i ddyfodol carbon isel. 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cyfres o fesurau eleni fel ymateb i argyfwng yr hinsawdd ac i leihau’r nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu gollwng i’r atmosffer.  Mae’r newidiadau hyn yn mynd y tu hwnt i’r targedau arbed carbon gan y byddant o les i iechyd pobl Cymru ac yn rhoi cyfle i fyd natur ffynnu.

Maen nhw’n cynnwys cynlluniau ar gyfer sicrhau aer glanach, atal llygredd amaethyddol niweidiol a chamu’n bendant oddi wrth danwydd ffosil a thuag at ynni gwyrdd, gweithio at sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n sero-net erbyn 2030 a gwneud mwy nag ailgylchu i wneud Cymru’n wlad ddi-wastraff.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddatganiad hefyd ynghylch creu Coedwig Genedlaethol i Gymru, lle byddai ecosystemau coedwigoedd cysylltiedig yn estyn o un pen o’r wlad i’r llall.

Mae’r llwybr a argymhellir yng nghyngor yr CCC ar gyfer gostwng allyriadau yn golygu y byddai Cymru’n gwireddu ei hymrwymiadau o dan Gytundeb Paris, fel rhan o’r ymgais i gyfyngu twymo’r ddaear i 1.5°C.  Fodd bynnag, mae’r wyddoniaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod pethau’n mynd i gyfeiriad lawer mwy difrifol, gydag adroddiad diweddar gan y Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod y ddaear ar drywydd i dwymo fwy na 3°C.  Rhagwelir y bydd hynny’n achosi tywydd mwy dinistriol, yn gorfodi cannoedd ar filiynau o bobl o gwmpas y byd i adael eu cartrefi, ac anrhaith anadferadwy i ecosystemau’r byd.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyhoeddi ei bod yn argyfwng hinsawdd ond byddwn nawr yn defnyddio’r wybodaeth newydd i droi ein huchelgais am Gymru Sero-Net yn realiti.  Er inni wneud ymrwymiad mewn cyfraith heddiw i gyflawni hynny erbyn 2050, fe wnawn bopeth yn ein gallu i daro’r nod ynghynt.  Mae’r rhagolygon ar gyfer hinsawdd y ddaear yn enbydus ac nid ydym am roi’r gorau i’n hymdrechion i atal allyriadau difrodus rhag cael eu pwmpio i’r atmosffer a thwymo’n planed.  Nid yw gwneud dim yn opsiwn.

Fel gyda Covid, bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnom i gyd, ond y gwir plaen yw mai ein cymunedau mwyaf bregus fydd yn dioddef waethaf.  Rhaid newid i Gymru Sero-Net mewn ffordd deg a chyfiawn, i sicrhau dyfodol gwyrdd a glân sy’n golygu swyddi o ansawdd uchel heb adael yr un gymuned ar ôl.

“Mae’r llifogydd diweddar yn ein hatgoffa o’r hafog y mae tywydd cyfnewidiol eisoes yn ei greu.  Mae’r wyddoniaeth yn dweud wrthym y bydd digwyddiadau o’r fath yn digwydd yn amlach ac yn cryfhau wrth i’r ddaear dwymo.

“Er ein bod yn wlad fach, rydym yn gwneud mwy na’n siâr o bethau iawn. Cymru oedd un o’r ailgylchwyr gwaethaf yn y byd cyn datganoli ond bellach, mae’n un o’r gorau.  Roeddem yn allweddol i’r chwyldro diwydiannol wrth inni gyflenwi glo i’r byd, ond rydym yn awr yn edrych tuag at ddyfodol o ynni a swyddi gwyrdd.  Rydym hefyd wedi gwahardd ffracio gan fod y peryglon i’r amgylchedd ac i ddiogelwch pobl Cymru’n rhy fawr o lawer.

“Ac efallai’n bwysicach na dim, ni yw’r wlad gyntaf yn y byd i greu Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, i sicrhau bod yn rhaid i unrhyw benderfyniad gan y Llywodraeth fod yr un iawn ar gyfer ein plant a phlant ein plant, a’u plant hwythau hefyd.

“Y targedau uchelgeisiol newydd hyn i wneud Cymru’n Sero-Net yw’r peth iawn i’w wneud, ond ni fydd yn hawdd. Trwy Covid rydym wedi dangos bod gweithio fel Tîm Cymru’n gallu arbed bywydau a diogelu’n GIG ac rwy’n apelio ar bawb i weithio â’r un ysbryd i greu Cymru iachach, glanach a gwyrddach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”