- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
28 Meh 2018
Bydd yr aelodau bwrdd newydd yn ymuno â Chadeirydd Dros Dro Trafnidiaeth Cymru, Nick Gregg, ac aelodau presennol y bwrdd, Martin Dorchester a James Price. Bydd dau aelod o’r bwrdd, Peter Kennedy a Brian McKenzie, yn camu o’r neilltu ar ôl y cyfarfod nesaf o’r bwrdd ar 2il Gorffennaf.
Dyma aelodau newydd y bwrdd, a fydd yn mynychu eu cyfarfod bwrdd cyntaf ar 2il Gorffennaf:
- Sarah Howells, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid gyda’r gweithgynhyrchwr dodrefn o Gymru, Orangebox.
- Nikki Kemmery, Pennaeth Iechyd a Diogelwch gyda Dŵr Cymru Welsh Water.
- Alison Noon-Jones, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn Leidos Europe.
Gyda gweithredwr a phartner datblygu newydd rheilffordd Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru wedi’i benodi’n ddiweddar, mae Sarah, Nikki ac Alison yn ymuno â’r bwrdd ar amser cwbl allweddol. Byddant yn cryfhau bwrdd Trafnidiaeth Cymru ac yn creu mwy o amrywiaeth arno, gan gynnig cyfoeth o arbenigedd a phrofiad gwerthfawr mewn gwasanaethau cwsmeriaid, iechyd a diogelwch, ac adnoddau dynol.
Wrth groesawu’r penodiadau, dywedodd Cadeirydd Dros Dro Trafnidiaeth Cymru, Nick Gregg:
“Mae gan Trafnidiaeth Cymru rôl greiddiol i’w chwarae mewn arwain y weledigaeth dymor hir ar gyfer trafnidiaeth integredig yng Nghymru. Mae’r weledigaeth hon yn gweddnewid a bydd yn cael effaith sylweddol ar bobl, cymunedau a busnesau yng Nghymru. Nawr mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu Trafnidiaeth Cymru fel sefydliad arbenigol sy’n gallu cyflawni’r weledigaeth hon a Chadw Cymru’n Symud.
“Mae’n bleser mawr cael croesawu Sarah, Nikki ac Alison yn aelodau o’r bwrdd ac rwy’n hyderus y byddant yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiad Trafnidiaeth Cymru. Hefyd fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch i Peter a Brian am eu cyfraniad gwerthfawr i Trafnidiaeth Cymru a’i fwrdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”