English icon English
welsh flag-3

“Rydym wedi cyflawni dros Gymru a byddwn yn parhau i wneud hynny” – y Prif Weinidog

“We have and will continue to deliver for Wales” – First Minister

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei haddewidion allweddol i bobl Cymru, a hynny yn ystod un o’r cyfnodau anoddaf i lywodraethu ynddo yn ein hanes modern, meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw.

Mae tymor y llywodraeth hon wedi bod yn un na welwyd ei debyg o’r blaen. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu heriau sylweddol – cyni, Brexit, yr argyfwng hinsawdd a phandemig y coronafeirws.

Gallai unrhyw un o’r rhain fod wedi bod yn ddigon i daflu cynlluniau unrhyw lywodraeth oddi ar eu hechel.

Ond mae adroddiad blynyddol olaf Llywodraeth Cymru yn nhymor y bumed Senedd – a ddisgrifir gan y Prif Weinidog fel un "gwahanol i unrhyw dymor arall yn yr 20 mlynedd ers datganoli" – yn dangos bod y llywodraeth wedi gwireddu ei haddewidion i bobl Cymru.

Ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ei holl adnoddau ar waith i ymateb i’r pandemig Covid-19 byd-eang, gan ddefnyddio pob dull gweithredu sydd ar gael iddi i ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Diogelu GIG Cymru gan fuddsoddi mwy na £1.5bn o gyllid ychwanegol yn 2020-21 (ar ben ei gyllideb flynyddol) i sicrhau bod y cyllid angenrheidiol ganddo i ddelio ag effaith uniongyrchol y pandemig ar iechyd, ac i ddarparu rhaglen olrhain a diogelu’r GIG - y fwyaf llwyddiannus yn y DU - a'r rhaglen frechu fwyaf a welodd Cymru erioed.
  • Buddsoddi £2bn i gefnogi busnesau, gan gynnwys sefydlu Cronfa Cadernid Economaidd bwrpasol, sydd wedi helpu i ddiogelu 100,000 o swyddi, gan sicrhau bod gan economi Cymru sylfaen i adfer ac
  • Dyrannu mwy na £1bn o adnoddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau awdurdodau lleol i'w helpu i gynnal darpariaeth ar gyfer y rhai sydd ei hangen fwyaf. Mae hyn yn helpu i sicrhau y gall y bobl a'r teuluoedd hynny yr effeithiwyd arnynt fwyaf barhau i fanteisio ar y cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill, gan gynnwys ysgolion a gwasanaethau cymunedol. Mae hyn yn cynnwys darparu 133,000 o ddyfeisiau digidol i blant sy'n dysgu gartref a sicrhau prydau ysgol am ddim tan y Pasg 2022.

Yn ystod tymor y Senedd hon, hefyd, gwelwyd datblygiadau cyfansoddiadol o bwys, gan gynnwys Deddf Cymru 2017 a chyflwyno trethi datganoledig yng Nghymru, ac mae gan bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion cymwys o dramor hawl bellach i bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol.

Diolch i ddatganoli, mae gwariant Llywodraeth Cymru ar wasanaethau cyhoeddus 14% yn uwch na'r gwariant cyfatebol yn Lloegr – gyda £10,929 y pen yn cael ei wario yng Nghymru yn 2019-20.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

“Ers ffurfio'r llywodraeth hon yn 2016, rydym wedi wynebu cyfres o heriau, a fyddai ar eu pen eu hunain wedi achosi problemau sylweddol i unrhyw lywodraeth.

“Mae'r rhain i gyd wedi gorgyffwrdd â'i gilydd yn y cyfnod hwn o bum mlynedd – Brexit a'r ansicrwydd parhaus ynglŷn â'n perthynas â'r UE yn y dyfodol; y niwed arhosol a achoswyd gan fwy na degawd o gyni; argyfwng yr hinsawdd a phandemig y coronafeirws.

“Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym wedi parhau i wireddu’r addewidion a amlinellwyd yn ein rhaglen lywodraethu ac wedi rhoi ein holl adnoddau ar waith i ymateb i bandemig y coronafeirws, er mwyn diogelu iechyd, lles a bywoliaeth pobl.

“Rydym wedi cyflawni dros Gymru a byddwn yn parhau i gyflawni dros Gymru. Rydym yn parhau i ymateb i bandemig y coronafeirws ac yn darparu'r rhaglen frechu fwyaf a welodd Cymru erioed, gan sicrhau yr un pryd bod ein GIG yn cael ei ddiogelu. Mae gan ein heconomi sylfaen ar gyfer adfer ac ailgodi, a gall y bobl a'r teuluoedd hynny yr effeithiwyd arnynt fwyaf barhau i fanteisio ar ein cefnogaeth.”

Mae Gweinidogion wedi gweithredu'n llwyddiannus y chwe ymrwymiad allweddol a nodwyd ganddynt yn 2016 fel rhan o raglen lywodraethu uchelgeisiol i wella bywydau pobl ledled Cymru.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio: lansiwyd y Cynnig Gofal Plant ym mis Medi 2017, ac mae'n darparu addysg gynnar a gofal plant am ddim i blant tair a phedair oed. Cafodd 14,600 o blant fudd o'r cynnig ym mis Ionawr 2020.
  • Cronfa Triniaethau Newydd ar gyfer salwch sy'n bygwth bywyd: Fe'i lansiwyd ym mis Ionawr 2017, ac mae wedi darparu mwy na 260 o driniaethau newydd sy'n gwella bywydau ac sy'n achub bywydau, gan leihau'r amser cyfartalog y mae'n ei gymryd i feddyginiaethau a thriniaethau sydd newydd eu cymeradwyo fod ar gael i gleifion yn y GIG yng Nghymru, o 90 diwrnod i ddim ond 13 diwrnod.
  • Toriadau treth i bob busnes bach yng Nghymru: Nid yw hanner yr holl fusnesau yng Nghymru bellach yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl ar ôl i gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach parhaol gael ei gyflwyno fis Ebrill 2018.
  • Dyblu'r terfyn cyfalaf ar gyfer y rhai sy'n mynd i ofal preswyl i £50,000 ym mis Ebrill 2019, ddwy flynedd yn gynharach na'r disgwyl. Dyma'r cynllun mwyaf hael yn y DU.
  • Creu 100,000 o brentisiaethau o safon i bob oedran i helpu miloedd o bobl i ddysgu sgiliau newydd gan ennill cyflog yr un pryd. Cyrhaeddwyd y targed hwn yn 2020. Roedd mwy na hanner y rhai a gymerodd ran yn y cynllun prentisiaethau yn 25 oed a throsodd.
  • £100m ychwanegol i wella safonau mewn ysgolion – lleihau maint dosbarthiadau babanod, sefydlu'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a gwella’r ddarpariaeth addysgu a dysgu Cymraeg. Mae mwy na 90,000 o ddysgwyr ledled Cymru wedi cael budd o 176 o adeiladau ysgol a choleg newydd sbon neu welliannau i adeiladau, fel rhan o fuddsoddiad o £650m yn y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif ers 2016.

Mae’r Gweinidogion hefyd wedi gweithredu mewn nifer o feysydd blaenoriaeth trawsbynciol, gan gynnwys:

  • Y Blynyddoedd Cynnar: Siapio a gwella bywydau pob plentyn yng Nghymru drwy roi cymorth i fwy na 36,000 o blant mewn ardaloedd difreintiedig drwy Dechrau'n Deg bob blwyddyn. Hefyd, mae’r Cynllun Cymorth Gofal Plant yn ystod cyfnod y coronafeirws wedi darparu cymorth gofal hanfodol i 9,600 o blant cyn-ysgol sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol.
  • Tai: Sicrhau y gall pawb gael cartref fforddiadwy o ansawdd da drwy gyflawni’n llwyddiannus a rhagori ar y nod o 20,000 o dai fforddiadwy, a’r rhan fwyaf o'r rhain yn dai cymdeithasol. Yn ogystal, gwneud popeth posibl i atal digartrefedd, drwy helpu 5,000 o bobl i gael llety dros dro ers mis Mawrth 2020.
  • Iechyd Meddwl: Darparu'r driniaeth gywir yn gynnar drwy gynyddu’r cyllid sydd wedi’i neilltuo i wasanaethau iechyd meddwl 12.5%, i fwy na £700m , a defnyddio dull ysgol gyfan i ddarparu cymorth cwnsela i tua 11,500 o blant bob blwyddyn.
  • Gofal cymdeithasol: Sicrhau gofal tosturiol a rhoi urddas ac annibyniaeth i bobl drwy gynnal y cap ar daliadau am wasanaethau gofal y mae pobl yn eu cael yn eu cartrefi eu hunain hyd at uchafswm o £100, gan sicrhau tegwch ledled Cymru, tra bod pobl ar incwm isel yn talu llawer llai neu ddim o gwbl. Yn ogystal, mae’r Gweinidogion wedi cynyddu'r cyllid i hybu integreiddio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac wedi darparu taliad o £500 i weithwyr gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig.
  • Sgiliau a chyflogadwyedd: Rhoi'r sgiliau i bobl allu sicrhau gwaith teg a buddiol drwy sefydlu Cymru'n Gweithio a chefnogi cyflogadwyedd mwy na 50,000 o bobl, a buddsoddi £130m yn ychwanegol i gyflawni Ymrwymiad Covid i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
  • Datgarboneiddio: Helpu i greu amgylchedd glân ac iach i bawb drwy ymrwymo Cymru'n gyfreithiol i lwybr ar gyfer datgarboneiddio yn dilyn datgan Argyfwng Hinsawdd, sicrhau bod hanner anghenion trydan Cymru bellach yn dod o ffynonellau ynni adnewyddadwy, a chynnal safle Cymru fel gwlad sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol ym maes ailgylchu , gan gynyddu'r gyfradd ailgylchu o 5% ym 1999 i 65% heddiw.
  • Tlodi: Mabwysiadu dull llywodraeth gyfan o fynd i'r afael â thlodi drwy sicrhau nad yw 220,000 o aelwydydd yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl drwy ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a dod yn llywodraeth gyntaf y DU i ddarparu cyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol, ac estyn hyn i 2022.
  • Bioamrywiaeth: gwrthdroi'r dirywiad yn yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol drwy lansio rhaglen Coedwig Genedlaethol, plannu 25,000 o goed brodorol drwy fenter Coridorau Gwyrdd, a chreu 388 o erddi cymunedol drwy raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, gan ddod â natur i garreg drws pobl.

Yn ystod y bumed Senedd, mae 17 o Ddeddfau wedi cael y Cydsyniad Brenhinol a disgwylir dwy arall erbyn mis Mai 2021. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cyfreithiau sy'n cyflwyno trethi datganoledig newydd Cymru;
  • Cyflwyno cwricwlwm newydd i Gymru, a fydd yn hybu safonau uwch o ran llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd ac yn sicrhau bod dysgwyr yn fwy cymwys yn ddigidol, ac yn ddwyieithog;
  • Diwygio llywodraeth leol, gan gynnwys estyn y bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion cymwys o dramor;
  • Cyflwyno isafbris ar gyfer alcohol, i helpu i atal marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol;
  • Dileu'r amddiffyniad o gosb resymol ar blant, i amddiffyn plant rhag cosb gorfforol;
  • Diddymu'r Hawl i Brynu, i ddiogelu stoc tai cymdeithasol Cymru;
  • Gwahardd ffioedd asiantau gosod;
  • Diwygio'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol;
  • Diwygio'r system rhentu cartrefi;
  • Gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru;
  • Datgymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Undebau Llafur Llywodraeth y DU 2016 fel y maent yn gymwys i awdurdodau datganoledig yng Nghymru.

Nodiadau i olygyddion

Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru yn: https://llyw.cymru/adroddiad-blynyddol-llywodraeth-cymru-2020