Skip to main content

A new era for rail services from Transport for Wales is almost here

10 Hyd 2018

Beth mae hyn yn ei olygu i deithwyr?

Bydd cyfnod newydd i deithwyr ar drenau yng Nghymru a’r Gororau yn dechrau ddydd Sul 14 Hydref 2018 wrth i Trafnidiaeth Cymru gymryd yr awenau gan Trenau Arriva Cymru.
 
Yn ôl James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, gall teithwyr ddisgwyl i’w gwasanaethau rheilffyrdd gael eu trawsnewid ymhen dim ond pum mlynedd. Erbyn 2023, bydd 95% o deithiau ar drenau newydd gyda mwy o gapasiti a bydd 285 o wasanaethau ychwanegol bob dydd yn ystod yr wythnos.
 
“O ddydd Sul, bydd brand Trafnidiaeth Cymru yn dechrau ymddangos ar wisgoedd, o amgylch gorsafoedd ac ar drenau a phosteri”, meddai.
 
“Bydd teithwyr yn cael eu croesawu gan yr un staff, ac yn teithio ar yr un trenau ar yr un llwybrau ac amserlenni - ac, yn bwysicaf oll, bydd yr holl docynnau a brynwyd ganddynt yn dal i fod yn ddilys.
 
“Y tu ôl i’r llenni, bydd llawer mwy o newidiadau positif yn dechrau cael eu gwneud a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i deithwyr yn gyson.”
 
Mae “map rheilffyrdd” o welliannau bellach wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer cwsmeriaid. Mae’r animeiddiad “Teithio i Lawr y Lein” yn dangos yr holl welliannau trawsnewidiol erbyn 2025 sy’n cynnwys gorsafoedd newydd a gwell, gwasanaethau gwell, mwy o gerbydau, trenau newydd a threnau wedi’u hailadeiladu’n llwyr, tocynnau gwerth gwell am arian, cardiau teithio talu wrth deithio, wifi am ddim, hygyrchedd gwell i’r rheini â phroblemau symudedd ym mhob gorsaf, a gwefannau ac apiau newydd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i deithwyr ac i’w helpu i brynu tocynnau’n hawdd. 

Esboniodd Mr Price fod tîm Trafnidiaeth Cymru wedi cynllunio’r holl welliannau gan ganolbwyntio’n bennaf ar y gwahaniaeth mae gwasanaeth rheilffyrdd dibynadwy yn ei wneud i fywydau pobl.
 
“Rydyn ni’n gwybod beth mae teithio ar drenau dibynadwy yn ei feddwl i bobl, ac mae’n golygu mwy na dim ond mynd o A i B. Mae’n golygu cyrraedd cyfweliad swydd mewn da bryd, cyrraedd adref mewn pryd i roi bath i’r plant, neu gyrraedd y gwaith cyn i’ch shifft ddechrau. Dyfarnwyd y contract yma ar y sail honno - beth y bydd yn ei gyflawni i deithwyr yng Nghymru a’r Gororau. 
 
“Felly mae’r llinell amser hon wedi cael ei datblygu er mwyn rhoi’r hyder i bobl y bydd y trên yn mynd â nhw i ble mae angen iddyn nhw fynd ar amser ac yn gyfforddus, gan ddefnyddio gwasanaeth aml, dibynadwy a gwerth da am arian. Ac nid dim ond i fynd i’r gwaith neu’r ysgol, ond hefyd ar gyfer dyddiau allan a theithiau i ffwrdd - felly, er enghraifft, bydd mentrau tocynnau newydd ar gyfer plant 6-18 oed yn cael eu cyflwyno erbyn 2020 a bydd trenau cyntaf cynharach gyda 22% yn fwy o wasanaethau ar ddydd Sul ledled Cymru erbyn 2020. 
 
“Bydd y gwelliannau rydyn ni eu hangen i gyrraedd y pwynt yna - mwy o drenau a gorsafoedd gwell, gwasanaethau newydd ac amlach gyda mwy o gapasiti - yn cymryd rhywfaint o amser i’w cyflawni. Bydd rhai ardaloedd yn gweld gwelliannau sylweddol yn gynt - bydd gogledd a de Cymru yn gweld gwasanaethau ychwanegol o fewn blwyddyn, er enghraifft, bydd gwasanaethau newydd rhwng Caer a Lerpwl yn ystod hanner cyntaf 2019 ac rydyn ni’n ymestyn dau o’r gwasanaethau hyn i wasanaethu Wrecsam. Ar ben hyn, byddwn yn dyblu pa mor aml bydd trenau’n teithio o Wrecsam i Bidston erbyn 2022.

“Mae’r modd rydyn ni wedi mynd ati i gynllunio'r rhaglen welliannau yn golygu y bydd y gwasanaeth yn well o lawer i bobl erbyn 2025. Yn bwysicach oll, byddwn yn gweithredu model sy’n cymell gweithredwr Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru i dyfu’r gwasanaeth heb arwain at elw eithafol o uchel. Bydd cap yn gwneud yn siŵr bod unrhyw elw ychwanegol yn dod yn ôl i Trafnidiaeth Cymru er mwyn ei ailfuddsoddi mewn trafnidiaeth.
 
“Rydyn ni’n gwario er mwyn gwella. Yn hytrach na safon y diwydiant o ad-dalu am oedi o 30 munud, bydd ymrwymiad newydd i ad-dalu am oedi o 15 munud neu fwy o fis Ionawr 2019 ymlaen.

“Mae’r daith honno’n dechrau ddydd Sul - ac rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl Cymru a’r Gororau yn ymuno â ni ar ei chyfer”.
 
Gall teithwyr gael rhagor o wybodaeth a phrynu tocynnau o wefan newydd i gwsmeriaid Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru trctrenau.cymru ddydd Sul 14 Hydref.