English icon English

Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £6m mewn cwmni cynhyrchu papur blaenllaw ym Maesteg

£6m Welsh Government investment in leading paper production firm in Maesteg

Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi £6m i WEPA UK i gefnogi’i gynlluniau ehangu.  Bydd hyn yn arwain at greu 54 o swyddi a diogelu cannoedd ar ei safle ym Maesteg.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates y bydd help Cronfa Dyfodol Economi Llywodraeth Cymru’n hanfodol i ddatblygu safle’r cwmni yn felin bapur gwbl integredig, gan ddyblu’i chynhyrchiant.

Bydd peiriant papur newydd yn galluogi’r cwmni, un o brif gyflenwyr papur domestig y DU, i gynhyrchu 65,000 yn fwy o dunelli’r flwyddyn o bapur tŷ bach a phapur cegin ar gyfer y farchnad Brydeinig.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud wrth i Lywodraeth Cymru lansio’i Chenhadaeth Ailadeiladu a Chadernid Economaidd yr wythnos hon, sy’n esbonio sut y mae am fynd ati i ailadeiladu’r economi ar ôl covid, gyda phwyslais ar lesiant, sbarduno ffyniant, bod yn amgylcheddol gadarn a helpu pawb yng Nghymru i wireddu ei botensial. 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Mae WEPA yn gyflogwr arbennig o bwysig yn y rhanbarth, a bydd y £6m y bydd Llywodraeth Cymru’n ei fuddsoddi’n hanfodol i gefnogi’r economi leol ar adeg aruthrol o anodd.

“Rwy’n hynod falch y bydd ein buddsoddiad yn helpu’r busnes i greu swyddi o ansawdd da gan gynyddu swm ac amrywiaeth cynnyrch y busnes.

“Yr wythnos yma, lansiais ein Cenhadaeth Ailadeiladu a Chadernid Economaidd sy’n disgrifio sut y byddwn yn adfer ac yn ailadeiladu economi Cymru ar ôl y pandemig. Rydym yn glir bod helpu busnesau fel WEPA i arloesi a defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn allweddol i lwyddiant economi Cymru yn y dyfodol.

“Mae cyhoeddiad heddiw’n dangos unwaith eto ein bod yn benderfynol o ddod â ffyniant i bawb a helpu’n busnesau i lwyddo a ffynnu.”

Dywedodd Tony Curtis, cyd-reolwr gyfarwyddwr WEPA UK Ltd: “Mae WEPA UK Ltd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect mawr hwn ers y chwyn ac rydym yn ddiolchgar iddi am ei chefnogaeth ddi-dor.

“A hithau’n gyfnod mor ddigynsail, mae hwn yn ddatblygiad ffantastig ar gyfer ein busnes yn y DU, yn enwedig i’r gymuned rydym yn gweithio ynddi, ein cwsmeriaid ledled y DU ac i’n gweithwyr all nawr gynllunio’n hyderus at y dyfodol.

“Mae’r buddsoddiad yn creu capasiti cynhyrchu ychwanegol modern, ac yn gwella ansawdd y cynnyrch y gallwn ei gynnig; a bydd yn ein helpu hefyd i wneud gwaith y safle gyda’r mwyaf cynaliadwy yn ein diwydiant.

“Mae’r prosiect yn diogelu swyddi ein gweithlu o ragor na 270 o weithwyr ym Mhen-y-bont ac yn creu rhagor na 50 o swyddi newydd ar y safle.

“Hefyd, mae WEPA wedi cyflogi contractwr blaenllaw lleol o’r De i adeiladu’r prosiect.”

Dywedodd Martin Krengel, Pennaeth WEPA Group: “Mae ein parodrwydd i fuddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf yn rhan bwysig o strategaeth y Grŵp o baratoi ar gyfer y dyfodol.  Er gwaethaf COVID-19 a Brexit, mae Prydain yn dal i fod yn farchnad dwf bwysig i ni yn Ewrop.  O fuddsoddi yn ein cynlluniau, byddwn yn gallu bodloni disgwyliadau’n cwsmeriaid o ran ansawdd a chynaliadwyedd ein cynnyrch, hyd yn oed yn well yn y dyfodol.  Mae’n bwysig i ni ein bod yn cynhyrchu i’n cwsmeriaid yn y DU yn eu gwlad eu hunain. Mae’n golygu dyblygu capasiti cynhyrchu ein safle ym Mhen-y-bont.”