- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
14 Hyd 2018
Gall Gwasanaeth Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau fod y gwasanaeth rheilffyrdd gorau i deithwyr yn y DU o fewn y 15 mlynedd nesaf.
Dyma'r neges gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fydd yng ngorsaf Pontypridd heddiw i nodi diwrnod cyntaf llawn gwasanaethau rheilffyrdd newydd Cymru a'r Gororau.
Yn y lansiad, fydd yn golygu diwedd ar y berthynas 15 mlynedd gyda Threnau Arriva Cymru, bydd y Prif Weinidog yn trafod pwysigrwydd hanesyddol ac economaidd y contract newydd. Bydd yn dweud:
“Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i reilffyrdd yng Nghymru - yn wir ar gyfer datganoli.
"O dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, gyda'n partneriaid KeolisAmey, dyma fydd y gwasanaeth rheilffyrdd cyntaf 'wedi'i wneud yng Nghymru', wedi'i gynllunio a'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru.
"Mae'r cyfle i ail-gynllunio a gosod pwrpas newydd i'n rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn gyfle a ddaw unwaith mewn oes, a dwi'n hyderus y bydd y gwasanaeth rheilffyrdd gorau i deithwyr yn y DU erbyn 2033."
"Mae'r cyfle i ddatblygu system drafnidiaeth integredig sy'n annog twf economaidd ac sy'n cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus yn well ar draws pob plaid wleidyddol, a'r cyfle i ddatblygu systemau Metro yma yn Ne-ddwyrain Cymru, yn y Gogledd-ddwyrain a ger Bae Abertawe, yn tynnu sylw ledled y byd."
Bydd hefyd yn talu teyrnged i'r bobl ar y rheng flaen:
"Mae'n bwysig deall y bydd ein huchelgeisiau dewr yn cymryd amser i ddwyn ffrwyth ac ni fydd hyn yn digwydd dros nos. Fodd bynnag, pan fyddaf yn siarad â'r gyrwyr, y staff cynnal a chadw neu'r staff yn y neuaddau tocynnau ledled Cymru, mae eu brwdfrydedd a'u hyder yn yr hyn y gall ein rhwydwaith rheilffyrdd fod yng Nghymru yn creu argraff arnaf bob tro.
"Rydyn ni'n lwcus i gael cynifer o bobl, sy'n dod i weithio i'r gwasanaeth pob diwrnod, ac sydd wir am wella pethau - ac sy'n gweld y posibiliadau i ddatblygu. Rydyn ni am ddefnyddio eu syniadau a gwneud ein rheilffyrdd yn esiampl i bawb ledled y byd."
Wrth siarad mewn digwyddiad cynharach yng Ngogledd Cymru, rhoddodd Ken Skates yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth amlinelliad o rai o'r nifer o welliannau y mae disgwyl i deithwyr eu gweld yn yr ychydig wythnosau, misoedd a blynyddoedd nesaf:
“Gyda'r buddsoddiad yn rhoi cyfanswm o bron £5 biliwn dros y ddegawd a hanner nesaf, caiff ein rhwydwaith ei thrawsnewid. Rydym wedi ymrwymo £800 miliwn i ddarparu trenau newydd ar draws y rhwydwaith, fydd erbyn 2023 yn golygu bod 95% o deithiau rheilffyrdd yn cael eu gwneud ar drenau newydd. Bydd £194 miliwn arall yn cael ei roi i wella profiadau teithwyr yn ein gorsafoedd ledled rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
“Mae £738 miliwn wedi ei glustnodi i foderneiddio'r rheilffyrdd metro canolog, gan alluogi mwy o drenau i redeg pob awr. Bydd gwasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn cynnig 600 o swyddi newydd a 450 o brentisiaethau dros gyfnod 15 mlynedd y contract.
“Bydd teithwyr yn mwynhau manteision cyflwyno tocynnau doeth ar draws y rhwydwaith, a thrwy gynnig teithio am ddim i blant dan 11 a thocynnau hanner pris i bobl ifanc rhwng 16 ac 18 mlwydd oed, byddant yn gweld gwelliannau economaidd hefyd.
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Gymru, ac rydym yn dymuno pob llwyddiant wrth gyflawni'r newidiadau trawsnewidiol hyn ar ein rhan.”
Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:
“Mae gan Trafnidiaeth Cymru gynlluniau arloesol i chwyldroi trafnidiaeth ledled Cymru ac uchelgais i greu gwasanaeth rheilffyrdd sy’n rhoi’r cwsmer yn gyntaf. Mae cymryd yr awenau o ran rheoli gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau yn gam pwysig iawn ar daith drawsnewid gyffrous a fydd hefyd yn creu Metro De Cymru.”
Dywedodd Kevin Thomas, Prif Weithredwr Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:
“Mae ein cwsmeriaid, pobl Cymru a’r ardaloedd ar y ffin yn haeddu gwasanaeth sy’n cyd-fynd â gweledigaeth y Llywodraeth. Rydyn ni’n gwybod bod gan bobl ddisgwyliadau uchel o ran y trawsnewid a fydd yn digwydd yn y blynyddoedd nesaf. Rydyn ni’n benderfynol o ennyn eu ffydd ynom a datblygu gwasanaeth sy’n rhagori ar eu disgwyliadau.”