English icon English

Hwb ariannol o £680m ar gyfer ymdrechion COVID Cymru

£680m Covid cash boost for Wales

Bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael hwb ariannol o fwy na £682m i gefnogi eu hymdrechion COVID dros y misoedd nesaf, dyna gyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw.

Mae’r pecyn yn cynnwys mwy na £635m ar gyfer y GIG a chynghorau lleol i’w helpu i gefnogi pobl Cymru dros y chwe mis nesaf.

Bydd yr hwb ariannol sylweddol hwn yn cefnogi ein rhaglen frechu flaenllaw fel y gallwn ddiogelu cymaint o bobl mor gyflym â phosibl; rhoi hwb i’n gallu i brofi a chryfhau ein rhaglen olrhain cysylltiadau hynod effeithiol.

Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys £206.5m ychwanegol ar gyfer y Gronfa Galedi i Lywodraeth Leol, i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol a sicrhau y gall ysgolion addasu i’w ffyrdd newydd o weithio.

Bydd £10.5m ychwanegol yn ymestyn y Gronfa Cymorth Dewisol, sy’n rhoi cymorth i’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Rydym hefyd yn cryfhau cymorth i brentisiaethau, sy’n rhan hanfodol o’n heconomi, gyda buddsoddiad ychwanegol o £16.5m ac yn darparu £18.6m ychwanegol i gynnal darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Drwy gydol y pandemig, mae rôl ein partneriaid yn y sector cyhoeddus – ein Gwasanaeth Iechyd ac awdurdodau lleol – wedi bod yn arwrol. Mae’r sector cyhoeddus wedi cydweithio i ddiogelu pobl Cymru mewn ffordd unigryw Gymreig.

“Bydd y pecyn sylweddol o fuddsoddiad yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yn helpu i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol mewn cyfnod anodd tu hwnt, nes daw’r argyfwng hwn i ben.”

Bydd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans yn rhoi manylion pellach am y cyllid ychwanegol pan fydd hi’n cyhoeddi Cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru yfory (dydd Mawrth, 2 Mawrth).