- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
19 Rhag 2018
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig cyfleoedd rhagorol i BBaChau yng Nghymru dendro am fusnes yn y sector trafnidiaeth yng Nghymru.
Rydym yn datblygu fframwaith o gyflenwyr i weithio gyda ni er mwyn gwella cysylltedd trafnidiaeth a sicrhau manteision ehangach i gymunedau Cymru.
Mae ein dull gweithredu cynaliadwy a moesegol yn rhoi pobl yn gyntaf ac yn cyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor. Yn unol ag amcanion Llywodraeth Cymru a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), mae gan Trafnidiaeth Cymru ofynion cadwyn gyflenwi amrywiol.
Yn 2019, bydd Busnes Cymru yn darparu gweithdai di-dâl yn canolbwyntio ar AD a chynaliadwyedd, gan ystyried y gofynion hyn yn fanylach er mwyn helpu BBaChau yng Nghymru i wella cyfleoedd i ennill y tendrau hyn. Cynhelir y gweithdai mewn lleoliadau ledled Cymru.
Gweithdy Hanfodion AD
Mae gofynion cadwyn gyflenwi allweddol Trafnidiaeth Cymru yn mynd i’r afael â materion fel AD, caethwasiaeth fodern, amrywiaeth, cyfle cyfartal, contractau dim oriau a defnyddio ffynonellau moesegol.
Bydd Busnes Cymru yn darparu gwybodaeth gefndir am Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) er mwyn sicrhau bod darpar gyflenwyr yn gallu ymateb i Gwestiynau Cyn-gymhwyso ar y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Dilynir hyn gan gynlluniau gweithredu ac ymarferion ymarferol i’ch helpu i wella’ch Arferion Cyflogaeth, gan drafod pynciau fel y Cyflog Byw, Gwrth-lwgrwobrwyo a Chaethwasiaeth Fodern.
Gweithdy Hanfodion Cynaliadwyedd
Mae gofynion cadwyn gyflenwi allweddol Trafnidiaeth Cymru yn mynd i’r afael â materion fel cynaliadwyedd, lleihau gwastraff, stiwardiaeth coedwigoedd a datgarboneiddio.
Bydd Busnes Cymru yn darparu gwybodaeth gefndir am Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) er mwyn sicrhau bod darpar gyflenwyr yn gallu ymateb i Gwestiynau Cyn-gymhwyso ar gynaliadwyedd. Dilynir hyn gan gynlluniau gweithredu ac ymarferion ymarferol i’ch helpu i wella perfformiad eich cwmni o safbwynt cynaliadwyedd a hyrwyddo’ch cyfrifoldeb corfforaethol a chymdeithasol.