Skip to main content

Transport for Wales expands board and strengthens top team with new appointments

31 Awst 2018

Bydd Heather Clash ac Alexia Course yn ymuno â Thrafnidiaeth Cymru wrth i'r cwmni baratoi i gymryd yr awenau o ran rheoli gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau o ganol mis Hydref ymlaen.

Mae Heather Clash yn ymuno â Thrafnidiaeth Cymru fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid. Mae hi’n gyfrifydd CIMA cymwys ac mae ganddi radd mewn Cyfrifeg o Brifysgol Caerdydd. Bydd Heather hefyd yn ymuno â bwrdd y cwmni, gan gynyddu nifer yr aelodau benywaidd ar y bwrdd i bedwar allan o saith.

Mae Heather yn weithiwr cyllid proffesiynol a phrofiadol ac fe fydd yn ymuno â Thrafnidiaeth Cymru o Capita Group; hi oedd Cyfarwyddwr Cyllid Adran ITS Capita, ac roedd yn gyfrifol am dîm o weithwyr Cyllid proffesiynol a oedd yn cynnal Gweithredoedd yng nghyswllt partneriaethau er mwyn sicrhau refeniw o £110m. Cyn gweithio i Capita, bu Heather yn gweithio mewn amryw o rolau uwch yn y cwmni FTSE 100, Compass Group plc.

Wrth roi sylwadau ynghylch ei phenodiad, dywedodd Heather Clash: “Rwyf yn falch iawn o fod yn ymuno â bwrdd Trafnidiaeth Cymru ar adeg mor dyngedfennol. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i drafnidiaeth yng Nghymru ac mae gan Drafnidiaeth Cymru strategaeth uchelgeisiol i Gadw Cymru i Symud. Rwyf yn awyddus i ddefnyddio fy sgiliau a fy mhrofiad i helpu i lywio cyfeiriad strategol y cwmni.”

Bydd Alexia Course yn ymuno â'r tîm fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau Rheilffyrdd ar ôl bod yn gweithio i Network Rail, lle roedd yn Gyfarwyddwr Rhaglen newid llwybr gyda chyfrifoldeb dros Lwybr Cymru. Mae Alexia wedi treulio ei gyrfa yn gweithio ym maes rheilffyrdd ac mae ganddi gyfoeth o brofiad yn y maes i’w rannu â Thrafnidiaeth Cymru. Bu’n gweithio mewn nifer o swyddi masnachol a busnes uwch yn Network Rail, gan gynnwys gweithio fel Cyfarwyddwr Masnachol Llwybr ar gyfer Llwybr Cymru. Mae gan Alexia gymhwyster ôl-radd mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Busnes o Brifysgol Warwick.

Ychwanegodd Alexia Course: “Mae Trafnidiaeth Cymru yn trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac fe fyddaf yn canolbwyntio ar arwain y gwaith o ddatblygu gwasanaeth trenau sy’n cynnig cyfleoedd i bobl, cymunedau a busnesau yng Nghymru. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’n rhanddeiliaid i ddarparu gwasanaethau diogel a dibynadwy sy’n diwallu anghenion ein teithwyr.”

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae Alexia a Heather yn brofiadol ac yn alluog ac rwyf yn falch iawn o’u croesawu nhw ill dwy i’r uwch dîm. Rwyf hefyd yn falch o weld Heather yn ymuno â'r bwrdd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn arwain y gwaith o ddarparu lefelau digyffelyb o fuddsoddiad mewn gwasanaethau trên yng Nghymru, gan gynnwys ein cynlluniau cyffrous ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a Metro De Cymru. Mae Alexia a Heather yn cynnig profiad gwerthfawr ac ymrwymiad i safon uchel a fydd yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau i’n cwsmeriaid mewn modd effeithiol, yn ogystal â chyflawni ein gweledigaeth o Gadw Cymru i Symud.”

Mae Nick Gregg, Cadeirydd Dros Dro Trafnidiaeth Cymru, yn croesawu’r penodiadau: “Wrth i Drafnidiaeth Cymru symud ymlaen at gyfnod newydd, mae'r penodiadau hyn yn dangos ein safle fel sefydliad darparu arbenigol. Mae gan Alexia a Heather brofiad a sgiliau a fydd yn ategu ac yn gwella ein huwch dîm wrth i ni Gadw Cymru i Symud. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gydag Alexia a Heather ac rydw i’n falch iawn o groesawu Heather i'r bwrdd.”